Fy ngwlad:
Myfyrwyr yn gweithio mewn labordy Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer

Gwyddorau Chwaraeon: Cryfder a Chyflyru BSc (Hons) Israddedig - Mynediad: Medi 2025/26*

Manylion y Cwrs

  • Mis Dechrau Medi
  • Cod UCAS C618
  • Cymhwyster BSc (Anrh)
  • Hyd 3 blynedd
  • Blwyddyn Lleoliad Oes
  • Blwyddyn Profiad Rhyngwladol Oes
  • Modd Astudio

    Llawn amser

  • Lleoliad

    Bangor

Astudiaeth Gwyddorau Chwaraeon ar berson sy'n gwneud ymarfer corff

Darllen mwy: Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer

Mae gennym chwricwlwm dan arweiniad ymchwil sy'n ymdrin â phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff, iechyd a meddygaeth, biomecaneg a hyfforddi effeithiol. Mae'r arbenigedd sydd gennym ynghyd ag haddysgu o ansawdd uchel yn eich helpu i feithrin yr wybodaeth a'r sgiliau y bydd eu hangen arnoch i ddilyn gyrfa ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer corff ac antur, sy'n farchnad twf. 

[0:04] Croeso i Ddiwrnod Agored Prifysgol Bangor!

[0:07] Welcome to Bangor University Open Day!

[0:29] Fedrwn i ddim meddwl am le gwell i roi hwb i'm gyrfa na Bangor.

[0:35] Dwi'n meddwl ei fod o'r penderfyniad gorau i mi ei wneud erioed.

[0:51] Dewch i Fangor - rydych yn mynd i garu'r lle!

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudio Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

*Mae'r flwyddyn mynediad yn cyfeirio at y flwyddyn academaidd mae'r cwrs yn cychwyn ynddi yn hytrach na'r flwyddyn galendr. E.e. bydd gan gwrs sy'n cychwyn ym Mawrth 2025 ddyddiad 'Mynediad Mawrth 2024/25' gan fod y flwyddyn academaidd yn cychwyn ym Medi 2024/25. Yn yr un modd, bydd gan gwrs sy'n cychwyn yn Ionawr 2025 y dyddiad 'Mynediad Ionawr 2024/25' gan mai 2024/25 yw'r flwyddyn academaidd.