Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae athletwyr elît yn defnyddio dull sy'n gynyddol wyddonol i ganfod enillion ffiniol gwerthfawr. Mae ymarferwyr hamdden a chleifion sy'n byw gydag anhwylderau yn troi at wyddoniaeth trwy apiau a dyfeisiau biotechnoleg i fonitro eu hyfforddiant, adferiad, iechyd a lles. Bydd y radd fodern, ymarferol hon, sydd â phwyslais ar ymchwil, yn eich arfogi â dealltwriaeth feirniadol o wyddoniaeth gweithredu dynol ac yn darparu'r sgiliau a'r profiad sydd eu hangen i ddatblygu ymyriadau seicolegol a ffisiolegol arloesol i hyrwyddo perfformiad chwaraeon, ymarfer corff ac iechyd.
O athroniaeth enillion ymylol chwaraeon elitaidd i'r nifer cynyddol o apiau a thracwyr ffitrwydd sy'n treiddio'r parth iechyd a ffordd o fyw, mae'n amlwg bod y sector gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yn ffynnu. Bydd y radd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Bangor yn dod â'r wyddoniaeth sy'n sail i waith arloesol o'r fath yn fyw.
Yn ogystal â rhoi sylw i’r meysydd craidd, sef seicoleg, ffisioleg, biomecaneg a dysgu sgiliau, elfen fodern o'r radd yw cynnwys yr ymchwil seicoffisiolegol a niwrowyddonol diweddaraf mewn chwaraeon ac ymarfer corff. Mae hyn yn caniatáu i'n myfyrwyr bontio'r ffiniau traddodiadol rhwng disgyblaethau a graddio gyda dealltwriaeth o sut mae holl wahanol feysydd gwyddorau chwaraeon ac ymarfer yn cydblethu. Y set sgiliau hon sydd ei hangen ar wyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff modern a blaengar ar gyfer gyrfa broffesiynol lwyddiannus, boed hynny mewn chwaraeon elît, busnes, ymarfer corff, adferiad neu iechyd.
Cewch eich dysgu gan staff a gydnabyddir yn rhyngwladol am eu hymchwil gwyddonol blaengar. Mae ein staff hefyd yn ymarferwyr cymhwysol a byddant yn rhannu eu profiadau o weithio fel gwyddonwyr chwaraeon ac ymarfer corff mewn sefydliadau proffil uchel (e.e. y GIG, y lluoedd arfog, UK Sport, Chwaraeon Cymru, timau pêl-droed yr uwch gynghrair, Bwrdd Criced Cymru a Lloegr) a chydag athletwyr a thimau sy'n arwain y byd. Mae gogledd Cymru yn cynnig amgylchedd naturiol hyfryd ar gyfer eich astudiaethau, ac mae ein hadran, a sefydlwyd ym 1978, yn falch o alw ei hun yn un o'r darparwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer cyntaf a hynaf yn y byd.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Labordai rhagorol gan gynnwys labordy ffisioleg ymarfer corff gwerth £1M, siambrau sy'n efelychu amodau amgylcheddol ac uchder mawr, labordai dadansoddi symudiadau, biocemeg, bioleg celloedd a seicoleg chwaraeon.
- Mae'n darparu'r set sgiliau sydd ei hangen ar wyddonydd chwaraeon ac ymarfer corff modern a blaengar ar gyfer gyrfa broffesiynol lwyddiannus, boed hynny mewn chwaraeon elît, busnes, ymarfer corff, adferiad neu iechyd.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol labordy, gweithdai, astudiaethau achos, aseiniadau grŵp ac astudiaeth annibynnol. Mae pob modiwl fel arfer yn cynnwys un ddarlith yr wythnos, gyda dosbarthiadau labordy, grwpiau trafod a thiwtorialau yn dilyn (lle bo hynny'n briodol), . Mae hyn yn golygu y bydd wythnos nodweddiadol ar y radd hon yn cynnwys chwe darlith, dwy neu dair sesiwn ymarferol neu seminarau, amser i sesiynau tiwtorial gydag arweinwyr modiwlau/tiwtoriaid personol ac amser gwarchodedig ar gyfer astudiaeth annibynnol. Disgwylir i'ch amser astudio annibynnol gynnwys gwaith darllen ymchwil wyddonol, ysgrifennu traethodau ac adroddiadau, ymarfer cymwyseddau galwedigaethol, casglu gwybodaeth a data, gweithio ar brojectau grŵp a pharatoi cyflwyniadau llafar a phosteri. Mae'r gweithgareddau hyn yn sail i gyfleoedd asesu dilys i'ch helpu i baratoi at swydd yn y dyfodol, e.e. arholiadau ymarferol, cyflwyniadau, astudiaethau achos, adroddiadau ysgrifenedig a beirniadaeth o ymchwil.
Mae ein dull yn golygu bod gan ein myfyrwyr gysylltiad agosach â'r darlithwyr a'r tiwtoriaid ac mae’r ysgol yn ddigon bychan i’n holl fyfyrwyr gael cyfarfodydd personol rheolaidd gyda'r staff.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarferc BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer
- labordy addysgu £1M
- siambr uchder (hypocsia)
- sawl labordy dadansoddi symudiad 3D
- sganiwr amsugnofetreg pelydr-x ynni-deuol (DXA)
- labordai profion ymarfer ac adfer
- siambr amgylcheddol
- ystafelloedd profion seicoleg, seicoechddygol a seicoffisioleg
- labordai bioleg celloedd a biocemeg
- 3 x labordy rheoli/profi galluedd seicoechddygol
- labordai profion seicoleg
- labordy dynwared gyrru
- labordy Seicoleg Cymdeithasol/Byw o’i fewn
- labordy profi trochiad dŵr
Labordai Ymchwil Ffisioleg
Rydym yn cynnal profion gyda chleientiaid allanol e.e., rydym wedi profi aelodau o Sgwadiau Caiacio a Hwylio Cenedlaethol Cymru, cleifion sy'n dioddef o gyflyrau amrywiol - canser y fron, lwpws, arthritis gwynegol, problemau arennol, diabetes, gordewdra, aelodau o'r gwasanaeth tân, athletwyr elitaidd, personél milwrol, a mynyddwyr i enwi dim ond rhai. Mae'r offer yn y labordai hyn yn cynnwys:
- Dadansoddwyr ar-lein fesul anadl - mesur y ffitrwydd aerobig mwyaf posibl, defnydd ynni, awyru. Maent yn fersiwn fwy soffistigedig o'r system bagiau Douglas a welir hefyd yn y labordy hwn a'r labordy addysgu.
- Peiriant Electrocardiogram (ECG) - 12 gwifren sy'n addas ar gyfer monitro yn ystod ymarfer corff neu wrth orffwys.
- Dadansoddwr lactad/glwcos YSI.
- Melin draed gyda chyflymder o 30km, gwregys gwrthdro i ganiatáu rhedeg i lawr allt, bwa diogelwch ar gyfer rhedeg lawr allt a sbrint.
- GEM - Dadansoddwr Nwy Gwaed - yn mesur crynodiadau nwyon mewn gwaed e.e., ocsigen a charbon deuocsid ac asidau e.e., asid lactig.
- Osmomedr: ar gyfer mesur cynnwys halen mewn wrin (statws hydradiad).
- Reflatron - ffotomedr sy'n caniatáu mesur gwaed yn y capilarïau, colesterol, asid wrig, glwcos, lipoproteinau dwysedd uchel (HDY) h.y., colesterol da.
Siambr Amgylcheddol
- Gellir amrywio’r tymheredd o hyd at 40º i lawr i -20º, yn ogystal ag amrywiadau o 5-95% mewn lleithder.
- Fe'i defnyddir i fesur adweithiau wrth i'r corff brofi straen eithafol, er enghraifft, dadhydradiad. Gellir cynnal profion seicolegol hefyd wrth ymarfer corff o dan amodau o straen, er enghraifft, gweithrediad gwybyddol wrth ddadhydradu.
- Roedd profion diweddar yn cynnwys dull newydd o gofnodi tymereddau gan ddefnyddio synwyryddion/cofnodwyr data wedi'u tapio i groen pobl, gyda’r rhain yn bwydo data yn uniongyrchol i gyfrifiadur. Mae gennym hefyd y gallu i gymryd tymereddau croen a’r rhefr wrth brofi yn y siambr.
Siambr Uchder
Mae’r siambr yn caniatáu amrywio'r amgylchedd o 21% ocsigen (0 m) i 7% ocsigen (8,900m, sef uchder copa Everest) gan ddefnyddio uned sy’n ymddwyn fel gogr moleciwlar i dynnu ocsigen o’r aer. Mae'n rheoli tymheredd a lleithder yn gywir i 0.1oC ac 1%. Mae gan yr Ysgol hefyd ddwy uned gludadwy gyda system babell fel bod modd hyfforddi, cysgu ac ymaddasu at uchder 'gartref'. Trwy ddefnyddio'r siambr hon mewn cyfuniad â'r sganiwr fMRI (sydd yn yr Ysgol Seicoleg), mae'n bosibl delweddu'r ymennydd a phenderfynu pam mae pobl yn cael cur pen neu salwch mynydd difrifol sy’n aml yn angheuol. Mae astudiaethau sy'n cyfuno'r defnydd o'r siambr ag ymarfer corff wedi helpu i benderfynu a all efelychu uchder helpu pobl i golli pwysau.
- Keystone - fersiwn fwy soffistigedig o'r peiriant cyfaint ysgyfaint (sbiromedr) yn y labordy addysgu. Mae'n mesur y rhan fwyaf o swyddogaethau capasiti a chyfaint yr ysgyfaint e.e., cyfaint gweddilliol (y cyfaint sy’n weddill yn yr ysgyfaint ar ôl anadlu allan yn normal) - wedi'i fesur trwy ail-anadlu nwy heliwm cymysg, ac mae'n mesur cryfder cyhyrau anadlol ac effeithlonrwydd cyfnewid nwyon yn yr ysgyfaint.
- Haemocue - ffotomedr sy'n mesur haemoglobin o’r gwaed yn y capilarïau.
- Llif Ffisio - cyfaint strôc ac allbwn cardiaidd h.y., faint o waed sy'n cael ei bwmpio gan y galon gyda phob curiad a fesul munud.
- Tango - pwysedd gwaed awtomataidd yn ystod ymarfer corff.
- Cardiau mesur ymdrech ganfyddedig (RPE) - a ddefnyddir i asesu ymdrech wrth wneud ymarfer corff. Pwysig oherwydd bod ymdrech ganfyddedig yn rheoli dwyster ymarfer corff mewn athletwyr a phobl arferol yn ymarfer corff.
Sganiwr Amsugnofetreg Pelydr-X Ynni-Deuol (Labordy DXA)
Ni oedd yr Ysgol Gwyddor Chwaraeon gyntaf yn y DU i osod sganiwr DXA a'i ddefnyddio ar gyfer ymchwil. Mae'n gallu mesur dwysedd esgyrn a rhoi mesuriadau meinweoedd - braster; cyfansoddiad mas di-fraster/cyhyrau. Gall offer arall yn yr adran asesu cyfansoddiad y corff hefyd, fel offerynnau mesur rhwystriant trydanol, y tanc pwyso tanddwr a chaliperau plygiadau’r croen.
Labordy Addysgu Canolfan PAWB £1m
Mae'r labordy addysgu ffisioleg hwn (a gostiodd mwy na £1 miliwn) gyda’r gorau o’i fath ac fe’i cynlluniwyd fel y gallai myfyrwyr ddatblygu eu sgiliau ymarferol yn effeithiol. Mae'n cynnwys offer fel:
- Peiriant cyfaint yr ysgyfaint.
- Bagiau Douglas ar gyfer casglu nwy yn ystod amrywiol ymarferion a pheiriant i ddadansoddi'r nwyon hyn ar gyfer cynnwys ocsigen a charbon deuocsid a ddefnyddir i bennu lefelau ffitrwydd aerobig a defnydd ynni.
- Peiriant Wingate - yn profi'r capasiti anaerobig mwyaf posibl. Bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n defnyddio hyn yn gweld croniad o sgil-gynnyrch ymarfer corff (asid lactig).
- Beiciau a melinau traed - defnyddir y rhain i ddynwared sefyllfa ymarfer corff i fesur paramedrau ffisiolegol, biocemegol a seicolegol.
- Dau beiriant rhwyfo - peiriant rhwyfo safonol, a pheiriant caiac.
- Peiriannau pwysedd gwaed.
- Dynamomedr cefn/coesau.
- Caliperau plygiadau croen.
- System addysgu ECG.
Labordai Profion Ymarfer ac Adfer
- Dynamomedr Isoginetig/Isometrig - mae'n mesur pob math o weithgarwch cymalog a chryfder cyhyrol. Gellir defnyddio'r ddynamomedr hefyd i adfer o anafiadau a gellir ei ddefnyddio ar y cyd â’r Estyniad Plygu’r Bongorff.
- Estyniad Plygu’r Bongorff - wedi'i ychwanegu at y ddynamomedr i fesur cryfder y cefn a grwpiau cyhyrau cysylltiedig.
- Peiriant electromyograffeg (EMG) - 19 sianel ynghyd â chyflymder dargludiad. Mae'n mesur signalau trydanol yn y cyhyrau, gan edrych ar gyfradd danio'r cyhyrau ac a ydynt yn blino yn ystod ymarfer corff.
- Uwchsain - yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd yn y cyhyrau wrth ymarfer corff a bydd yn dangos meinwe creithiau. Hefyd, gall fesur llif y gwaed mewn pibellau gwaed a'r galon a gall ymchwilio i forffoleg a swyddogaeth y galon yn ogystal.
- Melin draed.
- Ergomedrau - Beiciau Monarch (beiciau profi cleifion), Rhwyfwr ‘Concept’.
- Peiriant Lode Corival.
Labordai Seicoleg a Seicoffisioleg
- Systemau electroenceffalograffi (EEG) i fesur gweithgarwch yr ymennydd trwy gofnodi'r gweithgarwch trydanol ar groen y pen.
- Peiriannau a meddalwedd bio-adborth i arddangos signalau seicoffisiolegol (e.e. tonnau’r ymennydd, amrywioldeb cyfradd y galon) mewn amser real a helpu unigolion i ddysgu sut i reoli eu cyflwr seicoffisiolegol.
- Tracwyr llygaid symudol i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Synwyryddion grym a mesur cyflymiad i fesur proffiliau symud a datblygu dealltwriaeth o sut mae techneg yn datblygu gyda dysgu a sut mae straen seicolegol yn effeithio arno.
- Camerâu fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro ymatebion dynol mewn arbrofion seicoleg ac i ganiatáu cwblhau holiaduron ar-lein am gyflwr seicolegol.
Labordai Seicoechddygol a Rheoli Symudiadau a Dysgu
- Mae yna 5 o'r rhain i gyd a defnyddir yr offer sefydlog i fonitro, mesur a deall symudiadau dynol a rheoli gweithgarwch, yn amrywio o sgiliau echddygol manwl syml i symudiadau a ddefnyddir mewn chwaraeon egnïol lle mae’r holl gorff ar waith, a hynny o dan driniaethau seicolegol, ffisiolegol ac amgylcheddol diderfyn.
- Labordy dadansoddi symudiad gyda 12 Camera Vicon 3D.
- Labordy dadansoddi symudiad Optotrack.
- Manipulandum yr aelodau uchaf gyda dyfeisiau mesur cyflymiad.
- Tabledi Graffeg 2D cydraniad uchel.
- System symudol tracio llygaid i fesur symudiadau llygaid wrth gymryd rhan mewn chwaraeon ac ymarfer corff.
- Sbectolau achludiad i drin maes gwelededd yn uniongyrchol mewn amser real pan fo rhywun yn symud.
- Camera fideo diffiniad uchel a chyfrifiaduron manyleb uchel i fonitro a dadansoddi sgiliau symud.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 112 - 144 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.
- Lefel A (ni dderbynnir astudiaethau cyffredinol na sgiliau allweddol)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM - DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Arweinwyr Chwaraeon y DU: Cymwysterau Arweinyddiaeth Chwaraeon Uwch
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth
- Dylai ymgeiswyr ddangos ymrwymiad i’r awyr agored (e.e. profiad ymarferol, profiad gwaith, Gwobr Dug Caeredin).
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Bydd y radd hon mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn dysgu’r sgiliau angenrheidiol i chi weithio ar draws y sector chwaraeon ac ymarfer corff. Dyma rai enghreifftiau o yrfaoedd y gall graddedigion symud ymlaen iddynt:
- Gwyddorau Chwaraeon
- Seicolegydd Perfformiad
- Ffisioleg Gymhwysol
- Gwyddorau Iechyd
- Ffisiotherapydd (ar ôl hyfforddiant ôl-radd)
- Ymgynghorydd iechyd a ffitrwydd
- Gwyddor Chwaraeon
- Hyfforddwr personol
- Hyfforddwr ffordd o fyw
- Addysg
- Athro/athrawes (ar ôl hyfforddiant ôl-radd)
- Hyfforddwr chwaraeon
- Ymchwil gwyddonol
- Ymchwilydd doethurol/Ymgeisydd PhD
- Gwyddonydd labordy
- Cymrawd ymchwil
Gallwch hefyd ddefnyddio'r sgiliau trosglwyddadwy o'r radd hon (e.e. cyflwyno a chyfathrebu, ysgrifennu gwyddonol, trin data, arweinyddiaeth, sut i wneud eich gorau/cael eraill i wneud eu gorau) i ddilyn gyrfaoedd mewn amrywiaeth eang o feysydd eraill, er enghraifft:
- Y lluoedd arfog
- Gwasanaethau brys
- Busnes
- Rheoli
- Adwerthu
Un o gryfderau'r radd hon yw y byddwch yn cronni amrywiaeth eang o sgiliau a phrofiadau cyffredinol ac arbenigol a all agor llawer o lwybrau gyrfa i chi. Byddwn yn eich cefnogi trwy gydol eich astudiaethau wrth i chi ddatblygu eich diddordebau eich hun mewn meysydd penodol o'r cwrs. Er enghraifft, efallai y byddwch yn datblygu diddordeb mewn seicoleg, efallai y byddwch yn sylweddoli mai hyfforddi yw eich diddordeb pennaf, neu efallai y gwelwch mai gwaith labordy a phrofion ymarfer corff yw'r hyn rydych yn ei fwynhau fwyaf. Bydd y diddordebau personol hyn yn caniatáu i chi wneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â pha lwybr yr hoffech ei ddilyn.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer (gyda Blwyddyn Sylfaen)
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.