Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon yn canolbwyntio ar astudio ffiseg y cefnfor a'r prosesau sy'n ei gysylltu â'r atmosffêr a'r cryosffêr. Byddwch yn canolbwyntio ar swyddogaethau'r moroedd bas, sy'n amgylchynu'r cyfandiroedd, ac ar ryngweithio'r rhew a'r cefnforoedd. Mae gwaith maes a sesiynau ymarferol yn elfen allweddol o'r radd hon. Mae pwyslais y cwrs ar ennill sgiliau a gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i ddiwydiant, yn enwedig o ran materion fel y newid yn yr hinsawdd yn y dyfodol, lefel y môr yn codi, llygredd yn y môr a defnyddio ynni o'r môr. Mae pedwaredd flwyddyn y radd hon yn cynnwys modiwlau hyfforddedig yn ogystal â phrosiect ymchwil gwyddonol.
Rydym wedi bod yn dysgu Eigioneg Ffisegol ers dros 50 mlynedd ac yn arbenigwyr gyda’r gorau yn y byd ym maes eigioneg y moroedd ysgafell sy'n amgylchynu'r cyfandiroedd, a hefyd y cefnforoedd pegynol.
Ar y cwrs hwn rydym yn canolbwyntio ar ffiseg y cefnfor a deall y grymoedd sy'n siapio'r hinsawdd fyd-eang trwy symud gwres o amgylch planed y Ddaear - ar hyn o bryd, a hefyd yn y gorffennol. Byddwch hefyd yn astudio rôl y cefnfor yn rheoleiddio’r hinsawdd fyd-eang ac yn creu’r tywydd.
Mae galw mawr am Eigionegwyr Ffisegol, ac mae gofyn iddynt fynd i'r afael â phynciau fel rhagfynegi newid hinsawdd a newidiadau yn lefel y môr, gwasgaru llygredd y môr, peirianneg alltraeth a defnyddio ynni adnewyddadwy o'r môr. Mae galw mawr am y sgiliau meintiol a modelu cyfrifiadurol a gânt eu dysgu ar y cwrs hwn ar draws sectorau eang o ddiwydiant.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae gwaith maes lleol yn digwydd yn mharc GeoMôn sy'n ddynodedig gan UNESCO, Parc Cenedlaethol Eryri, Afon Menai a Môr Iwerddon.
- Ymhlith y cyfleusterau mae llong ymchwil, uwchgyfrifiaduron ac offer arolygu o'r radd flaenaf. Angorfeydd eigioneg ar gyfer casglu data.
- Mae gennym gysylltiadau cryf yn fyd-eang. Mae'r rhain yn cynnwys y Ganolfan Eigioneg Genedlaethol, y Swyddfa Dywydd, a'r diwydiannau alltraeth, hydrocarbon ac ynni adnewyddadwy morol.
- Mae ein graddedigion yn gweithio ym maes ynni adnewyddadwy morol, ymchwil i'r newid yn yr hinsawdd, arolygon alltraeth, rheoli parthau arfordirol a'r cyfryngau darlledu.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys hyd at 25-35 awr yr wythnos o ddarlithoedd, sesiynau ymarferol yn y labordy a gwaith maes, astudiaeth breifat, tiwtorialau a gwaith project. Byddwch hefyd yn cwblhau adolygiadau o lenyddiaeth, ymarferion, traethodau, adroddiadau am waith ymarferol a gwaith maes ac yn darllen gwaith academaidd. Yn y drydedd flwyddyn byddwch yn gweithio ar draethawd hir a fydd yn cynnig y sylfeini ar gyfer eich project ymchwil pedwaredd flwyddyn.
Bydd eich project ymchwil yn cael ei oruchwylio'n unigol gan aelod o staff Eigioneg Ffisegol â'r arbenigedd sy'n berthnasol i'ch project. Gall y project fod ar ffurf arbrofion maes a labordy neu ddatblygu a chymhwyso modelau rhifiadol ar gyfer gwneud rhagfynegiadau ymarferol, er enghraifft o dymheredd y cefnfor neu botensial cynlluniau ynni llanw. Cyhoeddir y projectau hyn yn aml fel papurau gwyddonol mewn cyfnodolion rhyngwladol.
Yn eich trydedd flwyddyn a'ch blwyddyn olaf, fe'ch gwahoddir i gyfres o ddarlithoedd gwadd (a chyfweliadau yn aml) gyda darpar gyflogwyr; a byddwch yn cael cynnig mynd ar deithiau i wahanol gyfarfodydd diwydiant cenedlaethol (e.e. Eigioneg, Busnes Cefnfor).
Mae ein dulliau asesu’n amrywio - mae'r rhan fwyaf o’r modiwlau'n cyfuno asesu parhaus ag arholi ffurfiol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Eigioneg Ffisegol MSci.
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Gwyddorau Eigion
- Mae ein cyfleusterau dysgu rhagorol yn cynnwys labordai geoffisegol a chafnau tonnau, yn ogystal ag uwch systemau cyfrifiadurol.
- Rydym ar yr arfordir, ger Môr Iwerddon a’r Fenai o fewn geoparc GeoMôn UNESCO. Rydym hefyd yn agos at amgylchedd rhewlifol clasurol Eryri ac felly yn y lle perffaith i astudio geowyddorau gydag amrywiaeth eang o amgylcheddau ar gyfer cyrsiau maes a safleoedd astudio ar gyfer projectau blwyddyn olaf.
- Mae gennym long ymchwil gwerth £3.5m sy'n mynd ar y môr yn ogystal â sawl cwch arolygu llai sydd â'r offer arolygu cefnfor diweddaraf.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Gradd Ddwbl os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 128-152 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A. Gan gynnwys gradd A neu B mewn Mathemateg neu Ffiseg ac fel arfer 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Bioleg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Ddaearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM - D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM - D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DDM - D*DD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 mewn Mathemateg neu Ffiseg ac 1 pwnc gwyddoniaeth arall).
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
TGAU gradd C/4 mewn Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth Gradd Ddwbl os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau 128-152 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A. Gan gynnwys gradd A neu B mewn Mathemateg neu Ffiseg ac fel arfer 1 pwnc gwyddoniaeth arall (Ffiseg, Mathemateg, Cemeg, Bioleg, Daeareg, Gwyddorau'r Amgylchedd, Ddaearyddiaeth, Economeg, Seicoleg). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM - D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt mewn Gwyddoniaeth Gymhwysol*: DDM - D*DD
- Diploma Technegol Estynedig Uwch City & Guilds (1080) mewn Cadwraeth Amgylcheddol neu Gefn Gwlad a'r Amgylchedd*: DDM - D*DD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol (gan gynnwys H6 mewn Mathemateg neu Ffiseg ac 1 pwnc gwyddoniaeth arall).
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru.
- Mynediad i Wyddoniaeth AU*
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o'r cymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
*Gellir ystyried meysydd pwnc tebyg fesul achos
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae ein graddedigion yn mynd ymlaen i fod yn arweinwyr yn y diwydiant alltraeth ac yn y byd academaidd. Mae'r cwrs yn cynnig paratoad delfrydol ar gyfer gyrfaoedd ymchwil i newid hinsawdd, defnyddio ynni adnewyddadwy'r môr a'r diwydiant alltraeth, asesu effaith amgylcheddol, y diwydiant cyflenwi dŵr a rheoli parthau arfordirol, yn ogystal â chyrff cynghori'r llywodraeth a'r cyfryngau gwyddonol.
Fel myfyriwr graddedig o Brifysgol Bangor byddwch yn rhifog, yn llythrennog ac yn chwaraewr tîm, yn gallu meddwl yn feirniadol ac yn ddadansoddol, a byddwch yn dysgu sgiliau cyfathrebu rhagorol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Eigioneg Ddaearegol (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.