Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein gradd MGeog Daearyddiaeth yn debyg i'n rhaglenni BA neu BSc Daearyddiaeth ac eithrio bod pedwaredd flwyddyn astudio ychwanegol sy'n eich galluogi i arbenigo mewn maes daearyddiaeth sydd o ddiddordeb arbennig i chi trwy gyfrwng project traethawd hir. Byddwch hefyd yn mynd ar leoliad gwaith yn eich pedwaredd flwyddyn a fydd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd allweddol i’ch ymgyfarwyddo â byd cyflogaeth graddedigion. Byddwch hefyd yn gallu dewis rhai modiwlau ychwanegol, naill ai â ffocws dynol, ffisegol neu amgylcheddol i gwblhau eich astudiaethau.
Gallwch ddewis o'r un set o fodiwlau â'r rhaglenni BA (L700) a BSc (F800) Daearyddiaeth yn ystod eich tair blynedd gyntaf. Gallwch ddewis rhai sydd â ffocws mwy dynol neu ffisegol, neu hyd yn oed rhai sy'n adlewyrchu natur ryngddisgyblaethol daearyddiaeth.
Mae gwaith maes yn rhan annatod o'r radd hon, a bydd digonedd o gyfleoedd i fynd allan a dysgu sgiliau gwerthfawr yn lleol, ochr yn ochr â theithiau preswyl yn y Deyrnas Unedig ac Ewrop. Gallwch astudio neu weithio dramor os ydych yn cymryd rhan yn ein Blwyddyn Profiad Rhyngwladol.
Mae'r radd hon wedi ei hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol (gydag IBG). Mae graddau achrededig yn cynnwys sylfaen academaidd gadarn mewn gwybodaeth a sgiliau daearyddol ac yn eich paratoi i fynd i'r afael ag anghenion y byd y tu hwnt i addysg uwch.
BA neu BSc neu MGeog? Gallwch benderfynu newid i’r rhaglenni BA neu BSc Daearyddiaeth ar ddechrau eich trydedd flwyddyn os byddwch yn newid eich meddwl.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cyflwynydd teledu Steve Backshall bellach yn rhan o'n tîm addysgu.
- Teithiau maes sy’n manteisio ar ein lleoliad unigryw ar arfordir trawiadol y gogledd, nid nepell o Afon Menai, a mynyddoedd Parc Cenedlaethol Eryri.
- Cysylltiadau cryf â sefydliadau: Comisiwn Coedwigaeth, Natural England, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, Cyfoeth Naturiol Cymru, Canolfan Ecoleg a Hydroleg, Dŵr Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd. Mae rhai yn cyfrannu at yr addysgu ac yn darparu lleoliadau.
- Mae gennym Ystafell Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.