Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Bydd MEng Peirianneg yn eich paratoi am yrfa fel peiriannydd proffesiynol blaengar yn y diwydiant uwch-dechnoleg, mewn swyddi technegol a rheoli.
Byddwch yn ennill sgiliau a phrofiad ymarferol helaeth, yn ogystal â gwybodaeth ddamcaniaethol drylwyr. Gallwch ddewis ychwanegu blwyddyn leoliad i ennill profiad ychwanegol, perthnasol.
Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i gadw'ch opsiynau'n agored wrth eich paratoi â'r holl sgiliau dadansoddi, dylunio, rhaglennu a chyfrifiadura sydd eu hangen am yrfa beirianneg gyffrous.
Mae'r flwyddyn gyntaf yn darparu cwricwlwm eang, ac yn y ddwy flynedd olaf, byddwch yn canolbwyntio ar feysydd sy'n cyd-fynd â diddordebau ymchwil yr ysgol.
Ceir achrediad gan y Sefydliad Peirianneg a Thechnoleg (IET).
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r radd MEng Peirianneg hon yn darparu hyfforddiant mewn disgyblaethau allweddol peirianneg fecanyddol a gwyddor deunyddiau.
- Mae ein gradd yn mynd ymhell y tu hwnt i gyrsiau peirianneg traddodiadol trwy gysylltu modiwlau ym meysydd ynni carbon isel, cyfrifiadureg a pheirianneg electronig. Mae hyn yn golygu y byddwch mewn sefyllfa dda i ddylunio ein dyfodol digidol cynaliadwy.
- Trwy gyfuno gwybodaeth ar draws yr holl feysydd pwnc hyn, byddwch yn gallu creu datrysiadau arloesol sy'n briodol i ystod eang o yrfaoedd o fecatroneg, roboteg, gwyddor data, ynni carbon isel, peirianneg fodurol yn ogystal â swyddi traddodiadol mewn gwyddor deunyddiau a pheirianneg fecanyddol.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn cael eich addysgu gan ddefnyddio cymysgedd cyfoethog o sefyllfaoedd dysgu megis darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a gwaith labordy. Byddwch yn gweithio fel rhan o grŵp, yn gweithio ar eich pen eich hun, ac yn ymgymryd â dysgu seiliedig ar gyflogaeth.
Bydd eich cynnydd yn cael ei asesu mewn nifer o ffyrdd megis: arholiad lle na welwyd y cwestiynau o’r blaen, traethawd / gwaith cwrs, prawf dosbarth, adroddiad, labordy ymarferol, cyflwyniad, portffolio.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r ddwy flynedd gyntaf yn darparu cwricwlwm sylfaenol eang a chyffredin, tra bod opsiynau mwy arbenigol ym Mlynyddoedd 3 a 4 yn caniatáu ichi ddilyn modiwlau dewisol sy’n arwain at ddisgyblaeth broffesiynol.
Cyfleusterau
- Bydd gennych fynediad i gyfleusterau o ansawdd uchel - mae dylunio a gweithgynhyrchu digidol yn rhan bwysig o'n darpariaeth beirianneg a bydd y rhain yn cael eu cefnogi gan ein labordai cyfrifiadurol sydd â chyfarpar da, a'u meddalwedd dylunio a modelu blaengar.
- Gallwch chi gynhyrchu cydrannau a pheiriannau gan ddefnyddio ein gweithdai, gan ennill profiad gyda thechnolegau sy'n dod i'r amlwg fel gweithgynhyrchu haen-ar-haen.
- Yn ystod blynyddoedd 3 a 4 byddwch yn rhan annatod o grwpiau ymchwil Bangor gyda’ch projectau unigol a grŵp. Bydd hyn yn eich galluogi i ddefnyddio'r offer arbenigol sy'n cynnwys offer profi mecanyddol, labordai cemegol, blychau menig a'r rigiau mecaneg hylifau mwy sydd wedi'u lleoli yn MSparc, Parc Gwyddoniaeth y Brifysgol.
Cyfleusterau Peirianneg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy technolegau trochi, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr yn ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi’r gwaith o gyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.
- Mae gennym labordy addysgu israddedig enfawr lle byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol i gadarnhau'r wybodaeth rydych wedi ei dysgu yn eich darlithoedd. Mae’n llawn o offer sydd o safon diwydiant.
- Mae gennym ystafell lân 1000 y bydd ein holl fyfyrwyr israddedig yn ei defnyddio yn ystod eu hastudiaethau. Bydd hyn yn rhoi hyfforddiant unigryw i chi mewn protocolau ystafell lân sy'n brofiad defnyddiol iawn wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Meini Prawf Derbyn ar gyfer mynediad yn 2023
TGAU: gradd B/5 mewn Mathemateg, haen uwch (os nad yw'r cymhwyster Lefel 3 yn cynnwys Mathemateg neu Wyddoniaeth).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 128-136 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3 yn cynnwys:
- Lefel A: Gan gynnwys o leiaf gradd C mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Ffiseg (efallai y byddwn hefyd yn ystyried Electroneg neu wyddor arall yn lle Ffiseg. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol)*
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg *: DDM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Peirianneg*: DDM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080) mewn Peirianneg*: DDM - DDD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Yn cynnwys H5 mewn Mathemateg a Ffiseg*
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Access: rhoddir ystyriaeth fesul achos
- Lefelau T: rhoddir ystyriaeth fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig perthnasol, ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A lawn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).
*Bydd cymwysterau lefel 3 yn y pynciau canlynol yn cael eu hystyried ar gyfer y cwrs hwn ar yr amod bod digon o gynnwys mathemateg: Peirianneg Drydanol ac Electronig, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Gyfrifiadurol, Peirianneg Gweithgynhyrchu Peirianneg Awyrennol. Bydd meysydd pwnc tebyg a chymwysterau cyfwerth yn cael eu hystyried fesul achos.
Meini Prawf Derbyn ar gyfer mynediad yn 2023
TGAU: gradd B/5 mewn Mathemateg, haen uwch (os nad yw'r cymhwyster Lefel 3 yn cynnwys Mathemateg neu Wyddoniaeth).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 128-144 pwynt tariff o gymhwyster Lefel 3 yn cynnwys:
- Lefel A: Gan gynnwys o leiaf gradd C mewn Mathemateg ac o leiaf gradd C mewn Ffiseg (efallai y byddwn hefyd yn ystyried Electroneg neu wyddor arall yn lle Ffiseg. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol)*
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC mewn Peirianneg *: DDM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Caergrawnt mewn Peirianneg*: DDM-DDD
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080) mewn Peirianneg*: DDM - DDD
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: Yn cynnwys H5 mewn Mathemateg a Ffiseg*
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Access: rhoddir ystyriaeth fesul achos
- Lefelau T: rhoddir ystyriaeth fesul achos
- Cymhwyster Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig perthnasol, ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 Lefel A lawn. Cysylltwch â ni am ragor o wybodaeth.
Rydym yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff ymgeiswyr hŷn a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl eu teilyngdod unigol.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol).
*Bydd cymwysterau lefel 3 yn y pynciau canlynol yn cael eu hystyried ar gyfer y cwrs hwn ar yr amod bod digon o gynnwys mathemateg: Peirianneg Drydanol ac Electronig, Peirianneg Fecanyddol, Peirianneg Gyfrifiadurol, Peirianneg Gweithgynhyrchu Peirianneg Awyrennol. Bydd meysydd pwnc tebyg a chymwysterau cyfwerth yn cael eu hystyried fesul achos.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae cwmpas eang y radd hon yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd. Byddwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn yr agweddau sylfaenol ar beirianneg fecanyddol, gwyddor deunyddiau, thermodynameg, trosglwyddo gwres, electroneg a chyfrifiadureg. Mae hyrwyddo dysgu metawybyddol trwy gydol y rhaglen hon yn golygu y byddwch yn gallu defnyddio eich gwybodaeth ddofn o bob disgyblaeth i ddarparu atebion creadigol mewn ystod eang o yrfaoedd peirianneg.
Un o nodau allweddol y radd hon yw cynhyrchu peirianwyr mecanyddol a deunyddiau o ansawdd uchel sy'n gallu ymgymryd â swyddi sy'n nodweddiadol o'r meysydd hyn, fel peiriannydd dylunio, peiriannydd modurol, metelegydd, peiriannydd gweithgynhyrchu a pheiriannydd prosesau. Yn ogystal, mae'r radd yn pwysleisio’r defnydd o ddulliau digidol cyfoes gyda disgyblaethau peirianneg craidd. Mae'r radd hon yn cynhyrchu graddedigion sy'n hyddysg mewn efelychu a modelu. Maent hefyd yn fedrus wrth gasglu, trin a dadansoddi data. Mae’r sgiliau digidol hyn yn golygu bod gyrfaoedd mewn rheoli ac offeryniaeth, gwyddor data, TG a datblygu meddalwedd i gyd yn feysydd posibl ar ôl graddio. Mae peirianneg carbon isel ac ynni yn themâu trawsbynciol yn ystod y radd, sy'n golygu bod graddedigion yn ymwybodol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol. Mae'r radd hon hefyd yn eich paratoi am yrfaoedd yn y sector carbon isel sy'n ehangu'n gyflym. Byddwch hefyd yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen am yrfaoedd ymchwil yn y byd academaidd.
Drwy gydol y radd rydym yn cynnig hyfforddiant i'ch paratoi ar gyfer eich ymarfer proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys cyrsiau ar gynllunio projectau, cyngor ar greu CV, ymarfer cyfweliad a chynllunio gyrfa. Byddwch hefyd yn ymgymryd â phrojectau unigol a grŵp yn y drydedd a'r bedwaredd flwyddyn sy'n gofyn am reoli amser, dogfennaeth projectau a chydweithio. Mae'r flwyddyn olaf hefyd yn cynnwys seminarau a gyflwynir gan beirianwyr llwyddiannus i ddangos ehangder ac amrywiaeth gyrfaoedd peirianneg, gan ganiatáu i fyfyrwyr lywio eu gyrfaoedd yn fwy effeithiol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.