Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae technoleg wedi gwneud y byd yn fwy cysylltiedig a chyda hynny wedi agor marchnad fyd-eang lle gall busnesau fasnachu'n rhyngwladol. Mae angen graddedigion ar gwmnïau sy'n deall y dirwedd fyd-eang a sut mae busnesau'n gweithredu ar lwyfan y byd. Mae ein BSc mewn Rheolaeth Busnes Rhyngwladol yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu busnesau sydd eisiau masnachu a/neu weithredu dramor.
Byddwn yn eich helpu i ennill gwybodaeth arbenigol mewn adeiladu a chynnal cysylltiadau â rhanddeiliaid rhyngwladol ac edrych ar yr heriau gwleidyddol, diwylliannol ac economaidd y gallech eu hwynebu wrth fasnachu’n fyd-eang. Mae ein myfyrwyr amrywiol yn golygu y byddwch yn astudio ochr yn ochr â myfyrwyr o wahanol wledydd yma ym Mangor, sy'n dod â barn a safbwyntiau rhyngwladol gyda nhw.
Gan eich paratoi ar gyfer byd busnes byd-eang sy'n esblygu'n barhaus, mae ein gradd Rheolaeth Busnes Rhyngwladol wedi'i chynllunio i gynnig cwricwlwm amrywiol a chyflawn. Gan gwmpasu pynciau craidd fel egwyddorion rheolaeth, menter a materion rheolaeth gyfoes, mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i roi'r sgiliau i chi fod yn arweinydd hyderus. Gallwch hefyd astudio pynciau megis marchnata, dadansoddeg busnes a chylchoedd oes gweithwyr i helpu i ehangu eich gwybodaeth fusnes.
Gall myfyrwyr fanteisio ar ein dewis 'Gyda Lleoliad Gwaith', sy'n cynnig y cyfle i wneud blwyddyn ar leoliad gwaith gan eich helpu i baratoi ar gyfer y farchnad swyddi i raddedigion yma yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Mae ein BSc (Anrh) Rheolaeth Busnes Rhyngwladol yn eich paratoi i fod yn ddatryswr problemau strategol a all addasu i heriau busnes byd-eang. Mae'n darparu dealltwriaeth eang ac arbenigol o fusnes ledled y byd.
- Cyfuniad o ymchwil ac addysgu dan arweiniad ymarferwyr. Gyda chymwysterau da a llawer o brofiad, mae gan rai staff brofiad diwydiannol byd-eang sylweddol, ac mae eraill yn ymchwilwyr gweithredol mewn busnes a rheolaeth.
- Daw ein tîm o bob rhan o'r byd gan ddod â dyfnder gwybodaeth gyda nhw am fusnesau ar lwyfan byd-eang, mae gan rai arbenigedd mewn rheolaeth strategol, cyfathrebu corfforaethol a rheoli adnoddau dynol.
- Rydym yn hybu cyflogadwyedd gyda chyfleoedd ar gyfer interniaethau, lleoliadau, teithiau maes a chymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge (UBC) Worldwide.
- Gallwch ddysgu iaith ochr yn ochr â'ch gradd heb unrhyw gost ychwanegol - rydym yn cynnig dosbarthiadau nos rhad ac am ddim mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Tsieinëeg (Mandarin).
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.

Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.