Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon yn canolbwyntio ar swyddogaeth gwaddodion morol a'r cefnforoedd yn Systemau'r Ddaear i ddeall a dehongli amgylcheddau'r gorffennol, y presennol a'r dyfodol. Byddwch yn astudio prosesau gwaddodol (tarddiad, cludiad a dyddodiad gronynnau yn yr amgylchedd morol), gwaddodion morol a chreigiau. Canolbwyntiwn ar swyddogaethau'r moroedd bas, sy'n amgylchynu'r cyfandiroedd, a'r rhyngweithio sy'n digwydd lle mae'r tir a'r môr yn cwrdd.
Yn debyg i’r radd BSc gysylltiedig, mae'r radd bedair blynedd hon yn canolbwyntio ar astudio gwaddodion môr yng nghyd-destun gwyddoniaeth system y Ddaear. Byddwch yn dysgu am brosesau gwaddodol, tarddiad, cludiad a dyddodiad gronynnau yn amgylchedd y môr a gwaddodion a chreigiau môr, yn enwedig y rhai a ffurfiwyd yn ystod y 2 filiwn o flynyddoedd diwethaf, ond hefyd ymhellach yn ôl mewn amser. Mae'r radd MSci hon yn wahanol i’r cwrs BSc am ei bod yn rhoi pwyslais ar ddysgu sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i faes mesur gwely'r môr a'r diwydiant hydrocarbon alltraeth.
Mae angen Eigionegwyr Daearegol i roi sylw i faterion megis archwilio safleoedd alltraeth mewn perthynas ag isadeiledd ynni adnewyddadwy a chwilio am olew a nwy, newid yn yr hinsawdd ac yn lefel y môr, ac erydu arfordirol. Mae'r rhain yn feysydd datblygu heriol a phrysur; ar hyn o bryd mae diffyg pobl â chymwysterau addas i wneud swyddi o'r fath. Ar ôl graddio, nid yn unig bydd gennych ddealltwriaeth drylwyr o 'systemau daear', ond bydd gennych hefyd ystod eang o sgiliau ymarferol mewn gwaddodeg, geoffiseg a geotechneg. Mae'r sgiliau integreiddio data yr ydym yn eu haddysgu ar y radd hon yn brin yn y diwydiant alltraeth, mae hyn yn golygu y bydd gennych gyfle da o gael swydd ragorol ar ôl i chi raddio.
Rydym yn un o'r canolfannau prifysgol mwyaf sy'n dysgu gwyddor y môr yn y Deyrnas Unedig ac yn un o'r mwyaf yn Ewrop.
Mae gan y daearegwyr ar ein staff arbenigedd yn y meysydd pwnc perthnasol ac mae gennym gysylltiadau cryf â'r diwydiant alltraeth a hydrocarbon.
Rydym yn unigryw yn y Deyrnas Unedig o ran cynnig gwaddodeg / geoffiseg / geotechneg fel cyfuniad o feysydd pwnc - ac mae gan yr Ysgol Gwyddorau Eigion enw da iawn ymysg gweithwyr proffesiynol am ddarparu gweithwyr o ansawdd uchel i'r sector alltraeth.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae ein harbenigedd yn ymdrin â phob agwedd ar wyddorau'r môr, ac mae gennym gryfderau penodol mewn eigioneg ffisegol a'r geowyddorau. Mae gwaith maes lleol yn digwydd yn ngeobarc GeoMôn sy'n ddynodedig gan UNESCO, Parc Cenedlaethol Eryri, Afon Menai a Môr Iwerddon.
- Ymhlith y cyfleusterau mae llong ymchwil, uwchgyfrifiaduron ac offer arolygu o'r radd flaenaf ac angorfeydd eigioneg ar gyfer casglu data.
- Ymhlith ein cysylltiadau byd-eang mae'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, Y Swyddfa Dywydd, a'r diwydiannau alltraeth, hydrocarbon a diwydiannau adnewyddadwy'r môr.
- Mae'r radd hon yn rhoi pwyslais ar ennill sgiliau a gwybodaeth a fydd yn ddefnyddiol i ddiwydiant.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys hyd at 25-35 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol gwaith labordy a gwaith maes, astudiaeth breifat, tiwtorialau a gwaith project. Byddwch hefyd yn cwblhau adolygiadau o lenyddiaeth, ymarferion, traethodau, adroddiadau am waith ymarferol a gwaith maes ac yn gwneud eich ymchwil eich hun.
Yn y flwyddyn olaf byddwch yn gweithio ar broject ymchwil ymarferol trwy gydol y ddau semester. Mae gwaith ymarferol yn elfen bwysig ac mae'n cynnwys gwibdeithiau dydd am ddim yn ogystal â'r cwrs maes preswyl yn Ne Cymru.
Yn y drydedd flwyddyn a'r flwyddyn olaf, cewch wahoddiad i gyfres o ddarlithoedd gwadd, ac yn aml i gyfweliadau â darpar gyflogwyr; a chael cynnig i ymweld â gwahanol gyfarfodydd diwydiant cenedlaethol (e.e. eigioneg, busnes cefnfor).
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Eigioneg Ddaearegol MSci.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 128-152 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A. Gan gynnwys gradd B a gradd C mewn 2 bwnc gwyddoniaeth (Ffiseg, Mathemateg, Bioleg, Cemeg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Daearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM-D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM-D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DDM-D*DD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 H5 mewn dau bwnc gwyddoniaeth)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 128-152 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A. Gan gynnwys gradd B a gradd C mewn 2 bwnc gwyddoniaeth (Ffiseg, Mathemateg, Bioleg, Cemeg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Daearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM-D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM-D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DDM-D*DD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 H5 mewn dau bwnc gwyddoniaeth)
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad i Wyddoniaeth Addysg Uwch*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs hwn yn baratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd yn ymchwilio i safleoedd alltraeth cysylltiedig ag isadeiledd ynni adnewyddadwy a’r diwydiant alltraeth, ymchwil, asesu effaith amgylcheddol, y diwydiant cyflenwi dŵr, rheoli parthau arfordirol, cyrff cynghori'r llywodraeth a'r cyfryngau gwyddonol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Gwobr Cyflogadwyedd Bangor (GCB)
Mae Gwobr Cyflogadwyedd Bangor yn gwrs ar-lein cynhwysfawr y gallwch ei wneud yn ôl eich cyflymder eich hun, gan fynd â chi trwy'r holl gamau y mae'n rhaid i chi eu cymryd i archwilio, paratoi a gwneud cais am eich gyrfa ddelfrydol.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.