Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Noder os gwelwch yn dda: mae'r cwrs hwn yn dechrau ym Medi 2025.
Mae'r cwrs Nyrsio Iechyd Meddwl (Llwybr Dysgu Gwasgaredig) ar gael i fyfyrwyr sy'n byw ym Mhowys yn unig.
Rydym hefyd yn cynnig Nyrsio Oedolion BN llwybr Dysgu Gwasgaredig.
Mae myfyrwyr Nyrsio iechyd meddwl (IM) yn dysgu am weithio gyda phobl o bob oed sydd ag amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl - gan roi sylw i'w hiechyd meddwl yn ogystal â'u hanghenion corfforol, cymdeithasol ac ysbrydol. Dyma raglen newydd wych a fydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i chi raddio fel nyrs iechyd meddwl gofrestredig, a byddwch yn mynd ar leoliadau ymarfer yn y gymuned ac yn yr ysbyty gyda'n sefydliadau partner ym Mhowys, ac mi gewch brofiadau mewn amrywiol feysydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd meddwl. Mae Nyrsys IM yn gweithio mewn amrywiol leoliadau. Gwelwn hynny yn y cyfleoedd sydd o ran lleoliadau sy'n cynnwys gwasanaethau cymunedol a chleifion mewnol fel IM plant a phobl ifanc, IM oedolion ac oedolion hŷn yn yr ysbyty, y carchar a gwasanaethau fforensig, gwasanaethau therapiwtig camddefnyddio sylweddau a chartrefi nyrsio.
Cefnogir nyrsys cofrestredig i ddysgu trwy gydol eu gyrfaoedd. Gwneir hynny yn y lle cyntaf drwy breceptoriaeth sy'n cynnig y gefnogaeth strwythuredig angenrheidiol i drosglwyddo'ch gwybodaeth yn llwyddiannus i ymarfer bob dydd, a thrwy ddatblygiad proffesiynol parhaus.
Mi wnaiff nyrsio iechyd meddwl eich arwain at yrfa dda a chyffrous, a heriol, fel nyrs iechyd meddwl. Bydd y cwrs yn eich galluogi i ddilyn gyrfa’n gweithio gyda phobl o bob oed sy’n wynebu heriau iechyd corfforol a meddyliol neu sy'n byw gydag anableddau dysgu ac sydd angen gofal nyrsio iechyd meddwl proffesiynol.
Cewch brofi amrywiaeth eang o leoliadau ymarfer clinigol yn y gymuned ac mewn adrannau cleifion mewnol ledled y gogledd fel myfyriwr nyrsio iechyd meddwl. Gallai hynny gynnwys:
- Gofal Cychwynnol
- Gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn y gymuned ac mewn lleoliadau preswyl
- Gofal mewn ysbytai iechyd meddwl i oedolion a phobl hŷn sydd ag anghenion 24 awr
- Timau iechyd meddwl cymunedol amlddisgyblaethol ar gyfer oedolion a phobl hŷn
- Gwasanaethau ysbyty diogel y carchardai ac unedau fforensig gyda chysylltiadau â'r gwasanaeth cyfiawnder troseddol
- Gwasanaethau triniaeth gartref, adferiad a gofal adfer llai dwys
- Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol
- Gwasanaeth y cof
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl Cyswllt
- Gwasanaethau therapiwtig ym maes cam-drin sylweddau, cymorth cymheiriaid a dadwenwyno.
- Ysbytai annibynnol a chartrefi nyrsio rhyngbroffesiynol.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfle i ennill gradd a chofrestru gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth. Dyma raglen israddedig dros 3 blynedd. Mae’n cynnwys modiwlau rhyngbroffesiynol a modiwlau sy’n benodol i faes iechyd meddwl sy'n cyfateb i 120 credyd y flwyddyn.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau drwy gydol y flwyddyn i ddilyn cyrsiau nyrsio, tra bo llefydd ar gael. Mae galw mawr am y llwybr hwn, ac rydym yn argymell i chi gyflwyno cais cyn gynted â phosib.
Gall elfennau o'r cwrs fod ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg a chewch gefnogaeth i gael mynediad at gymhelliant ariannol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am ddarpariaeth ddwyieithog yr ysgol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
Dysgu Gwasgaredig i Bowys
Dim ond i drigolion Powys a fydd yn byw ym Mhowys trwy gydol eu gradd y bydd y radd nyrsio dysgu lawn-amser dysgu cyfunol hon ar gael, gan ganiatáu iddynt astudio a pharhau i fyw ym Mhowys. Bydd elfennau hyfforddedig y cwrs hwn yn dilyn amserlen a gyflwynir trwy ein hamgylchedd dysgu rhithwir rhyngweithiol a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr gyrchu darlithoedd, seminarau a hyfforddiant sgiliau a gyflwynir yn fyw a’u recordio, a deunyddiau eraill i'ch helpu i gwblhau’r rhaglen yn eich amser eich hun.
Bydd cyswllt yn y cnawd gyda'n staff academaidd pob wythnos hefyd yn y ganolfan ym Mhowys ystod blociau addysgu theori. Bydd hyn yn sicrhau bod myfyrwyr yn cael cyfuniad gwych o addysgu a chefnogaeth bersonol ar-lein ac yn y cnawd sy'n hygyrch.
Bydd lleoliadau, sy'n 50% o'r cwrs, mor agos â phosib at gyfeiriad cartref myfyriwr, ond efallai y bydd rhaid teithio i leoliadau ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Yn ystod eich dysgu ymarfer, byddwch yn mynd i’ch lleoliad am 37.5 awr yr wythnos. Yn eich lleoliadau, cewch gyfle i ddatblygu a chymhwyso eich gwybodaeth a'ch sgiliau damcaniaethol mewn amgylchedd ymarferol, gan ddysgu am arfer gorau a rhagoriaeth gofal cleifion gan ymarferwyr, cleifion, gofalwyr a pherthnasau, a myfyrwyr o broffesiynau eraill fel radiograffeg, bydwreigiaeth, ffisiotherapi a gwaith cymdeithasol.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi eu talu'n llawn trwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Cyllid Myfyrwyr. Cyllidir y cwrs hwn gan GIG Cymru a dim ond myfyrwyr sy'n hanu o Bowys sy'n gymwys i wneud y radd hon.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen gyllid y GIG.
Bwrsariaethau TG Myfyrwyr
Bydd Prifysgol Bangor mewn partneriaeth â HEIW yn sicrhau nad yw mynediad at dechnoleg yn rhwystr i ymgeiswyr â chymwysterau addas sydd eisiau gyrfa ym maes gofal iechyd. Dan y cynllun hwn mae ymgeiswyr ar y cwrs hwn yn gymwys i gael bwrsariaeth gwerth £400 (mae telerau ac amodau yn berthnasol) i fynd tuag at brynu cyfrifiadur os ydynt yn byw yn un o'r 20% isaf (ardaloedd 1-382) ym Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Gallwch weld a yw eich cod post yn eich gwneud yn gymwys ar y dudalen hon ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gofynion technegol i astudio'r cwrs gwasgaredig hwn
- Cyfrifiadur PC neu Mac, gwe-gamera a chlustffonau. Bydd y mwyafrif o gyfrifiaduron o dan 5 oed yn ddigon da.
- Mynediad i'r rhyngrwyd cyflymder lleiaf o 2Mbit yr eiliad - nodwch, os oes rhywun arall yn eich cartref yn defnyddio eich cysylltiad rhyngrwyd ar yr un pryd, bydd angen cyflymder cyflymach arnoch neu fod yr unig un yn y tŷ sy’n defnyddio’r cysylltiad yn ystod sesiynau.
- Mynediad i borwr gwe Chrome (mae hwn am ddim i'w lawrlwytho i ddefnyddwyr Mac a Windows)
- Bydd angen copi o Microsoft Office 365 arnoch hefyd - mae gan fyfyrwyr Bangor hawl i gael copi am ddim i'w ddefnyddio yn ystod eu hastudiaethau. Gellir lawrlwytho hwn ar ôl i fyfyrwyr gofrestru ar eu cwrs a chael eu manylion TG Bangor.
- Sylwer nad yw Chromebooks yn cael eu hystyried yn addas i'w defnyddio gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyrsiau o bell/gwasgaredig.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs Nyrsio Iechyd Meddwl (Llwybr Dysgu Gwasgaredig i fyfyrwyr ym Mhowys) bydd yn orfodol i chi wneud astudiaeth ddamcaniaethol a lleoliadau clinigol mewn ysbytai a lleoliadau cymunedol a/neu breswyl yn y gogledd. Mae’r lleoliadau’n darparu profiadau dysgu rhagorol yn seiliedig ar ymarfer ledled Powys i fyfyrwyr y rhaglen. Mae'r lleoliadau yma o dan oruchwyliaeth yn eich galluogi i arsylwi gweithwyr proffesiynol yn y gwaith, arsylwi gwaith tîm o ansawdd uchel, a’ch galluogi i gyfrannu at ddarparu gofal nyrsio gyda chefnogaeth, wrth ddatblygu eich hyder a'ch sgiliau mewn sawl maes o ymarfer nyrsio.
Cewch gefnogaeth ragorol gan diwtor personol sy'n nyrs gofrestredig ac yn aelod o’r staff academaidd. Ar y rhaglen hon, cynigir cyfarfod wythnosol yn gefnogaeth ym Mhowys sy'n gyfleus i chi, a fydd yn gyfle i drafod a chefnogi sawl agwedd ar ddysgu damcaniaethol a chlinigol wyneb yn wyneb.
Ar y lleoliadau, cewch eich goruchwylio a'ch asesu gan nyrsys cofrestredig a phrofiadol sy’n ymarfer a gweithwyr proffesiynol eraill. Caiff gwaith theori a gwaith ymarferol ei asesu trwy aseiniadau, arholiadau, cyflwyniadau a thrwy asesu portffolio Ymarfer Clinigol Cymru Gyfan.
Ble byddaf yn astudio?
Cyflwynir elfennau hyfforddedig y cwrs Nyrsio Iechyd Meddwl (Llwybr Dysgu Gwasgaredig i fyfyrwyr ym Mhowys) gyda dull cyfun ac amrywiaeth o lwyfannau ar-lein a rhithiol yn ogystal â chysylltiad yn y cnawd pob wythnos yn ystod y tymor ym Mhowys. Caiff lleoliadau ymarfer eu dyrannu i bob myfyriwr yn unigol ac mor agos i'w cartref â phosib.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Athroniaeth sylfaenol Prifysgol Bangor yw hyrwyddo caredigrwydd deallus ac arweinyddiaeth dosturiol, ac mae'r rhain yn rhan annatod o’r cwricwlwm cyfan. Modiwlau rhyngbroffesiynol sy’n hyrwyddo dull sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr ac yn cydnabod gwerth dysgu o brofiadau'r gorffennol a'r presennol a dysgu o brofiad defnyddwyr y gwasanaeth a thrwy gyflwyno gwybodaeth newydd. Mae'r strategaethau dysgu, addysgu ac asesu wedi eu llunio i helpu'r myfyrwyr fod yn ddysgwr annibynnol a datblygu’n ymarferydd cofrestredig. Cafodd y strategaeth asesu ei chynllunio i fod yn elfen flaengar drwy’r rhaglen gyfan a bydd yn eich annog i ddatblygu sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol. Mae'r modiwlau'n meithrin dysgu adfyfyriol; gall dysgwyr adfyfyriol gymryd rhan mewn adfyfyrdod annibynnol er mwyn cyflawni dysgu personol ac er mwyn canlyn rhagoriaeth mewn ymarfer. Ymchwil sy’n tywys y Brifysgol, ac rydym wedi ymgorffori egwyddorion a sgiliau ymchwilio ac ymholi yn y modiwlau hyn mewn modd blaengar sy’n galluogi'r myfyriwr i ddod o hyd i dystiolaeth ac yna mynd ati i ddatblygu (blwyddyn un) i werthuso tystiolaeth (blwyddyn dau) ac yn olaf i gymhwyso tystiolaeth (blwyddyn tri).
Yn y rhaglen nyrsio dysgu gwasgaredig ym Mhowys, bydd addysg rhyngbroffesiynol yn rhan allweddol o ddysgu ymarfer gofal iechyd; y nod yw darparu’r wybodaeth, y sgiliau a'r agweddau sy'n angenrheidiol at ymarfer cydweithredol sy'n canolbwyntio ar y claf. Bydd y rhaglen ddysgu wasgaredig yn cynnwys addysg ryngbroffesiynol sy'n ddull dysgu rhyngweithiol penodol sy'n annog cydweithredu gweithredol ymhlith y proffesiynau.
Wrth ddefnyddio'r fethodoleg hon ar y rhaglen, bydd gennych y gallu i ddatblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r cymhwysedd mewn perthynas â gwerthoedd, moeseg, swyddogaethau, cyfrifoldebau a chyfathrebu rhyngbroffesiynol. Mae addysg ryngbroffesiynol yn rhoi cyfle i chi brofi sut mae disgyblaethau eraill yn rhoi pwyslais gwahanol ar feysydd fel moeseg broffesiynol a chydweithio i ddarparu gofal cynhwysfawr i gleifion.
Ar leoliadau ymarfer, cewch gyfleoedd i gydweithio â gweithwyr proffesiynol fel ffisiotherapyddion, radiograffwyr, bydwragedd a gweithwyr cymdeithasol. Mae Prifysgol Bangor yn datblygu modelau ar gyfer lleoliadau rhithiol yn unol â safonau’r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn datblygu defnydd o rithrealiti yn ei rhaglenni cyfredol er mwyn rhoi’r sgiliau a'r wybodaeth i fyfyrwyr fod yn ymarferwyr hyfedr mewn gweithlu rhyngbroffesiynol, yn unol â’r canllawiau ymarfer gorau, ac er lles gofal y cleifion at y dyfodol.
Ar gyfer mynediad 2022 mae'r rhaglen Baglor mewn Nyrsio (dysgu gwasgaredig Powys) wedi ei llunio yn unol â Safonau Hyfedredd i Nyrsys Cofrestredig 2018 y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth a Nyrs y Dyfodol: Safonau hyfedredd. Mae'r rhaglen newydd yn sicrhau fod gan nyrsys well dealltwriaeth o anghenion cleifion/cleientiaid ym mhob un o bedwar maes ymarfer nyrsio, a hynny gan barhau i ganolbwyntio ar faes penodol. Mae'r rhaglen yn paratoi nyrsys cofrestredig y dyfodol â sgiliau gweithio mewn tîm a sgiliau arweinyddiaeth a chyda rhagor o wybodaeth am iechyd y cyhoedd, sydd ei angen i ddarparu gofal mewn gwahanol leoliadau i gefnogi iechyd a lles y bobl byddwch yn gofalu amdanynt.
Byddwch yn datblygu sgiliau rhyngbersonol therapiwtig a’r ymddygiadau, y gwerthoedd a’r agweddau proffesiynol a ddisgwylir gan nyrs iechyd meddwl i ddiogelu ac amddiffyn pobl o bob oed a'u gofalwyr a'u teuluoedd. Byddwch yn datblygu sgiliau i asesu anghenion iechyd meddwl; llunio, cynllunio ac adolygu gofal iechyd meddwl; gweithredu gofal ac ymyriadau therapiwtig ar gyfer iechyd meddwl; a chymhwyso deddfwriaeth iechyd meddwl i ymarfer.
Cyfleusterau
- Mae Blackboard, sef amgylchedd dysgu ar-lein Prifysgol Bangor, yn caniatáu i chi gyrchu cynnwys modiwl, deunydd cwrs wedi ei recordio ymlaen llaw, seminarau, byrddau trafod a mynediad at ddarlithoedd byw os oes angen. Gellir cyrchu'r cynnwys ar unrhyw adeg sy'n gyfleus i chi, ac mae modd rhyngweithio gyda myfyrwyr eraill mewn ystafell gyffredin rithwir.
- Mae ein dull o ddysgu yn eich rhoi chi yn y canol, rydym yn defnyddio llawer o wahanol lwyfannau meddalwedd - fel Teams, OneDrive a Microsoft SWAY ac ati.
- Bydd sgiliau clinigol yn cael eu cyflwyno mewn amgylchedd rhithwir deinamig a rhyngweithiol i efelychu'r profiad dysgu ymarfer a’ch galluogi i ddatblygu sgiliau clinigol. Rydym yn defnyddio meddalwedd Laerdal vSim sy'n system efelychu rhithwir ar y we fydd yn helpu i fagu eich hyder a chymhwysedd wrth ddarparu gofal i gleifion gan ei fod yn caniatáu i fyfyrwyr ryngweithio â chleifion ar-lein mewn amgylchedd diogel a realistig ac mae’n darparu adborth unigol. Rydym hefyd yn defnyddio llwyfan sgiliau clinigol ar-lein i gefnogi ein haddysgu sgiliau clinigol ac i fyfyrwyr roi arfer gorau ar waith.
- Yn ystod y lleoliad bydd gennych gefnogaeth tiwtor cyswllt o'r brifysgol ac mae gennym hefyd hwyluswyr addysg ymarfer/hwyluswyr addysg ysbyty cymunedol sydd hefyd yn cefnogi myfyrwyr trwy gydol y lleoliad.
Cyfleusterau Nyrsio
- Mae gan y Brifysgol gyfleusterau sgiliau clinigol sydd newydd eu hadnewyddu sy'n cynnwys ystafell gywair-bur dau wely, ward saith bae a mannau sgiliau clinigol hyblyg ychwanegol sy'n caniatáu i ystod o sgiliau clinigol gael eu dysgu i fyfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
- Mae Efelychu Cywair-bur yn cynnwys defnyddio delwau soffistigedig naturiol mewn amgylcheddau cleifion realistig, gyda’r delwau hyn yn gallu dynwared yn fanwl iawn ystod eang o ystumiau’r corff dynol. Bydd y dysgu trochi hwn yn cynnwys defnyddio efelychiad i gyflwyno myfyrwyr i sefyllfaoedd cymhwysol (trwy brofiad rhithwir), gan roi'r cyfle i chi ymarfer sgiliau a rhyngweithio â'r cyd-destun penodol.
- Mae efelychiadau fel hyn yn cynnig profiad sy'n dynwared sefyllfa yn y byd go iawn lle gall y myfyriwr, mewn amser real, ymarfer gwahanol gamau gweithredu a ffyrdd o ymateb.
Gofynion Mynediad
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3** e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
**I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Cyfweliad a dewis BN Nyrsio Iechyd Meddwl (Llwybr Dysgu Gwasgaredig)
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen cyfweld i gael rhagor o wybodaeth.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Proses Mynediad ar gyfer Cyrsiau Proffesiynol
Rhaid i bob ymgeisydd fodloni ystod o feini prawf mynediad - edrychwch ar Safonau'r NMC. Mae gofynion mynediad y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth yn cynnwys dangos iechyd da a chymeriad da. Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Gallwch hefyd gysylltu ag admissions.health@bangor.ac.uk i gael cyngor/gwybodaeth bellach. Bydd rhaid i ymgeiswyr gyda chymwysterau mynediad hyn na 5 oed ddangos tystiolaeth o astudiaeth ddiweddar ar lefel briodol.
Gofynion academaidd:
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 120 pwynt tariff ar gyfer y rhaglenni Baglor Nyrsio o gymwysterau lefel 3** e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): cysylltwch â ni - Diploma Bagloriaeth Rhyngwladol
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
- Mynediad: i gynnwys Rhagoriaeth neu Deilyngdod (lleifaswm o 9 farc llwyddo)
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Irish Leaving Certificate: 104 - 120 pwynt mewn o leiaf 4 pwnc uwch
- Tystysgrif Lefel 5 FETAC QETI mewn Astudiaethau Nyrsio: Proffil Rhagoriaeth
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3 neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n bodloni'n gofynion mynediad; sylwer nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3 / QCF Lefel 3 fel cymhwyster sy’n bodloni ein gofynion mynediad.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg fyddai Sgiliau Hanfodol Lefel Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y 3 blynedd ddiwethaf). Mae'r isafswm gradd o O4 gyda Thystysgrif Ymadael Iwerddon yn cyfateb i radd C/4 TGAU.
**I weld rhestr lawn o'r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Cyfweliad a dewis BN Nyrsio Iechyd Meddwl (Llwybr Dysgu Gwasgaredig)
Gofynnir i bob ymgeisydd sy'n cyflawni'r gofynion mynediad academaidd fynd i gyfweliad grŵp, ac ar ôl hynny bydd ymgeiswyr yn cael gwybod os ydynt ar y rhestr fer a bydd angen rhagor o wybodaeth cyn y gellir eu derbyn yn derfynol ar y cwrs. Ewch i'r dudalen cyfweld i gael rhagor o wybodaeth.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Byrddau iechyd ledled Cymru yw prif gyflogwr llawer o'n graddedigion. Yn y GIG a lleoliadau iechyd a gofal eraill, mae strwythur gyrfa clir yn cefnogi nyrsys yn eu datblygiad o nyrs staff sy'n gweithio ar ward, er enghraifft, i nyrsys ymgynghorol annibynnol sy'n rheoli baich achosion o gleifion yn y gymuned. Yn ogystal â hynny, bydd cyfleoedd i ddefnyddio eich cymwysterau dramor.
Mae nyrsio’n broffesiwn arloesol sy'n tyfu'n barhaus ac mae nyrsys yn gweithio mewn timau amlbroffesiynol ar draws lleoliadau iechyd a gofal. Caiff swyddi nyrsio eu rhannu'n wahanol fandiau a phob un â chyflogau gwahanol.
Mae nyrsys mewn sefyllfa wych i ddarparu gofal ar y cyd â phobl a gofalwyr, i bwy bynnag sydd angen gofal. Yn gyffredinol yn y system iechyd a gofal mae pwyslais cynyddol ar atal afiechydon, galluogi pobl i ofalu amdanynt eu hunain, bod yn bartneriaid yn eu gofal a chael gwell ansawdd bywyd. Mae cyflymder y datblygiadau mewn gofal meddygol a gofal nyrsio, ac o ran triniaethau a thechnoleg, yn creu cyfleoedd newydd o ran gyrfa i nyrsys a datblygiadau mewn gwahanol agweddau ar wasanaethau a gwahanol ffyrdd o weithio. Mae llawer o wahanol agweddau ar nyrsio yn y pedwar maes a nifer o wahanol gyfleoedd i ddatblygu gyrfa a gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau.
Mae’r cyfleoedd gyrfaol yn amrywiol gan gynnwys swyddi’r rheng flaen, swyddi arweinwyr neu swyddi nyrsys arbenigol neu nyrsys ymgynghorol.
Mae cyfleoedd i weithio fel nyrs iechyd meddwl mewn amrywiaeth o rolau cydweithredol fel yr Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, Carchardai ac Unedau Fforensig sy'n gysylltiedig â'r System Cyfiawnder Troseddol, ac Awdurdodau Lleol a'r gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Mae cyfleoedd gyrfa clinigol ac academaidd megis nyrsys ymgynghorol ym maes iechyd meddwl plant ac ieuenctid neu ofal dementia. Mae nyrsys mewn sefyllfa wych i ddarparu gofal mewn partneriaeth â phobl a gofalwyr, lle bynnag y bo angen gofal.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.