Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn caniatáu i chi arbenigo ym maes pwysig ymarfer cyfreithiol, gan roi dealltwriaeth ddyfnach i chi o droseddu, cyfraith droseddol a'r system cyfiawnder troseddol. Yn ogystal â datblygu eich sgiliau cyfreithiol, mae ein cysylltiadau cryf â phroffesiwn y gyfraith a diwydiant yn sicrhau cyfleoedd ymarferol ar gyfer profiadau 'byd go iawn'. Os ydych yn teimlo'n angerddol ynglŷn â chyfiawnder troseddol, mae'r radd gynhwysfawr hon yn fan cychwyn perffaith i'ch lansio ar lwybr gyrfa o'ch dewis.
Mae'r cwrs wedi ei gynllunio i feithrin eich annibyniaeth ddeallusol. Cewch eich cefnogi i ddatblygu'r hyder a'r sgiliau fydd eu hangen arnoch i feddwl yn feirniadol, i ofyn ac ateb cwestiynau effeithiol am y gyfraith a'i chyfraniad at gymdeithas, ac i gyfleu eich dadleuon rhesymegol mewn modd effeithiol, ar lafar neu'n ysgrifenedig.
Byddwch yn cael gwybodaeth a dealltwriaeth newydd o egwyddorion a gwerthoedd y gyfraith a chyfiawnder, a byddwch yn dysgu sut y gellir defnyddio'r gyfraith er budd unigolion a chymdeithasau, gan gynnwys rhai sydd fwyaf ar gyrion ein cymuned.
Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio meysydd gwybodaeth gyfreithiol sylfaenol. Nid yn unig y byddwch yn astudio Cyfraith Trosedd, ond byddwch hefyd yn edrych ar bynciau megis Cyfraith Gyhoeddus lle byddwch yn dysgu sut mae'r wlad yn cael ei threfnu a'i rhedeg; a Chyfraith Contract lle byddwch yn dysgu sut mae cytundebau cyfreithiol yn cael eu gwneud a sut y cânt eu gweithredu rhwng pobl a chwmnïau. Yn ogystal, cewch gyfle i astudio pynciau megis Plismona Digidol ac E-Droseddau, Trosedd a'r Cyfryngau a Throseddu Trefnedig a Gwrthderfysgaeth.
Byddwch hefyd yn cael cyfle i ddewis o blith modiwlau dewisol cyffrous y gyfraith fel cyfraith ryngwladol, cyfraith fasnachol, hawliau dynol, athroniaeth y gyfraith a chyfraith teulu. Os dewiswch ein modiwl lleoliad gwaith, cewch gyfle i gael profiad gwaith cyfreithiol mewn sefyllfa bywyd go iawn.
Byddwch yn cymryd rhan gweithredol yn eich dysgu. Nid eistedd a darllen mo'r cyfan. Byddwch yn dysgu sgiliau dadlau, eirioli a thrafod trwy amrywiaeth o gyfleoedd fel rhan o weithgareddau modiwlau a gweithgareddau allgyrsiol. Byddwch hefyd yn elwa o weithgareddau datblygiad proffesiynol, teithiau i sefydliadau llywodraethol a barnwrol, ac amrywiaeth eang o siaradwyr gwadd.
Trwy gydol eich astudiaethau, byddwch yn dysgu’r wybodaeth academaidd ac yn cael eich cyflwyno i'r sgiliau sy'n ofynnol i ddilyn gyrfa gyfreithiol pe byddech yn dymuno mynd ymlaen i gymhwyso fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Cyfleoedd unigryw i weithio gydag ymarferwyr cyfreithiol a gweithwyr proffesiynol mewn diwydiant trwy ein rhaglenni pro bono.
- Ystafell sy'n replica o lys modern gyda'r holl dechnoleg ddiweddaraf, sy'n sicrhau y gall myfyrwyr gael profiad ymarferol hanfodol trwy gymryd rhan mewn ffug achosion cyfreithiol.
- Cynigir darpariaeth cyfrwng Cymraeg fel rhan o bob modiwl gorfodol y gyfraith, a gellir astudio rhai o'r modiwlau dewisol yn gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.