Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Os oes arnoch awydd newid dyfodol busnes a chael effaith fyd-eang mewn cymdeithas, yna dyma'r radd i chi. Bydd y radd Rheoli Busnes yn rhoi dealltwriaeth i chi o sut mae sefydliadau a rheolwyr yn gweithredu mewn amgylchedd byd-eang wrth ddatblygu sgiliau digidol, dadansoddol a rhyngbersonol a sgiliau datrys problemau, sy’n allweddol ac yn ddeniadol i gyflogwyr. Byddwch yn astudio mewn ysgol fusnes fodern, fentrus a deinamig. Cewch eich cyflwyno i arferion rheoli, theori trefniadaeth a'r amgylchedd busnes byd-eang, yn ogystal â llawer o agweddau eraill ar fusnes, megis arweinyddiaeth, cynaliadwyedd, arloesi, marchnata, gweithrediadau, rheoli adnoddau dynol, strategaeth, creu menter newydd, cyllid, addasu i newid ac e-fusnes. Byddwch yn astudio sefydliadau go iawn er mwyn dod yn graff o ran busnes a chewch feithrin eich gwybodaeth am brosesau rheoli.
Os hoffech fod yn entrepreneur a sefydlu'ch busnes eich hun, neu weithio gyda chwmnïau rhyngwladol, busnesau newydd neu rai nid-er-elw neu hyd yn oed weithio i sefydliadau’r llywodraeth, bydd y rhaglen hon yn rhoi'r gallu a'r arbenigedd i chi roi eich gyrfa ar lwybr carlam. Mae bron pob gweithgaredd y mae bodau dynol yn ymgymryd a nhw yn elwa o gael eu rheoli'n effeithiol. Bydd swyddogaethau rheoli yn cael eu gosod yng nghyd-destun datganiad enwog Toffler 'yr unig gysonyn yw newid', felly byddwch yn dysgu sut i feddwl yn arloesol er mwyn ymddwyn yn foesegol, yn gynaliadwy ac yn fyd-eang.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rhaglen ddiddorol ac arloesol gan ddefnyddio dull amlddisgyblaethol o ddadansoddi heriau busnes rhyngwladol.
- Cewch eich addysgu gan academyddion sy'n arbenigwyr yn eu meysydd ac y mae eu hymchwil yn cyfrannu at ddatblygu polisi, at ddatblygiad eu disgyblaethau, a hyd yn oed at well dealltwriaeth o fusnes ei hun.
- 3ydd ar gyfer Ansawdd Addysgu: Busnes, Rheolaeth a Marchnata (Times & Sunday Times: Good University Guide 2023)
- 97% Boddhad Cyffredinol o fewn y maes pwnc Rheolaeth (Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr 2022)
- Mae ffocws Ysgol Busnes Bangor ar eich helpu i wella eich cyflogadwyedd trwy roi cyfleoedd i chi ymgysylltu â busnesau, ymgymryd â lleoliadau gwaith ac interniaethau a chymryd rhan mewn cystadlaethau busnes a mentrau eraill megis ENACTUS, ein rhaglen mentrau cymdeithasol.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y radd Rheoli Busnes, byddwch yn dysgu sylfaen ddamcaniaethol swyddogaethau rheoli unigol ond hefyd yn dysgu sut i sicrhau integreiddio i greu sefydliad effeithiol. Yn ogystal â chymysgedd o ddarlithoedd, gweithdai rhyngweithiol, a deunydd cefnogi ar-lein byddwch yn cael mewnwelediadau gan reolwyr sefydliadau o wahanol feintiau ac mewn ystod o sectorau diwydiant. Un o gryfderau penodol y rhaglen yw'r cyfle i ymgysylltu ag entrepreneuriaid, y mae llawer ohonynt wedi cael llwyddiant gyda nifer o fentrau newydd.
Byddwch yn aelod gweithgar o grŵp o fyfyrwyr sy'n astudio graddau tebyg yn Ysgol Busnes Bangor, ac felly’n cael eich cyflwyno i sbectrwm eang o sefyllfaoedd rheoli.
Bydd y myfyrwyr ar y modiwlau rydych chi'n eu hastudio yn wirioneddol ryngwladol a bydd hynny yn eich helpu i ddeall manteision (a heriau) gweithredu'n draws-ddiwylliannol mewn economi fyd-eang.
Mae cyfleoedd i gael profiad gwaith, ac i astudio i ffwrdd o Fangor gydag un o'n partneriaid rhyngwladol.
Caiff eich dysgu ei asesu trwy amrywiaeth o ddulliau gan gynnwys gwaith cwrs, arholiadau, cyflwyniadau, ac adroddiadau project.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol, Cyflwyniad i Faterion Rheolaeth Gyfoes mewn Moeseg, Cynaliadwyedd, HRM, a Thwristiaeth, Egwyddorion Cyfrifeg Rheolaeth ac Egwyddorion Rheolaeth a Threfniadaeth. Mae yna hefyd fodiwlau dewisol ar gael mewn pynciau fel Dulliau Dadansoddi Busnes, Cyflwyniad i gylch bywyd gweithwyr, Cyllid Personol a Bancio a Sylfaen mewn Marchnata. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 4 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o’r pynciau canlynol, Cynllunio a Chydlynu Rheolaeth, Strategaeth Weithrediadau ar draws y Fenter a Systemau Gwybodaeth Busnes. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Y Gyfraith ar gyfer Busnes ac Ymchwil Marchnata a CRM. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 5 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd 80 credyd o bynciau fel Menter, Creadigrwydd ac Arloesedd a Rheolaeth Strategol. Mae modiwlau dewisol hefyd ar gael mewn pynciau fel Busnes Rhyngwladol a Chymhwysedd Byd-eang. Gall myfyrwyr hefyd ddewis modiwlau dewisol o fodiwlau lefel 6 eraill yr Ysgol Busnes neu o rywle arall yn y Brifysgol, yn amodol ar gyfyngiadau amserlen a rhagofynion.
Mae cynnwys y cwrs wedi'i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Mae gennym ddewis eang o fodiwlau a dulliau i chi allu astudio yn y Gymraeg, ond efallai nid fydd pob un o'r pynciau uchod ar gael drwy Gyfrwng y Gymraeg.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Rheoli Busnes BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ni fyddai'r economi fyd-eang yn gweithredu heb unigolion a all gymhwyso technegau swyddogaethau rheoli unigol - mewn modd integredig. Mae'r galw mawr ledled y byd mewn sefydliadau o bob maint a math am bobl sydd â gwybodaeth ddamcaniaethol, ond yn bwysicach fyth, sydd â’r ddealltwriaeth i gymhwyso hynny’n ymarferol.
Ar ôl graddio gyda gradd mewn Rheoli Busnes, gallech ddilyn gyrfa yn unrhyw ran o'r gadwyn werth fyd-eang sy'n cadw economi'r byd i weithredu. Fel arall, byddwch wedi meithrin y sgiliau a'r ddealltwriaeth i ystyried cychwyn eich menter eich hun.
Bydd y radd Rheoli Busnes yn eich arfogi â'r sgiliau i feddwl yn strategol ac yn greadigol wrth ddatrys problemau a rheoli newid, felly dylai ehangu eich gorwelion y tu hwnt i weithgareddau masnachol i ystyried y nifer fawr o gyfleoedd gyrfaol sydd i’w cael yn y sector cyhoeddus a’r sector nid-er-elw.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Rheoli Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.