Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Caiff y BA Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol ei dysgu’n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg ac mae’n gwrs delfrydol os ydych chi’n breuddwydio ryw ddydd am wella amodau cymdeithasol a lles yng Nghymru neu ar ran dinasyddion Cymru.
Yn ogystal ag archwilio problemau cenedlaethol a byd-eang, megis anghydraddoldeb neu newid yn yr hinsawdd, mae ein pwyslais ar Gymru a materion Cymreig yn rhoi ymdeimlad gwirioneddol o'r hyn sy'n digwydd mewn cymunedau lleol. Byddwch yn ystyried materion cymdeithasol dybryd fel digartrefedd a diffyg tai fforddiadwy, er enghraifft, neu gysylltiad band eang gwael yng nghefn gwlad Cymru.
Arweiniodd arbenigedd y tîm addysgu cyfrwng Cymraeg mewn addysgu cymdeithaseg drwy gyfrwng y Gymraeg at gynhyrchu'r gyfres arloesol 'Pecyn Adnoddau Amlgyfrwng Cymdeithaseg', a ddefnyddir ar hyn o bryd mewn ysgolion a phrifysgolion ledled Cymru. Mae eu gwybodaeth pwnc-benodol hefyd yn cwmpasu newid cymdeithasol a gwrthdaro, addysg, iaith, hunaniaeth (hil, democratiaeth, cenedl), materion cymdeithasol (iechyd, tai ac anghydraddoldeb cymdeithasol), trosedd a chyfiawnder, y cyfryngau, cerddoriaeth, gweithredu gwleidyddol a thechnoleg.
Ni yw’r unig brifysgol lle gallwch astudio eich gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn gyfan gwbl yn Gymraeg. Mae ein cymuned ddwyieithog yn rhan annatod o Brifysgol Bangor ac mae gan tua 70% o’r staff sgiliau Cymraeg. Mae hyn yn eich galluogi i gwrdd ac astudio mewn awyrgylch cyfeillgar, cefnogol gyda myfyrwyr a staff eraill sy’n siarad Cymraeg.
Mae’r cwrs cyfrwng Cymraeg hwn BA (Anrh) Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn darparu sylfaen gadarn yng nghysyniadau ac ymagweddau allweddol dwy ddisgyblaeth sy’n ategu ei gilydd. Mae Cymdeithaseg yn edrych ar achosion ac effaith problemau cymdeithasol, tra bod Polisi Cymdeithasol yn darparu'r wybodaeth i fynd i'r afael yn well ag anghenion a hawliau cymdeithas. Mae'r rhaglen radd hefyd yn addas ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.
Byddwch yn archwilio materion cymdeithasol a gwleidyddol cyfoes, megis tlodi, tai ac addysg, gan adnabod achosion ac atebion. Bydd clywed barn myfyrwyr o bob rhan o'r byd, gyda chefndiroedd a phrofiadau gwahanol, yn eich cyflwyno i safbwyntiau newydd.
Cewch glywed hefyd am brofiadau uniongyrchol pobl sy'n cefnogi newid cymdeithasol. Mae siaradwyr gwadd wedi cynnwys Cyngor Hil Cymru, Gweithwyr Cymdeithasol Heb Ffiniau, Gweithredu dros Blant, Gwasanaethau Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM, Cyngor Gwynedd, ac Antur Waunfawr. Mae ymweld â swyddfeydd llywodraeth leol a chenedlaethol yn caniatáu ichi weld y broses o lunio polisïau ar waith yn y Gymru ddatganoledig.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Bangor yw'r unig brifysgol i gynnig gradd Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol a ddysgir 100% yn y Gymraeg. Gall hyn roi hwb i'ch cyflogadwyedd mewn gweithleoedd sy'n gwerthfawrogi neu sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg.
- Cewch grant am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnig hyd at £1,000 y flwyddyn, ac mae Bwrsariaeth Cyfrwng Cymraeg y Brifysgol yn cynnig £250 ychwanegol y flwyddyn gan ddibynnu faint o fodiwlau Cymraeg y byddwch yn eu hastudio.
- Mae cysylltiadau agos gydag llywodraethau lleol a chenedlaethol, cyflogwyr, elusennau, sefydliadau gofal cymdeithasol, asiantaethau cyfiawnder troseddol yn galluogi teithiau maes, er enghraifft, i Senedd y Deyrnas Unedig, Senedd Cymru a’r Goruchaf Lys.
- Cewch eich dysgu gan ymchwilwyr o fri rhyngwladol sy’n ymchwilio i effeithiau arloesi, newidiadau cymdeithasol, datblygiadau gwleidyddol a pholisi ar iechyd, iaith, tlodi, gofal cymdeithasol, lles a llesiant.
- Byddwch yn ennill profiad bywyd go iawn ar leoliad – bu myfyrwyr blaenorol yn gweithio gyda sefydliadau amrywiol fel Cyngor ar Bopeth, Cymorth i Ferched Cymru, awdurdodau lleol, Amgueddfa Llandudno.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae astudio’r radd israddedig Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol gyfun hon yn rhoi sylfaen wybodaeth ehangach i chi ac yn eich paratoi at ymchwil, dadansoddi polisi, gwasanaeth cyhoeddus neu wirfoddol yn lleol, yn genedlaethol neu'n rhyngwladol.
Byddwch yn dod i ddeall y cysyniadau allweddol, y traddodiadau damcaniaethol a'r datblygiadau a luniodd cymdeithaseg fel disgyblaeth. Gan wneud y cysylltiadau rhwng trafferthion personol a materion cyhoeddus, byddwch yn edrych ar sut mae llywodraethau ac asiantaethau eraill yn ymateb i faterion cymdeithasol, megis gofal i'r henoed neu hawliau plant, a’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau.
Gan archwilio'r broses o lunio polisi yn fanwl, byddwch yn gwerthuso polisïau ac ymyriadau cyfredol yn feirniadol. Byddwch hefyd yn datblygu'r wybodaeth a'r sgiliau i wneud eich ymchwil eich hun er mwyn gallu cyfrannu at ddatblygiad polisi yn y dyfodol. Mae’r radd cyfrwng Cymraeg yn canolbwyntio ar faterion cyfoes a pholisi cymdeithasol yng nghyd-destun datganoledig Cymru ac yn paratoi myfyrwyr i ymuno â’r gweithlu dwyieithog yng Nghymru.
Lle bo modd, yn ogystal â thrafod, byddwch yn dysgu trwy wneud. Er enghraifft, yn y modiwl Rhaniadau Cymdeithasol, rydym yn ystyried tlodi ac allgáu cymdeithasol trwy ddadansoddi ystadegau swyddogol y llywodraeth yng nghyd-destun enghreifftiau byd go iawn o brofiadau bywyd pobl Cymru.
Mae modiwlau dewisol (a allai newid) yn eich galluogi i deilwra cynnwys eich gradd i gyd-daro â'ch diddordebau neu’ch dyheadau gyrfa. Er enghraifft, mae Cymru yn y Byd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr astudio dadansoddiad cymdeithasol-hanesyddol o sut y datblygodd Cymru gyfoes yn yr oes fodern. Mae Hawliau Ieithyddol yn rhoi dadansoddiad manwl i fyfyrwyr o hawliau iaith mewn byd amlieithog, gan ganolbwyntio ar Gymru a chyd-destun yr iaith Gymraeg.
Mae'r flwyddyn ar leoliad a'r modiwl lleoliad gwaith dewisol yn gyfle i chi gael profiad gwaith mewn sefyllfa o fywyd go iawn. Bu cyn-fyfyrwyr yr Ysgol yn gweithio gydag amrywiaeth eang o elusennau sy’n canolbwyntio ar gefnogi ffoaduriaid, hawliau dynol rhyngwladol, dioddefwyr trais domestig a phlant mewn teuluoedd a wahanodd neu a ysgarodd, er enghraifft. Bu eraill yn gweithio ledled y Brifysgol yn trefnu digwyddiadau neu gynadleddau ac yn cefnogi myfyrwyr.
Yn y cyfamser, mae'r project ymchwil neu'r traethawd hir yn gadael i chi archwilio pynciau sydd o ddiddordeb arbennig neu faterion yr ydych yn teimlo'n angerddol yn eu cylch. I roi syniad i chi, mae enghreifftiau diweddar yn cynnwys astudiaethau ar ddefnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, effaith twristiaeth ar dai, a dylanwad y cyfryngau cymdeithasol ar bobl ifanc.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymdeithaseg gyda Pholisi Cymdeithasol (Cyfrwng Cymraeg) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Yn 2017, fe wnaeth Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, osod targedau ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg ac un rhan o bump o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg bob dydd erbyn 2050. Bydd angen i unrhyw un sy’n dymuno gweithio mewn sefydliadau sector cyhoeddus, megis llywodraeth leol neu Gymreig, addysg ac iechyd, allu gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg yn rhan o’u cyswllt beunyddiol â chydweithwyr a’r cyhoedd.
Gall graddedigion Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol fynd i amrywiaeth eang o alwedigaethau, gan gynnwys tai cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, rheoli, gweinyddu llywodraeth leol, cynllunio ieithyddol, datblygu cymunedol, addysg, cysylltiadau cyhoeddus, a'r sector gwirfoddol.
Bydd eich gwybodaeth am bobl, problemau cymdeithasol a sgiliau dadansoddi, ymchwilio a meddwl yn feirniadol yn werthfawr ym mron unrhyw yrfa. Er enghraifft, mewn hysbysebu, marchnata, newyddiaduraeth, rheoli a gweinyddu, y sector amgueddfeydd a threftadaeth, masnach a bancio, addysgu ac ymchwil a'r gyfraith.
Aeth ein graddedigion i weithio mewn polisi a meysydd cymdeithasol gan gynnwys tai cyhoeddus, y gwasanaeth sifil, y gwasanaeth iechyd, rheoli, gweinyddu llywodraeth leol, addysg, cysylltiadau cyhoeddus, a'r sector gwirfoddol. Aeth rhai i astudio ar lefel ôl-radd ar un o’r cyrsiau MA .
Ymhlith y swyddi nodweddiadol mae:
- Swyddi ym myd gweinyddiaeth gyhoeddus
- Swyddog Datblygu Economi a Chymuned
- Swyddog Cefnogi Plant a Theuluoedd
- Swyddog tai a lles
- Swyddog Cefnogi Dysgu
- Swyddog Oedolion, Iechyd a Llesiant
- Staff y trydydd sector/sector gwirfoddol
- Cydlynydd digwyddiadau
- Swyddog grantiau
- Swyddog adnoddau dynol
- Gweithiwr cymorth/datblygu rhyngwladol
- Newyddiadurwr
- Hyfforddwr bywyd
- Hyfforddai graddedig
- Llywodraeth Leol
- Rheolwr Marchnata
- Rheolwr a swyddog personél
- Swyddog prawf
- Swyddog cysylltiadau cyhoeddus
- Ymchwilydd
- Gweithiwr ieuenctid
- Swyddog prawf
- Swyddog cynaliadwyedd Eiriolydd dioddefwyr
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.