Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn yn gyfle gwych i gyfuno pynciau cyflenwol ac ymchwilio i agweddau cymdeithasol a gwleidyddol Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Byddwch yn edrych ar ddamcaniaethau a thystiolaeth sy'n ymwneud â throsedd, troseddwyr a dioddefwyr, a'r gwahanol ymatebion i droseddu a dioddefwyr - gan gynnwys mesurau deddfwriaethol rheolaeth gymdeithasol ac atal troseddu. Byddwch hefyd yn dysgu am sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio, o blismona hyd at garchar ac adsefydlu.
Mae'r cwrs hwn yn rhoi cyfle i chi astudio dau brif faes pwnc; Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Mae Troseddeg yn edrych ar ddamcaniaethau a thystiolaeth yn ymwneud â throsedd, troseddwyr a dioddefwyr, tra bo astudiaethau Cyfiawnder Troseddol yn edrych ar y gwahanol ymatebion i drosedd a dioddefwyr, o gamau anffurfiol i fesurau deddfwriaethol ffurfiol mewn rheolaeth gymdeithasol ac atal troseddau. Mae hefyd yn edrych ar y ffordd mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio - o blismona i garcharu ac adsefydlu.
Mae’r radd wedi’i llunio i roi i fyfyrwyr wybodaeth ymarferol a dealltwriaeth o sut mae'r system cyfiawnder troseddol yn gweithio, yn ogystal â chyfle i ystyried y ffactorau cymdeithasol a diwylliannol sy'n dylanwadu ar benderfyniad pobl i ymwneud â gweithgarwch troseddol. Yn ystod y radd, mae myfyrwyr yn cael sylfaen wybodaeth eang o droseddu a rheoli troseddau, ond hefyd yn cael cyfle i ganolbwyntio ar sawl maes gwahanol a chymhleth ymddygiad dynol, fel camddefnyddio cyffuriau, trais rhyngbersonol a throseddoldeb cyfundrefnol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Yn ystod y cwrs, cewch eich dysgu mewn amgylchedd cyfeillgar ac anffurfiol gan staff sy'n cyfuno gyrfaoedd ymchwil gydag ymroddiad gwirioneddol i addysgu.
- Mae gennym gysylltiadau da ag asiantaethau cyfiawnder troseddol (yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol) ac mae ein cyrsiau'n arloesol ac yn adlewyrchu natur amserol y maes pwnc.
- Mae amrywiaeth o siaradwyr gwadd yn ychwanegu at y profiad dysgu.
- Mae strwythur y radd yn caniatáu ichi arbenigo yn ogystal ag astudio amrywiaeth eang o opsiynau ac ymateb i heriau deallusol y maes pwnc. Bwriad gwaith y flwyddyn gyntaf yw adeiladu eich hyder, beth bynnag eich cefndir.
- Mae'r radd yn cynnwys trafodaeth ar ystod amrywiol o bynciau a meysydd cymhleth wrth astudio trosedd a throseddoldeb, gan gynnwys astudio troseddu ieuenctid, dioddefoleg a throseddu cyfundrefnol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Mae modiwlau ar y cwrs hwn yn defnyddio cyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a sesiynau gweithdy wythnosol, awr o hyd. Mae troseddeg yn canolbwyntio ar bynciau dadleuol a heriol felly mae trafodaeth fywiog yn cael ei hannog wrth i ni ystyried heriau amrywiol rheoli troseddau a chymhellion yn ymwneud â pham mae pobl yn troseddu.
Bydd myfyrwyr yn cael eu cyfeirio dros gwrs y radd at astudiaethau academaidd ac adroddiadau ar drosedd a rheoli troseddau, gan ddefnyddio ein llwyfan dysgu ar-lein 'Blackboard', a Llyfrgell Prifysgol Bangor, sy'n rhoi mynediad at ystod o adnoddau.
Trwy gydol y radd rydym yn cynnwys sesiynau gan siaradwyr gwadd fel cynrychiolwyr o'r system cyfiawnder troseddol ac academyddion sy'n ymweld, i roi profiad dysgu deinamig i fyfyrwyr. Rydym yn defnyddio cymysgedd o wahanol strategaethau asesu yn ystod y radd, o dasgau cyflwyno i draethawd ac adroddiadau.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn dilyn y modiwlau gorfodol Cyflwyniad i Droseddeg* a Chyflwyniad i Gyfiawnder Troseddol*. Bydd myfyrwyr yn dewis 80 credyd pellach (pedwar modiwl) o restr o fodiwlau sy’n cynnwys pynciau fel: Rhaniadau Cymdeithasol*, Cyflwyniad i Gymdeithaseg, Principles of Politics, Introducing Human Geographies, Social Policy and Society, Britain – Blitz to Brexit, Modern History, and Living the Good Life.
Ym mlwyddyn 2 a blwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn dilyn y modiwlau gorfodol canlynol: Trosedd a Chyfiawnder ym Mhrydain Fodern*; Damcaniaeth Droseddegol*; Ymchwil Cymdeithasol a Gwleidyddol*; Power, Crime and Punishment; Perspectives on Youth Crime.
Ar draws Blynyddoedd 2 a 3, bydd myfyrwyr hefyd yn gallu dewis modiwlau troseddeg a chyfiawnder troseddol pellach o restr o opsiynau a all gynnwys: Serial Killers; Organised Crime and Counter-terrorism; Crime and the Media; Digital Policing and E-Crime. Bydd modiwlau dewisol pellach hefyd ar gael mewn ystod o bynciau cysylltiedig, megis: Addysg yn y Gymru Gyfoes**; Pwer, Cyfalaf a Chymdeithas**; Forensic Psychology; Criminal Law; Gender Perspectives, Globalisation & Social Change; Housing Policy; Race Democracy & Political Ideology; Social Issues; Classical Social Theory; Contemporary Social & Political Debates; Poverty and Inequality.
Bydd y Traethawd Hir ym mlwyddyn 3 hefyd yn cynnig cyfle i fyfyrwyr gwblhau project ymchwil annibynnol ar bwnc o'u dewis, dan oruchwyliaeth aelod staff profiadol. Mae cyfle hefyd i ddilyn modiwl Lleoliad Gwaith, naill ai ym mlwyddyn 2 neu ym mlwyddyn 3.
*Modiwl cyfrwng Cymraeg, mae fersiwn Saesneg o’r modiwl ar gael hefyd. **Modiwl cyfrwng Cymraeg
Sylwer mai syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE: derbynnir
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae gan rai sydd wedi graddio mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol ym Mangor ystod o lwybrau gyrfa y gallant eu harchwilio. O fewn y system cyfiawnder troseddol mae yna waith mewn nifer o feysydd gwahanol i'w hystyried fel heddwas, swyddog carchar neu swyddog prawf, gweithio ym maes rheoli mewnfudo a chyfiawnder ieuenctid. Ynghyd â'r llwybrau hyn, mae nifer o swyddi cefnogi yn y sefydliadau hyn ar gael i raddedigion eu dilyn. Yn ystod y radd bydd myfyrwyr yn dysgu sut i gynnal ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas, sy'n rhoi nifer o sgiliau trosglwyddadwy iddynt sy'n ddefnyddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd. Mae gallu llunio a rheoli projectau ymchwil, yn ogystal â sgiliau cyfathrebu rhagorol a sgiliau dadansoddi beirniadol, yn golygu bod y radd hon yn berthnasol i lawer o feysydd. Gall graddedigion hefyd edrych am waith mewn llywodraeth leol a chenedlaethol, ac yn y sector diogelwch preifat, lle mae eu gwybodaeth am blismona a chyfiawnder troseddol yn ddefnyddiol. Gall myfyrwyr hefyd fynd ymlaen i astudio ar lefel ôl-raddedig ar un o'n cyrsiau MA niferus.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cymdeithaseg (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.