Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein cwrs Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd gyda blwyddyn sylfaen gyfun sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Mae'r Flwyddyn Sylfaen (blwyddyn 0) yn rhoi cyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn 1 y radd israddedig.
Mae gwasanaethau ariannol a bancio yn sector cystadleuol iawn sy’n newid yn gyflym ym mhob economi fodern. Bydd y cwrs hwn yn eich paratoi’n drylwyr i fynd i’r afael â’r maes. Yn y blynyddoedd diwethaf, mae elfennau megis globaleiddio, newidiadau technolegol, dadreoleiddio ac integreiddio rhyngwladol wedi gweddnewid y sector gwasanaethau bancio a chyllido yn llwyr. Mae banciau wedi ymateb i bwysau cystadleuol cynyddol trwy arallgyfeirio i wneud gweithgareddau newydd. Mae cwmnïau yswiriant a chronfeydd pensiwn hefyd wedi tyfu'n gyflym ac mae sefydliadau ar wahân i fanciau, er enghraifft archfarchnadoedd a chwmnïau telathrebu, bellach yn cystadlu’n uniongyrchol mewn marchnadoedd gwasanaethau ariannol.
Mae gradd mewn Bancio a Chyllid yn rhoi cyfle i chi astudio agweddau damcaniaethol ac ymarferol gwasanaethau ariannol a marchnadoedd ariannol, a dadansoddi swyddogaeth ehangach y sector ariannol o ran economïau cenedlaethol a byd-eang.
Mae Bangor bellach yn ganolfan arholi ar gyfer y Sefydliad Siartredig Gwarantau a Buddsoddi, sef un o gyrff proffesiynol mwyaf y byd ar gyfer y sector ariannol. Gall ein myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau BSc Cyfrifeg a Chyllid, Bancio a Chyllid neu Economeg Ariannol astudio’r cymhwyster Cyflwyniad i Fuddsoddi L3 ym Mangor ac ennill Aelodaeth Myfyrwyr o’r CISI. [Gall myfyrwyr Rhyngwladol Cymwys astudio ar gyfer y Cyflwyniad Rhyngwladol i Fuddsoddi, sy'n canolbwyntio ar farchnadoedd ariannol byd-eang.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae gennym arbenigwyr byd-enwog ym maes Bancio yn addysgu ar y cwrs hwn.
- Mae ein staff yn ymchwilwyr cynhyrchiol yn eu meysydd pwnc, ac mae gennym enw da yn rhyngwladol.
- Yn ystod y cwrs byddwch yn astudio mewn Ysgol amlddisgyblaethol lle mae arbenigwyr yn gweithio mewn ystod eang o bynciau busnes, gan gynnwys cyfrifeg, bancio, cyllid, economeg, rheolaeth, marchnata ac entrepreneuriaeth.
- Mae'r holl fyfyrwyr anrhydedd sengl sy'n gwneud graddau yn Ysgol Busnes Bangor, gan gynnwys y cwrs hwn, yn dilyn yr un modiwlau yn y flwyddyn gyntaf, sy'n golygu y gallwch newid i radd arall yn yr Ysgol Busnes unrhyw bryd hyd at ddechrau'r ail flwyddyn.
- Mae ein myfyrwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol, megis Her Fusnes IBM.
- Cynhelir Ffair Yrfaoedd a Chyflogadwyedd bob blwyddyn sy’n rhoi cyfle i fyfyrwyr gwrdd â recriwtwyr a dysgu mwy am bosibiliadau gwaith ar ôl graddio.
- Rydym yn trefnu rhaglen amrywiol o ddarlithwyr gwadd. Mae siaradwyr diweddar wedi cynnwys Prif Weithredwr Uwch Gynghrair yr Alban, Prif Swyddog Gweithredol Rhif 10 ac 11 Downing Street, a Phennaeth Diogelwch Technoleg Gwybodaeth yn HSBC.
- Mae gennym gyfleusterau cyfrifiadurol ardderchog ac fe gewch gyfle i ddatblygu eich sgiliau dadansoddi data a pharatoi adroddiadau.
- Mae Bangor yn cynnig amrywiaeth atyniadol o raddau ôl-radd mewn busnes a chyllid.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn treulio hyd at 15 awr yr wythnos mewn darlithoedd, seminarau a thiwtorialau. Ceir cymysgedd o asesu parhaus ac arholiadau ysgrifenedig. Byddwch yn cwblhau aseiniadau megis casglu a dadansoddi gwybodaeth o gronfeydd data masnachol neu oddi ar y rhyngrwyd, paratoi astudiaethau achos busnes, ysgrifennu traethodau a chwblhau ymarferion datrys problemau.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Bancio a Chyllid (gyda Blwyddyn Sylfaen) BSc (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (yn cynnwys Lefel AS ac Astudiaethau Cyffredinol)
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol
- Cymwysterau Project Estynedig
- Diploma Cenedlaethol/Estynedig BTEC
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt
- Diploma Technegol Uwch City & Guilds
- Bagloriaeth Cymru
- Lefelau T: ystyrir yn unigol
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Ymgeiswyr Rhyngwladol Ar hyn o bryd ni allwn dderbyn ceisiadau gan fyfyrwyr rhyngwladol ar gyfer y cwrs hwn.
Os ydych chi'n fyfyriwr rhyngwladol, rydym yn argymell eich bod yn astudio’r radd hon drwy ein Coleg Rhyngwladol. Mae llwyddo i gwblhau Blwyddyn 0 y rhaglen Ryngwladol gyfwerth yn gwarantu mynediad i Flwyddyn 1 o'r un rhaglen radd drwy Brifysgol Bangor. Trwy'r llwybr hwn, cyflwynir Blwyddyn 0 yng Ngholeg Rhyngwladol Prifysgol Bangor (BUIC) a leolir yng nghanol Campws ein Prifysgol ac sy'n cael ei redeg gan ein partner, Grŵp Addysg Rhyngwladol Rhydychen.
I wybod mwy ewch i'r dudalen yma.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae llawer o raddedigion Ysgol Busnes Bangor yn dilyn gyrfaoedd mewn meysydd megis cyfrifeg, bancio, buddsoddi, yswiriant, rheoli risg, marchnata, rheoli adnoddau dynol a rheoli adwerthu.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.