Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Technoleg Ariannol (Fintech) yn sector sy’n tyfu’n gyflym, gyda nifer cynyddol o fusnesau’n mabwysiadu technolegau i wella a/neu awtomeiddio gwasanaethau ariannol. Rydym yn gweld datblygiad technolegau ariannol yn ddyddiol o ddefnyddio'ch ffôn fel mecanwaith talu i apiau sy'n caniatáu trafodion amser real. Mae galw cynyddol am raddedigion â sgiliau Fintech wrth i fusnesau ganolbwyntio mwyfwy ar y defnyddiwr a mabwysiadu datblygiadau technolegol pellach.
Mae Fintech yn parhau i darfu ar brosesau busnes traddodiadol ac mae cwmnïau'n chwilio am ffyrdd o addasu i'r newidiadau hyn. Mae astudio Bancio gyda Thechnoleg Ariannol yn eich galluogi i edrych ar yr effaith y mae system ariannol fyd-eang yn ei chael ar unigolion, sefydliadau, marchnadoedd, yr economi ehangach a'r amgylchedd.
Mae busnesau yn chwilio fwyfwy am raddedigion sydd â sgiliau dadansoddi i'w helpu i wneud penderfyniadau gwybodus. Trwy astudio Bancio gyda Thechnoleg Ariannol ym Mhrifysgol Bangor byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o'r amgylchedd busnes o fewn cyd-destun byd go iawn. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau dadansoddi, ystadegol a chodio cryf sy'n golygu y byddwch yn graddio gyda chymhwyster sy'n berthnasol i'ch gyrfa. Byddwch yn dysgu sut mae sefydliadau ariannol yn gweithio'n ymarferol, yn ogystal â'r economeg sy'n sail iddynt.
Bydd y cwrs hwn mewn Bancio a Thechnoleg Ariannol yn eich helpu i ddeall sut mae marchnadoedd ariannol yn gweithio, sut mae cwmnïau gwasanaethau ariannol yn cael eu rheoli, a rôl technoleg ariannol wrth chwyldroi sut mae cwmnïau ariannol yn creu gwerth. Byddwn yn edrych ar y risgiau a'r heriau a gyflwynir gan strwythurau. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth fanwl o fancio a chyllid ac yn meithrin sgiliau technegol a fydd yn eich paratoi am yrfa yn y sectorau ariannol a/neu dechnoleg.
Pam dewis astudio BSc Bancio gyda Thechnoleg Ariannol ym Mhrifysgol Bangor
- Rydym ni wedi cynllunio'r cwrs newydd hwn i ddiwallu anghenion y farchnad swyddi heddiw. Byddwch yn meithrin sgiliau ymarferol a pherthnasol sy'n gwneud graddedigion yn hynod gyflogadwy.
- Gall Prifysgol Bangor gynnig arlwy arbennig oherwydd ein cryfderau presennol mewn bancio a chyllid.
- Fel un o’r darparwyr dysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd, mae gennym enw da aruthrol yn y maes gydag ymchwil academaidd flaenllaw.
- Fel Ysgol Fusnes lai, rydym yn gallu cynnig mwy o fynediad ac amser i fyfyrwyr gyda staff academaidd na sefydliadau eraill.
- Mae ein labordy masnachu newydd yn rhoi’r cyfle i fyfyrwyr ddysgu mwy am y sector ariannol drwy efelychu marchnadoedd stoc yma ym Mhrifysgol Bangor.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau arbenigol yn ymwneud â darparu a dadansoddi gwybodaeth at amrywiaeth o ddibenion gwneud penderfyniadau, atebolrwydd, rheolaethol, moesegol, rheoleiddiol a dyrannu adnoddau. Rhoddir pwyslais ar ddadansoddi a dehongli data. Byddwn yn edrych ar 'Ddata Mawr' a materion amlwg mewn diogelwch data, rheoli data a moeseg.
Byddwn yn edrych ar fanciau a'r farchnad arian yn ogystal â chyllid personol a bancio. Ymchwilio i sut mae banciau yn effeithio ar yr economi yn gyffredinol ac archwilio rôl cyfraddau llog a gweithrediadau marchnadoedd bondiau, marchnadoedd stoc a marchnadoedd cyfnewid tramor. Mae cyfle i ddysgu am chwyddiant, y sail resymegol dros reoleiddio banciau ac egwyddorion rheoli banciau. Canolbwyntir ar ddamcaniaeth bancio a sut i fesur, rheoli ac uchafu gwerth y banc a'i risgiau.
Gan adlewyrchu heriau'r byd go iawn, byddwch yn dysgu sut i ysgrifennu cod cyfrifiadurol i ddatrys problemau mewn busnes. Byddwch yn edrych ar sut i ymholi setiau data ac yn edrych ar algorithmau a modelau i ddod i gasgliadau. Gan ddefnyddio data marchnad efelychiedig a gwirioneddol byddwch yn cael profiad ymarferol o fuddsoddi yn y farchnad stoc trwy ein gweithdai efelychu.
Bydd cyfle i ymgymryd â phroject ymgynghorol a rhoddir ffocws arbennig i ddatblygu sgiliau a chyflogadwyedd. Nod y cwrs hwn yw adeiladu ymwybyddiaeth gadarn gan ddarparu profiadau ymarferol i helpu i symud ymlaen i gyflogaeth.
Sut byddwch yn dysgu?
Cewch eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Bydd cymysgedd o asesu parhaus ac arholiadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr gasglu a dadansoddi gwybodaeth o gronfeydd data masnachol a/neu ffynonellau ar-lein, paratoi projectau ymchwil, ysgrifennu traethodau, a chwblhau ymarferion datrys problemau sy'n cynnwys y defnydd o godio.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ym Mlwyddyn 1, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Dadansoddeg Busnes, Codio Dadansoddeg Busnes, Rhaglenni Cronfeydd Data mewn Busnes a Chyllid, Darganfod Economeg, Technegau Ariannol a Dadansoddi a Chyllid Personol a Bancio.
Ym Mlwyddyn 2, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Dadansoddeg Busnes, Banciau a Marchnadoedd Ariannol, Bancio Canolog a Pholisi Ariannol, Gwyddor Data, Econometreg, Isadeiledd ar gyfer Dadansoddeg Data a Buddsoddi a Rheoli Portffolio.
Ym Mlwyddyn 3, bydd myfyrwyr yn cymryd credydau o bynciau fel, Econometreg Uwch, Dysgu Peirianyddol Cymhwysol, Rheoli Banciau, Project Ymgynghoriaeth, FinTech mewn bancio, cyllid, buddsoddi, yswiriant a rheoleiddio, a Bancio Rhyngwladol.
Sylwch mai syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Cyfleusterau
Cronfeydd Data
Yma yn Ysgol Busnes Bangor, mae gennym fynediad i rai o'r cronfeydd data gorau gan gynnwys Bloomberg. Mae caniatáu i fyfyrwyr ddefnyddio'r cronfeydd data hyn fel rhan o'u cwrs nid yn unig yn gwella eu profiad dysgu ond hefyd yn eu paratoi'n well ar gyfer gyrfa yn y diwydiant.
Bloomberg Professional
Cgronfa ddata ariannol fyd-eang yw Bloomberg Professional sy'n darparu data cyfredol a hanesyddol ynglŷn ag ecwitïau unigol, mynegeion y farchnad stoc, gwarantau incwm sefydlog, arian cyfred, nwyddau, a dyfodol ledled y marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl am fwy na 5 miliwn o fondiau, ecwitïau, nwyddau, arian cyfred a chronfeydd ariannol. Gall defnyddwyr gyrchu a lawrlwytho data yn hawdd gan ddefnyddio ategyn Excel neu API. Mae cyfyngiadau dyddiol a misol ar nifer yr arsylwadau y cewch eu llwytho i lawr.
Boardex
Cronfa ddata llywodraethu corfforaethol ryngwladol gynhwysfawr yw BoardEx sy'n cynnig cyfleusterau chwilio a dadansoddi ar-lein sy'n canolbwyntio ar ddeinameg byrddau cwmnïau. Mae'n darparu gwybodaeth fywgraffyddol gyfredol a hanesyddol fanwl am aelodau bwrdd ac uwch swyddogion gweithredol, gan gwmpasu dros 15,000 o gwmnïau a ddyfynnwyd yn fyd-eang. Mae'n blatfform cynhwysfawr sydd hefyd yn rhoi cipolwg ar bwyllgorau bwrdd, iawndal, manylion cwmni, nodweddion rhwydweithio ynglŷn â chwmnïau, cyfarwyddwyr a chyhoeddiadau am swyddi.
S&P Capital IQ Pro
Mae S&P Capital IQ Pro (S&P Global Market Intelligence a SNL Financial gynt) yn cynnig data am fanciau a chwmnïau cynhwysfawr sy'n rhychwantu America, Asia-Môr Tawel, Ewrop, y Dwyrain Canol, ac Affrica. O 2023 ymlaen, ehangodd S&P Capital IQ Pro ei ystod i gynnwys hanfodion cwmnïau, statws credyd, dewisiadau dyledion, ac ymchwil marchnad. Mae'n blatfform sy’n cynnig gwybodaeth eang i gwmnïau di-ri’ megis S&P Capital IQ yn ogystal â mentrau bach a chanolig (BBaCh). Gyda S&P Capital IQ Pro, gall defnyddwyr gyrchu data a newyddion ariannol cyfredol a hanesyddol ynglŷn â mwy na 50,000 o fanciau’n fyd-eang. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
S&P Capital IQ
Platfform cynhwysfawr yw S&P Capital IQ sy'n darparu gwybodaeth ddofn am gwmnïau byd-eang, statws credyd, ac ymchwil marchnad gydag offer cadarn i asesu risg. Mae’ndarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gwmnïau, marchnadoedd, trafodion, a gweithwyr proffesiynol ledled y byd. Yn benodol, mae Capital IQ yn darparu: Data am gwmnïau byd-eang, gan gynnwys cyllid sylfaenol, incwm sefydlog, amcangyfrifon a manylion perchnogaeth. Data ansoddol sy'n amlygu’r datblygiadau allweddol, trafodion, proffiliau, cymdeithasau unigol, ecwiti preifat; a sbectrwm cynhwysfawr o ddata macro-economaidd a nwyddau. Mae'r synergedd hwnnw o wybodaeth yn ei gwneud yn arf anhepgor i weithwyr proffesiynol y diwydiant. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
S&P RatingsDirect
Statws credyd cyfredol a hanesyddol gan gynnwys cyllid cyhoeddus o 2007 a chyhoeddwyr byd-eang a chyllid strwythuredig o 1922.
Eikon Refinitiv (gan gynnwys Datastream)
Platfform cynhwysfawr, sy'n rhan o Thomson Reuters, yw Refinitiv Workspace, ar gyfer gwybodaeth ariannol ac economaidd. Mae'n darparu dyfynbrisiau o’r farchnad, amcangyfrifon enillion, hanfodion ariannol, datganiadau i'r wasg, data trafodion, ffeilio corfforaethol, proffiliau perchnogaeth, ac ymchwil manwl. Mae Eikon/Datastream yn cynnig data cyfoethog am gwmnïau rhyngwladol, yn ôl i'r 1960au. Mae nodweddion a data gan Thomson Reuters, a gyrchwyd yn flaenorol trwy Thomson One - fel cydsoddi a chaffael, data am fenthyciadau, manylion perchnogaeth, ac ecwiti preifat - i'w gweld yn Refinitiv Workspace. Cewch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
Orbis Bank Focus
Mae Orbis Bank Focus, a ddarperir gan Bureau van Dijk, yn gronfa ddata gynhwysfawr o fanciau byd-eang. Cesglir ei ddata o gymysgedd o adroddiadau blynyddol, darparwyr gwybodaeth amrywiol, a ffynonellau rheoleiddio awdurdodol. Ar hyn o bryd, mae gan Orbis Bank Focus ddata manwl ynglŷn â mwy na 38,000 o fanciau - sy'n cwmpasu tua 30,000 o UDA a dros 10,000 o'r tu allan i UDA. I’r banciau a restrir, darperir cofnod hanesyddol sy'n rhychwantu 5 mlynedd, ac mae gan banciau sydd heb eu rhestru ddata sy'n cwmpasu'r 3 blynedd diwethaf.
Orbis Europe
Mae Orbis Europe, is-set o 'Orbis' byd-eang Bureau van Dijk, yn blatfform cynhwysfawr pwrpasol i ddadansoddi a chymharu cwmnïau a ddyfynnwyd a chwmnïau preifat ledled Ewrop. Mae’n cwmpasu data o 56 o wledydd Ewrop. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am fanciau cyhoeddus a phreifat, yswiriant, a chwmnïau diwydiannol. Caiff dros 105 miliwn o gwmnïau eu catalogio a’u diweddaru’n wythnosol. Mae’n cynnig strwythurau perchnogaeth gorfforaethol eang a nodweddion tebyg. Caiff y defnyddwyr ymchwilio, dadansoddi a llunio rhestrau o gwmnïau'n strategol trwy amrywiaeth o feini prawf chwilio, gan gynnwys eitemau llinell o ffeiliau ariannol.
Business Source Premier
Manylion testun llawn am bron i 7,600 o gyhoeddiadau busnes, gan gynnwys darllediadau testun llawn o dros 1,100 o gyfnodolion ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid. Gwybodaeth yn dyddio yn ôl i 1922 mewn rhai achosion.
Emerald Insight
Mae Emerald Insight yn cynnig crynodebau ac erthyglau testun llawn o gyfnodolion academaidd sy'n cwmpasu meysydd pwnc marchnata, rheolaeth, adnoddau dynol, cerddoriaeth fasnachol, ansawdd, economeg, rheoli gwybodaeth, gweithrediadau, peirianneg, cynhyrchu ac eiddo, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Financial Times
Newyddion, dadansoddiadau a sylwadau o rifyn ar-lein prif gyhoeddiad busnes y byd.
Gale-Business Insights
Offer rhyngweithiol a dadansoddiad manwl o hanes, perfformiad a chyfleoedd miloedd o gwmnïau a diwydiannau. Daw myfyrwyr o hyd i wybodaeth y gallant ymddiried ynddi o’r ffynonellau gorau gan gynnwys ymchwil i'r farchnad, astudiaethau achos, dadansoddiadau SWOT, adroddiadau buddsoddiadau ac arian, yn ogystal ag erthyglau o brif gylchgronau a chyfnodolion y diwydiant.
IBIS World
Cronfa ddata o ymchwil marchnad-diwydiant cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob diwydiant yn UDA gyda chod NAICS 5 digid. Mae IBISWorld hefyd yn cynnig ymchwil fanwl debyg ynglŷn â diwydiannau dethol yn Tsieina a ledled y byd.
Mintel Oxygen
Ymchwil i’r farchnad yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig dadansoddiad o ystod eang o gynhyrchion (bwyd, diod, cynnyrch i’r cartref, iechyd, electroneg), tueddiadau hamdden, gwasanaethau ariannol a manwerthu.
Lexis
Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys cyfraith achos testun llawn a deddfwriaeth ar gyfer awdurdodaethau’r Deyrnas Unedig, UDA (Ffederal a Gwladwriaethol), UE ac awdurdodaethau eraill. Mae hefyd yn rhoi mynediad i nifer fawr o gyfnodolion cyfreithiol testun llawn, a phapurau newydd lleol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig. Gan gynnwys Halsburys Laws of England.
Senedd y Deyrnas Unedig Briffiau Ymchwil
Mae'r gronfa ddata’n cynhyrchu adroddiadau manwl a diduedd yn barhaus a gaiff eu cyhoeddi fel papurau briffio ar wefan y Senedd.
Westlaw
Mae’n cynnwys y Legal Journals Index, mynegeion y Gyfraith Gyfredol, pob gweithred sydd mewn grym o 1267 ymlaen ac offerynnau statudol o 1949 ymlaen, ynghyd ag achosion y Deyrnas Unedig a nifer cynyddol o gyfnodolion a llyfrau testun llawn. Mae rhan Americanaidd y gronfa ddata’n cynnwys llawer o gyfnodolion testun llawn.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ar ôl graddio, mae myfyrwyr yn cael y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen am yrfa lwyddiannus mewn diwydiant neu’r byd academaidd. Mae FinTech yn sector sy'n tyfu'n barhaus ac mae galw mawr am raddedigion â sgiliau yn y maes hwn. Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarparu myfyrwyr gyda chymhwyster sy'n berthnasol i yrfa a bydd yn paratoi myfyrwyr â gwerthoedd proffesiynol a'r gallu i weithio mewn tîm yn ogystal â hunan-arweiniad.
Sgiliau y byddwch yn eu dysgu ar y cwrs hwn:
- gwybodaeth ariannol
- datrys problemau
- dadansoddi
- gwaith tîm
- codio.
Mae myfyrwyr fel rheol yn mynd ymlaen i yrfaoedd yn y sector ariannol, ond mae'r cwrs hwn yn darparu ystod well o sgiliau trosglwyddadwy, deallusol ac astudio a all arwain at yrfaoedd eraill mewn diwydiant. Mae rhai gyrfaoedd sy'n gysylltiedig â gradd mewn technoleg ariannol yn cynnwys, arbenigwr data, dadansoddwr ariannol neu fusnes, datblygwr ‘blockchain’, datblygwr apiau, arbenigwr seiberddiogelwch, peiriannydd/dadansoddwr dysgu peirianyddol ac arbenigwr risg a chydymffurfiaeth.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.