Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Nid ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer mynediad yn 2024 erbyn hyn.
Mae hylenwyr deintyddol yn weithwyr deintyddol cofrestredig sy'n cynorthwyo cleifion i gynnal iechyd geneuol trwy atal a thrin afiechyd periodontol a hyrwyddo arfer iechyd geneuol da. Gall hylenwyr deintyddol ymgymryd ag amrywiaeth eang o weithgareddau sydd o fewn eu cwmpas ymarfer, yn cynnwys crafu a sgleinio, cynllunio darparu gofal, hybu iechyd geneuol a thaenu fflworid arwynebol a chau tyllau hirgul.
Bydd y rhaglen newydd gyffrous hon yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi raddio fel hylenydd deintyddol cofrestredig fel y cydnabyddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Gall hylenwyr deintyddol barhau i ddatblygu eu hymarfer ar ôl cofrestru. Mae'n bosib arbenigo mewn grwpiau cleifion penodol, fel pobl hŷn neu bobl ag anghenion ychwanegol. Mae llawer o hylenwyr yn mynd ymlaen i fod yn therapyddion deintyddol, neu'n arallgyfeirio i addysg neu faes cysylltiedig arall fel orthodonteg. Mae'r cyfleoedd a'r dewis yn eang iawn ac maent yn cynnig gyrfaoedd gwerth chweil i chi a llawer o opsiynau i ddatblygu gyda chymorth.
Byddwch yn ennill profiad ymarferol trwy leoliadau clinigol amrywiol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd ledled gogledd Cymru, gan gynnwys practis deintyddol a ward ysbyty. Gwneir ymdrech i'ch rhoi mewn lleoliad sy'n agos at eich cyfeiriad yn ystod y tymor, ond disgwylir i chi fod yn barod i deithio pe bai'r lleoliad yn gofyn am hynny.
Bydd lleoliadau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn academaidd ochr yn ochr ag elfennau hyfforddedig y rhaglen. Trwy gydol y lleoliadau hyn byddwch yn cael eich mentora gan oruchwylwyr hyfforddedig. Byddwch hefyd yn cael mwy o gyfrifoldeb ac annibyniaeth wrth i'ch sgiliau clinigol, eich gwybodaeth a'ch profiadau ddatblygu.
Cewch eich dysgu mewn amgylchedd rhyngbroffesiynol ochr yn ochr â myfyrwyr nyrsio, radiograffeg, bydwreigiaeth a ffisiotherapi. Yn y modiwlau rhyngbroffesiynol hyn, byddwch yn dysgu pynciau sy'n gyffredin ar draws amrywiaeth o sectorau iechyd, gan roi dealltwriaeth eang o sut mae gofal iechyd wedi ei integreiddio ar draws amrywiaeth o barthau proffesiynol.
Arweinir y rhaglen gan diwtoriaid hylendid deintyddol yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd. Bydd gennych fynediad i fodelau pennau, darlithfeydd a seilwaith TG o'r radd flaenaf.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen cyllid y GIG.
Hyblygrwydd o ran lle y byddwch yn astudio
Cyflwynir llawer o elfennau hyfforddedig y cwrs trwy ddull dysgu cyfunol sy'n caniatáu i chi gyrchu rhai elfennau ar-lein, tra maent yn cael eu cyflwyno'n fyw ac fel adnoddau ar-lein yn ôl y galw. Dysgir elfennau damcaniaethol y cwrs hwn ar gampws Bangor.
Gall elfennau o'r cwrs fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a chewch gefnogaeth i gael mynediad i gynllun cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Am ragor o wybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr ysgol cliciwch yma.
Bwrsariaethau TG Myfyrwyr
Bydd Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â HEIW yn sicrhau nad yw mynediad at dechnoleg yn rhwystr i ymgeiswyr â chymwysterau addas sydd eisiau gyrfa ym maes gofal iechyd. Dan y cynllun hwn mae ymgeiswyr ar y cwrs hwn yn gymwys i gael bwrsariaeth gwerth £400 (mae telerau ac amodau yn berthnasol) i fynd tuag at brynu cyfrifiadur os ydynt yn byw yn un o'r 20% isaf (ardaloedd 1-382) ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gallwch weld a yw eich cod post yn eich gwneud yn gymwys ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru.
Cynnwys y Cwrs
Addysgir y rhaglen gan ddefnyddio dull cyfunol. Mae'r dull hwn yn defnyddio addysgu amser real wyneb yn wyneb ochr yn ochr â dysgu o gartref i hyfforddi myfyrwyr mewn amgylchedd dysgu colegol, hyblyg. Mae'r rhaglen yn cynnwys elfennau damcaniaethol, ymarferol a chlinigol. Disgwylir i'r cyfuniad hwn o elfennau sicrhau cydbwysedd o oddeutu 50:50 o theori ac ymarfer.
Cyflwynir yr elfennau damcaniaethol gan ddefnyddio cyfuniad o ddulliau yn cynnwys darlithoedd, seminarau, sesiynau tiwtorial, ac e-ddysgu. Byddwch yn rhan o garfan fach sy'n eich galluogi i ffurfio grŵp agos, lle mae dysgu a chefnogaeth gan gyfoedion yn cael ei annog a'i feithrin. Cyflwynir elfennau gorfodol y rhaglen mewn amgylchedd rhyngddisgyblaethol, gan rannu dysgu â myfyrwyr ar raglenni Nyrsio, Bydwreigiaeth a Radiograffeg.
Addysgir elfennau ymarferol y rhaglen gan ddefnyddio dilyniant strwythuredig i sicrhau eich bod yn gymwys ac yn ddiogel ac yn cael cefnogaeth. Yn y flwyddyn gyntaf, byddwch yn ymgymryd â hyfforddiant hanfodol gan ddefnyddio labordai sgiliau clinigol a modelau pennau. Yn dilyn hyn, byddwch yn dechrau ar gylched lleoliad mewn amrywiaeth o leoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd lle byddwch yn dysgu ac yn datblygu eich sgiliau clinigol mewn amgylchedd cymhwysol. Bydd y lleoliadau clinigol hyn yn parhau trwy gydol y rhaglen.
Cewch eich cefnogi gan diwtoriaid rhaglen trwy gydol eich dysgu. Y tiwtoriaid hyn yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer yr holl faterion academaidd, ymarferol a bugeiliol. Yn y clinig, rhoddir mentor clinigol i chi a fydd yn weithiwr deintyddol cofrestredig. Bydd y mentor hwn wedi ei hyfforddi i hwyluso eich llwybr trwy ofynion eich portffolio dysgu clinigol yn ddiogel ac yn drylwyr.
Mae holl elfennau'r rhaglen wedi eu mapio i gyd-fynd â gofynion y Cyngor Deintyddol Cyffredinol. Mae'r rhain yn nodi'r gofynion sylfaenol ar gyfer 'dechreuwr diogel' mewn perthynas â’r maes clinigol, cyfathrebu, proffesiynol a rheolaeth ac arweinyddiaeth.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Isod ceir enghraifft o strwythur y rhaglen ym mlwyddyn 1 a 2.
Blwyddyn 1:
- Gwyddor Biofeddygol
- Ymarfer Clinigol 1
- Sgiliau Clinigol
- Radiograffeg Ddeintyddol
- Clefydau Dynol
Blwyddyn 2:
- Ymarfer Clinigol 2
- Iechyd Deintyddol Cyhoeddus
- Meddygaeth a Phatholeg Eneuol
- Rheoli Cleifion
Cynhelir asesiadau trwy amrywiaeth o ddulliau. Mae asesiadau elfennau hyfforddedig y rhaglen yn cynnwys cwestiynau amlddewis, byrddau trafod grŵp, arholiad ysgrifenedig, a chyflwyniad ar sail achosion. Mae asesiadau elfennau clinigol y rhaglen yn gofyn i chi gwblhau asesiadau porth, arholiadau clinigol strwythuredig gwrthrychol a phortffolio clinigol digidol.
Cyfleusterau
- Ystafelloedd hyfforddi modelau pennau
- Labordai efelychu clinigol cywair-bur a chywair bras integredig a chefnogaeth sgiliau clinigol ar-lein.
- Dysgu cydamserol ac anghydamserol gyda chefnogaeth darlithoedd a recordiwyd.
- Blackboard Ultra
- Blackboard Collaborate
- Dull ystafell ddosbarth ddynamig ben i wared o ddysgu sy'n canolbwyntio ar y dysgwr
- Recordio darlithoedd
- Microsoft Teams
- Defnyddio Microsoft SWAY
- OneDrive
- Man cymdeithasol ar-lein
- Amserlennu byw
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Gofynion Mynediad
Y Broses Mynediad i Gyrsiau Proffesiynol
Mae'r ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol uwch a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y bwrdd iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Bydd y gwiriad cofnodion troseddol yn cynnwys gwiriad DBS uwch ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion, gan gynnwys gwiriad o'r rhestrau gwaharddedig. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig wneud gwiriad cofnod troseddol yn eu gwledydd preswyl. Rhaid i ymgeiswyr â chymwysterau mynediad sy'n hŷn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol. Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r ysgol ar health.applications@bangor.ac.uk
Meini prawf academaidd
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd a Bioleg/Gwyddoniaeth (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Gwneir cynnig i ddod am gyfweliad ar ôl ystyried profiad academaidd a/neu ymarferol.
- Lefel A: isafswm graddau BC yn cynnwys Bioleg. Fel rheol, ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMP mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, yn cynnwys modiwlau Bioleg.
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMP mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, yn cynnwys modiwlau Bioleg
- Lefelau T: Gellir eu hystyried fesul achos mewn pwnc sy'n ymwneud â gwyddoniaeth; rhaid cynnwys modiwlau Bioleg gydag isafswm Llwyddo (cysylltwch â ni am gyngor)
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol, yn cynnwys H4 mewn Bioleg
- Diploma Mynediad at AU mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth, yn cynnwys modiwla Bioleg: Llwyddo gyda phroffil Rhagoriaeth / Teilyngdod (uchafswm 27 gradd Llwyddo)
- Tystysgrif Gadael Ysgol Iwerddon: 72 pwynt o isafswm o 4 Pwnc Uwch, yn cynnwys H3 mewn Bioleg.
- Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru - derbynnir yn lle un Lefel A ar y radd Lefel A a nodwyd, a Bioleg Lefel A
- Gall cymhwyster Nyrsio Deintyddol sy'n cael ei gydnabod gan y GDC gael ei dderbyn yn lle un pwnc Lefel A (nodwch: rhaid i bwnc/pynciau lefel-A gynnwys Bioleg).
I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Cyfweliadau
Cewch gynnig i ddod am gyfweliad wedi i ni ystyried eich profiad academaidd / profiad gwaith. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddod am gyfweliad. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys cyfweliad anffurfiol, ymatebion senario a thrafodaeth grŵp. Mae'r rhain wedi eu cynllunio i ganiatáu i'r panel dethol ddeall nodweddion anacademaidd yr ymgeisydd sy'n berthnasol i'r rhaglen.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Sylwer: ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol.
Y Broses Mynediad i Gyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni cyfres o feini prawf mynediad; mae’r gofynion mynediad rheoleiddiol yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnodion troseddol manylach ac mae gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad o ran iechyd da. Bydd y gwiriad cofnodion troseddol yn cynnwys gwiriad DBS manylach ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion, gan gynnwys gwirio'r rhestrau gwaharddedig. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r Deyrnas Unedig gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hŷn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar a aseswyd ar lefel briodol. I gael rhagor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â health.applications@bangor.ac.uk
Gwneir cynnig i ddod am gyfweliad ar ôl ystyried profiad academaidd a/neu ymarferol.
Meini Prawf Academaidd
TGAU: fel arfer rhaid fod gan ymgeiswyr o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Saesneg, Mathemateg a Bioleg/Gwyddoniaeth (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.*
Mae cynigion yn seiliedig ar dariff, lleiafswm o 72 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3**, ee.:
- Cymwysterau Safon Uwch: Graddau isaf BC, rhaid iddynt gynnwys Bioleg gydag A2. Ni dderbyniwn Astudiaethau Cyffredinol na Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: o leiaf MMP mewn pwnc sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth. Rhaid ei bod yn cynnwys modiwlau Bioleg.
- Gellir derbyn Diploma Atodol BTEC yn lle un cymhwyster Safon Uwch: Teilyngdod o leiaf.
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt: o leiaf MMP mewn pwnc sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth, rhaid ei bod yn cynnwys modiwlau Bioleg.
- Lefelau T: Gellir eu hystyried fesul achos mewn pwnc sy'n gysylltiedig â gwyddoniaeth (rhaid iddynt gynnwys modiwlau Bioleg gyda llwyddo o leiaf, cysylltwch â ni am gyngor).
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys o leiaf gradd H4 mewn Bioleg.
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch mewn pwnc sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth: Llwyddo gyda phroffil Rhagoriaeth / Teilyngdod (uchafswm o 9 Llwyddiant a rhaid ei bod yn cynnwys modiwlau Bioleg).
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: o leiaf 72 pwynt mewn o leiaf 4 Pwnc Uwch (gan gynnwys H3 mewn Bioleg)
- Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru: gellir ei dderbyn yn lle un cymhwyster Safon Uwch (ar y radd Safon Uwch a nodir) ynghyd â chymhwyster Safon Uwch mewn Bioleg
- Gellir cyflwyno cymhwyster Nyrsio Deintyddol a gydnabyddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol (Lefel 3 / Lefel 4) yn lle un pwnc Safon Uwch (sylwer: rhaid i bwnc/pynciau Safon Uwch gynnwys Bioleg).
- Blwyddyn sylfaen mewn pwnc gwyddonol perthnasol: 60% neu fwy yn gyffredinol a 65% neu fwy yn yr holl fodiwlau Bioleg angenrheidiol. Mae cyrsiau derbyniol yn cynnwys: Gwyddorau Biofeddygol, Bioleg a Gwyddorau Meddygol.
Sylwer: Nid ydym yn derbyn cymwysterau Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn lle cymwysterau Gwyddoniaeth/Bioleg. Gall tystysgrifau ôl-gymhwyso mewn Nyrsio Deintyddol gryfhau cais ond ni ellir eu defnyddio i fodloni gofynion mynediad.
*NID ydym yn derbyn Sgiliau Gweithredol/Hanfodol mewn Saesneg/Mathemateg fel dewis amgen yn lle TGAU; Mae isafswm Tystysgrif Ymadael Iwerddon o O4 yn cyfateb i TGAU Gradd C/4.
**Ewch i www.ucas.com i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir.
Cyfweliadau
Gwneir cynnig i ddod am gyfweliad ar ôl ystyried profiad academaidd a/neu ymarferol. Bydd gofyn i ymgeiswyr ddod i ddigwyddiad dewis. Bydd hynny ar ffurf gorsafoedd Mini Gyfweliadau Lluosog (MMI), lle bydd gofyn ym mhob un i'r ymgeisydd naill ai gwblhau tasg neu ateb rhywfaint o gwestiynau byr.
Gofynion iaith Saesneg:
I’r rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf: IELTS: Mae angen 7.0 heb i unrhyw elfen fod yn is na 7.0. Nid oes unrhyw gymwysterau eraill yn dderbyniol a rhaid i ymgeiswyr ddarparu cadarnhad IELTS wrth wneud cais.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae hylenwyr deintyddol yn darparu gwasanaeth hanfodol mewn amrywiaeth o leoliadau gofal deintyddol. Gall graddedigion ddisgwyl gweithio mewn lleoliad clinigol gwasanaethau deintyddol cyffredinol neu wasanaethau deintyddol cymunedol. Yn y lleoliadau hyn, mae hylenwyr deintyddol yn gweithio fel rhan o'r tîm deintyddol ehangach, gan reoli eu cleifion eu hunain, ac ychwanegu at y gofal a ddarperir gan unigolion cofrestredig deintyddol eraill.
Disgwylir y bydd hylenwyr deintyddol yn cyfrannu’n gynyddol at ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru wrth i newidiadau polisi barhau i bwysleisio'r defnydd cynyddol o hylenwyr.
Gall hylenwyr deintyddol ganolbwyntio ar elfennau penodol o ofal neu weithio mewn lleoliadau gofal penodol, gan gynnwys ysbytai dysgu, ysgolion deintyddol, y lluoedd arfog, carchardai, neu gyfleusterau gofal preswyl.
Mae llwybrau gyrfa unigryw hefyd ar gael trwy ddatblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd dysgu gydol oes. Mae rhai hylenwyr deintyddol yn dod yn addysgwyr deintyddol, rheoleiddwyr ac academyddion.
Mae hylendid deintyddol hefyd yn fodd o symud ymlaen rhwng swyddi ym maes deintyddiaeth. Mae symud ymlaen o hylendid deintyddol i therapi deintyddol yn gyffredin.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.