Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae radiograffeg ddiagnostig yn gymorth amhrisiadwy i wneud diagnosis o glefyd. Mae radiograffwyr diagnostig yn gyfrifol am gynhyrchu delweddau gan ddefnyddio pelydrau-X a dulliau eraill yn cynnwys uwchsain, tomograffeg gyfrifiadurol (CT), delweddu radioniwclid (RNI) a delweddu cyseiniant magnetig (MRI). Byddwch yn dysgu nid yn unig am sut mae pelydrau-x yn cael eu cynhyrchu ac am anatomeg y corff dynol, ond hefyd sut i siarad â phobl a pha fath o bethau a all fod yn destun pryder i gleifion/defnyddwyr gwasanaeth.
Mae radiograffeg yn un o’r proffesiynau sy’n gysylltiedig â meddygaeth. Mae radiograffeg diagnostig yn gymorth amhrisiadwy i wneud diagnosis o glefyd. Fel radiograffydd diagnostig byddwch yn gyfrifol am gynhyrchu delweddau sy'n cynnwys defnyddio pelydr-X a dulliau eraill gan gynnwys uwchsain, tomograffeg gyfrifiadurol (CT), delweddu radioniwclid (RNI) a delweddu cyseiniant magnetig (MRI). Mae radiograffwyr yn rhoi sylwadau ar ddelweddau i’r rhai sy’n cyfeirio cleifion ar ôl cwblhau archwiliad; gallant hefyd lunio adroddiadau llawn ar ôl cael hyfforddiant ôl-radd arbenigol. Ar lefel ôl-radd, gall radiograffydd ddatblygu eu rôl i gynnwys rhoi adroddiadau ar ddelweddau, dysgu myfyrwyr radiograffeg, hyfforddi radiograffwyr ôl-radd neu roi triniaethau fflworosgopig, angiograffig ac endosgopig. Fel radiograffydd byddwch yn gweithio mewn nifer o feysydd mewn ysbyty, yn ogystal â'r adran ddelweddu, gan gynnwys yr adran damweiniau ac achosion brys, theatrau llawdriniaethau ac ar wardiau ysbytai a bydd lleoliadau gwaith ar y radd hon yn adlewyrchu'r amrywiaeth honno.
Mae Bangor yn derbyn ceisiadau i’r cwrs Radiograffeg Diagnostig drwy gydol y flwyddyn, tra bod llefydd ar gael. Fodd bynnag, rydym yn eich annog yn gryf i gyflwyno cais yn gynnar gan fod y lleoedd ar y cwrs radiograffeg yn cael eu llenwi fel rheol cyn diwedd y cylch derbyn bob blwyddyn.
Dim angen talu ffioedd dysgu
Os ystyrir chi yn fyfyriwr cartref o’r Deyrnas Unedig mewn perthynas â ffioedd dysgu, a all ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Gallwch hefyd wneud cais am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall ac mae meini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am y cyllid cynhaliaeth ar sail incwm a benthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Gan fod y cwrs hwn yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Mae manylion llawn ar gael ar dudalen cyllid y GIG.
Lleoliad
Caiff elfennau hyfforddedig y cwrs eu cyflwyno ar gampws Prifysgol Bangor yn Wrecsam wrth ymyl Ysbyty Wrecsam Maelor.
Cyfweld a dewis ymgeiswyr Radiograffeg
I gael gwybodaeth am y drefn dewis ymgeiswyr i’r cwrs hwn, cliciwch ar y tab Gofynion Mynediad uchod.
Mae graddedigion o’r cwrs hwn yn gymwys i wneud cais i gofrestru â’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyllid ar gael gan y GIG ar hyn o bryd i dalu ffioedd a chyfraniad at gostau byw.
- Mynediad at dechnoleg o'r radd flaenaf gan gynnwys offer efelychu modern a'r system sgiliau ymarferol rhithrealiti trochol gyntaf yn y Deyrnas Unedig.
Fideo: Radiograffeg Diagnostic Campws Wrecsam, Prifysgol Bangor
Cynnwys y Cwrs
Fel rheol byddwch yn treulio 37.5 awr yr wythnos ar y cwrs pan fyddwch ar leoliad clinigol (gan gynnwys amser astudio) a thua 20 awr pan fyddwch yn gwneud astudiaethau academaidd. Disgwylir i chi gwblhau aseiniadau/projectau a pheth gwaith ymarferol yn eich amser eich hun a pharatoi ar gyfer asesiadau clinigol. Mae gwaith ymarferol yn bwysig iawn ac mae arbrofion sy’n cynnwys offer a rhith-gleifon (dymis ac offer gwneud profion) yn rhan bwysig o’r cwrs. Yn y brifysgol cewch gyfle i ddefnyddio meddalwedd efelychu, offer rhithrealiti trochol yn ogystal â defnyddio ystafell pelydr-x digidol y brifysgol a fydd yn eich helpu i feithrin y sgiliau ymarferol a fydd yn sail i'ch lleoliadau clinigol.
Mae'r asesu yn cynnwys aseiniadau ysgrifenedig, cyflwyniadau poster, arbrofion ymarferol, asesiadau clinigol, cyflwyniadau llafar, dysgu drwy ddatrys problemau a phroject ymchwil.
Caiff elfennau hyfforddedig y cwrs eu cyflwyno ar gampws Prifysgol Bangor yn Wrecsam wrth ymyl Ysbyty Wrecsam Maelor. Trefnir lleoliadau ar gyfer Radiograffwyr yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ngogledd Cymru ac mewn ymddiriedolaethau GIG cyfagos.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Radiograffeg Diagnostig BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Ystafell pelydr-x digidol lle gellir dysgu ystod o sgiliau clinigol i fyfyrwyr mewn amgylchedd efelychiadol sy'n helpu eich paratoi ar gyfer lleoliadau clinigol.
- Mynediad at offer efelychu delweddau radiograffeg, CT, a ffiseg radiograffeg y gallwch gael mynediad iddynt ar y campws a thrwy fynediad o bell i gyfrifiaduron y brifysgol.
- Offer rhithrealiti trochol - Bangor yw'r brifysgol gyntaf yn y wlad i sicrhau bod y feddalwedd hon ar gael i fyfyrwyr a fydd yn eich galluogi i wneud archwiliadau diogel o gleifion rhithiol.
- Set gludadwy.
Costau'r Cwrs
Dim Angen Talu Ffioedd Dysgu
Os ydych yn gymwys ar gyfer ffioedd dysgu Cartref (DU) ac yn gallu ymrwymo i weithio yng Nghymru am ddwy flynedd ar ôl graddio, gallech gael eich ffioedd dysgu wedi'u talu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru ynghyd â gwneud cais am gyfraniad bwrsariaeth o £1,000 tuag at gostau byw. Cewch wneud cais hefyd am y fwrsariaeth yn seiliedig ar brawf modd sy'n ddibynnol ar incwm y cartref ac unrhyw gyllid arall y mae iddo feini prawf cymhwysedd ar gyfer cymorth gofal plant, lwfans dibynnydd a lwfans i rieni sy’n dysgu. Gallwch hefyd wneud cais am gyllid cynhaliaeth ar sail incwm ac am fenthyciad cyfradd llog isel gan Gyllid Myfyrwyr. Oherwydd bod y cwrs yn cael ei ariannu gan GIG Cymru, ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor ac eithrio myfyrwyr o Ganada sy'n gallu gwneud cais trwy Wasanaethau Addysgol Barclays. Mae manylion llawn ar gael ar dudalen Gyllid y GIG.
Gofynion Mynediad
Gofynion Mynediad 2025
TGAU: fel arfer rhaid bod gennych, neu rhaid eich bod yn gweithio tuag at, o leiaf pum TGAU gradd A*-C/9-4 gan gynnwys TGAU Cymraeg neu Saesneg iaith gyntaf a Mathemateg/Rhifedd (neu gymhwyster amgen cydnabyddedig*), ond rhoddir ystyriaeth i amgylchiadau unigol.
*Cymwysterau amgen cydnabyddedig ar gyfer Cymraeg/Saesneg a/neu Fathemateg: Sgiliau Sylfaenol Dau mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, neu Sgiliau Gweithredol Lefel Dau mewn Saesneg a Mathemateg (rhaid bod wedi eu cyflawni o fewn y tair blynedd diwethaf). Irish Leaving Certificate - lleiafswm o O4 sy'n cyfateb i TGAU Gradd C/4.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 120 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: BBC yn cynnwys gradd B mewn Bioleg neu gradd B mewn Ffiseg. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DDM mewn Pwnc Iechyd neu Wyddoniaeth
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DDM mewn Pwnc Iechyd neu Wyddoniaeth
- Mynediad: ar lwybr wedi'i seilio ar Wyddoniaeth
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Pasio yn ofynnol (yn cynnwys H6 mewn Bioleg neu Ffiseg)
- Cymhwyster Project Estynedig (gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth)
- Bagloriaeth Cymru
- Irish Leaving Certificate: Lleiafswm o 5 Pwnc Uwch ar radd H3 (yn cynnwys Bioleg neu Ffiseg)
Rydym yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy'n cwblhau Diploma Mynediad AU neu sydd â thystiolaeth o astudio diweddar ar Lefel 3* neu'n uwch yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf sy'n cwrdd â'n gofynion mynediad.
Sylwch nad ydym yn derbyn NVQ Lefel 3/QCF Lefel 3 fel ffordd o fodloni ein cymwysterau mynediad. Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
*I gael manylion llawn ewch i'n gwefan ac i weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gwybodaeth Ychwanegol: Mae'r Ysgol yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd gael gwiriad cofnod troseddol a gofynion eraill ar gyfer dangos cymeriad da; bydd y Bwrdd Iechyd lleol yn gyfrifol am osod y gofyniad am iechyd da. Bydd y gwiriad cofnodion troseddol yn cynnwys gwiriad DBS uwch ar gyfer y gweithlu plant ac oedolion, gan gynnwys gwiriad o'r rhestrau gwaharddedig. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. Am ragor o wybodaeth a chyngor, cysylltwch â'r Ysgol ar health.applications@bangor.ac.uk
Cyfweld a dewis ymgeiswyr ar gyfer Radiograffeg
Bydd angen i bob ymgeisydd sydd ar y rhestr fer fynychu cyfweliad grŵp a mynychu adran Pelydr X mewn ysbyty am 2 ddiwrnod llawn cyn 14 Mawrth 2025. Yn dilyn y cyfweliad, bydd ymgeiswyr yn cael ei hysbysu gan UCAS o’r canlyniad felly mae angen i chi gadw golwg ar eich cyfrif UCAS.
Dyddiadau cyfweliadau
- Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
- Dydd Mercher 27 Tachwedd 2024
- Dydd Mercher 8 Ionawr 2025
- Dydd Mercher 22 Ionawr 2025
- Dydd Mercher 5 Chwefror 2025
- Dydd Mercher 19 Chwefror 2025
Yn anffodus, gan fod y cwrs yma yn cael ei gyllido gan y GIG a rhaid i fyfyrwyr gael lleoliadau gyda’r Bwrdd Iechyd GIG lleol ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr tramor.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Gwybodaeth i Fyfyrwyr Hŷn.
Gyrfaoedd
Mae rhagolygon gyrfa mewn Radiograffeg Diagnostig yn parhau i fod yn rhagorol i raddedigion Bangor. Ers dros ddegawd mae 100% o’n graddedigion wedi cael swydd o fewn 3 mis ar ôl iddynt raddio, yn bennaf yn y GIG. Mae datblygu gyrfa yn gysylltiedig â datblygiad proffesiynol parhaus gyda'r cyfle i gael cymwysterau ôl-radd. Ar ôl cymhwyso, mae'n bosibl arbenigo mewn dull delweddu penodol neu ddatblygu eich gyrfa ymhellach o fewn Radiograffeg fel uwch ymarferwr neu ymarferwr ymgynghorol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.