Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r radd hon yn archwilio sut mae cymhwyso technoleg at fusnes a diwydiant. Dyma gwrs sylfaenol mewn cyfrifiadureg, adeiladu a defnyddio systemau cronfa ddata, technolegau newydd, gweinyddu systemau, deallusrwydd artiffisial a systemau gwybodaeth busnes. Bydd y cwrs hwn yn dysgu'r hanfodion sy'n sail i systemau gwybodaeth gyfrifiadurol ac yn eu cymhwyso at gymdeithas ac at fusnes. Trwy theori a sesiynau ymarferol, byddwch yn dysgu defnyddio technoleg mewn lleoliad busnes, a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Byddwch yn deall yr hyn sy'n ysgogi tueddiadau'r dyfodol mewn maes sy'n newid yn gyflym.
Os oes gennych ddiddordeb mewn sut y cymhwysir technoleg ym myd busnes a diwydiant, yna dyma'r cwrs i chi. Dyma gwrs sylfaenol mewn cyfrifiadureg, adeiladu a defnyddio systemau cronfa ddata, technolegau cyfryngau newydd, gweinyddu systemau, deallusrwydd artiffisial a systemau gwybodaeth busnes. Mae'r cwrs wedi'i gynllunio i'ch galluogi i gymhwyso'r datblygiadau diweddaraf mewn Cyfrifiadura i’r ystod eang o broblemau y gall sefydliadau eu cael o ran gwybodaeth a thechnoleg.
Ar ôl graddio bydd gennych y gallu i reoli a datblygu systemau technoleg gyfrifiadol ar gyfer ystod eang o anghenion defnyddwyr. Bydd y cwrs hwn hefyd yn eich paratoi ar gyfer y gweithle trwy ddysgu ystod o sgiliau proffesiynol i chi, gan gynnwys cyfathrebu, gwaith tîm, rheoli amser a dysgu annibynnol ochr yn ochr ag ymwybyddiaeth o faterion cyfreithiol, cymdeithasol a moesegol perthnasol.
Yn ystod eich cyfnod ym Mangor byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r hanfodion sy'n sail i systemau gwybodaeth gyfrifiadurol a'u defnydd mewn diwydiant. Trwy theori a sesiynau ymarferol, byddwch yn dysgu defnyddio technoleg ym myd busnes, a fydd yn rhoi mantais gystadleuol i chi. Yn holl-bwysig, byddwch hefyd yn deall yr hyn sy'n ysgogi tueddiadau'r dyfodol mewn maes sy'n newid yn gyflym.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r cysylltiadau clos sydd gan Bangor â'r diwydiant cyfrifiaduron yn gaffaeliad mawr i'r cyrsiau.
- Cynhelir prosiectau'r flwyddyn olaf yn aml mewn cydweithrediad â chwmni.
- Mae cysylltiadau cryf ag Ysgol Fusnes Bangor yn darparu cyd-destun cryf ar gyfer defnyddio'r dechnoleg a ddysgir.
- Yn ddiweddar rydym wedi sefydlu labordy rhwydweithio mawr. Mae'r cyfleusterau hynny wedi'u cynllunio i roi cyfle i'r myfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.
- Aelod Sefydliadol o Academi Oracle.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio tua 12 awr mewn darlithoedd ac 8 awr mewn labordai bob wythnos. Byddwch hefyd yn cael tiwtorialau i weithio ar ddylunio meddalwedd a sgiliau technegol ac yn cwblhau gwahanol aseiniadau datrys problemau. Cewch y cyfle i wneud projectau'n unigol ac fel aelod o dîm, yn cynnwys y project tîm datblygu ym mlwyddyn 2 a arweinir gan fyd diwydiant. Bydd gwaith project yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau dylunio creadigol a thechnegol yn ogystal â defnyddio’r egwyddorion damcaniaethol yr ydych chi wedi eu dysgu. Asesir modiwlau trwy arholiadau, asesu parhaus neu gyfuniad o'r ddau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Systemau Gwybodaeth Cyfrifiadurol BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyfrifiadureg
- Labordai cyfrifiadurol mawr gyda'r holl feddalwedd ddiweddaraf.
- Labordy technolegau trochi sydd wedi cael ei sefydlu yn ddiweddar, lle mae'r dyfeisiau diweddaraf yn cael eu defnyddio at waith project ac ymchwil.
- Labordy rhwydweithio mawr sydd wedi cael ei sef ddiweddar. Mae'r cyfleusterau wedi eu cynllunio i roi cyfle i fyfyrwyr ddylunio a gweinyddu rhwydweithiau ac i gefnogi cyflwyno modiwlau am saernïaeth cyfrifiaduron.
Rhithdaith 360 o'n cyfleusterau ardderchog
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 96 - 120 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Derbynnir Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Mae cynnig nodweddiadol yn seiliedig ar 104 - 128 o bwyntiau tariff o gymhwyster Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Derbynnir Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Derbynnir Bagloriaeth Cymru
- Mynediad
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
I weld rhestr lawn o’r cymwysterau lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Bydd y cwrs hwn yn eich arfogi â'r sgiliau a'r wybodaeth ar gyfer gyrfa lwyddiannus yn dylunio a defnyddio systemau masnachol. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer amrywiaeth o yrfaoedd mewn dylunio a gweithredu systemau, cyfathrebu a rhwydweithio, cymwysiadau cyfrifiadurol, rheoli TG, dadansoddeg data a rheolaeth.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cyfrifiadureg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.