Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Wrth i'r byd ailagor ei ddrysau ar ôl y pandemig, mae'n naturiol meddwl tybed: A yw Rheoli Twristiaeth yn radd dda ar gyfer swyddi yn y dyfodol?
Y ffaith yw bod twristiaeth yn parhau i fod yn un o’r diwydiannau mwyaf yn y byd gyda gwerth byd-eang o US$1 triliwn y flwyddyn, gan fod yn gyfrifol am chwech i saith y cant o’r holl gyflogaeth. Gyda newidiadau i dechnoleg, cyrchfannau ac agweddau defnyddwyr, ni fu erioed amser mwy cyffrous i astudio BSc Rheoli Twristiaeth.
Gan gyfuno theori, ymarfer gorau, mewnwelediad diwydiant, y cyfle am leoliadau tymor byr a hir ac ymweliadau â busnesau twristiaeth, mae ein gradd Rheoli Twristiaeth yn darparu sylfaen gadarn mewn rheolaeth, marchnata ac economeg twristiaeth. Mae'n meithrin y creadigrwydd, y gallu i addasu, a'r hyblygrwydd i lwyddo mewn teithio a thwristiaeth heddiw.
Mae rheoli twristiaeth fodern yn gofyn am unigolion a all ymateb i anghenion a sensitifrwydd newidiol yr holl randdeiliaid: defnyddwyr, gweithredwyr, llywodraethau a chyflenwyr, yn ogystal â'r cymunedau y mae atyniadau a chyrchfannau gwyliau a hyrwyddir yn effeithio arnynt.
Gyda ffocws ar dwristiaeth gynaliadwy a marchnata cyrchfannau, mae ein BSc mewn Rheoli Twristiaeth nid yn unig yn ystyried sut i wneud cyrchfannau amrywiol yn ddeniadol, ond hefyd y materion a all godi - o barchu sensitifrwydd diwylliannol lleol a lleihau effaith amgylcheddol, i ddadleoli a thwristiaeth ail gartrefi.
Ble gwell i astudio, archwilio ac asesu effaith economaidd, amgylcheddol, diwylliannol a chymdeithasol twristiaeth heddiw nag mewn lleoliad sy'n denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn. Yn eistedd rhwng y mynyddoedd a’r môr, mae Bangor yn ddinas gadeiriol hanesyddol, gyda Pharc Cenedlaethol Eryri ac arfordir Ynys Môn gerllaw.
Mae etifeddiaeth rheoli twristiaeth Prifysgol Bangor yn dyddio’n ôl dros chwe degawd, pan ddatblygodd un o’n hacademyddion gwreiddiol y cysyniad o effaith economaidd gadarnhaol twristiaeth am y tro cyntaf.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Astudiwch eich BSc mewn Rheoli Twristiaeth mewn astudiaeth achos cyrchfan 'fyw' – man poblogaidd i dwristiaid yn ngogledd Cymru gyda mannau bendigedig i ymweld â nhw, fel Llanberis, Biwmares, Llandudno a Chaernarfon, ar garreg eich drws.
- Yn ymarferol o ran ffocws, cynlluniwyd y cwrs hwn gyda mewnbwn gan dwristiaeth leol, gan gynnwys y Sw Fynydd Gymreig, Halen Môn a Pharc Cenedlaethol Eryri.
- Mae ein cysylltiadau cryf â diwydiant yn darparu cyfleoedd i hybu eich cyflogadwyedd trwy leoliadau, darlithoedd gwadd, teithiau maes a phrojectau, gweithio ar friffiau byw sy'n datrys heriau twristiaeth y byd go iawn.
- Byddwch yn cael eich addysgu gan staff sydd ag arbenigedd mewn ymddygiad defnyddwyr mewn twristiaeth, twristiaeth gynaliadwy a lles, trethiant twristiaeth, brandio diwylliannol a daearyddol.
- Gallwch ddysgu iaith ochr yn ochr â'ch gradd heb unrhyw gost ychwanegol - rydym yn cynnig dosbarthiadau nos rhad ac am ddim mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Sbaeneg a Tsieinëeg (Mandarin).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Mae'r radd BSc Rheolaeth Twristiaeth hon wedi cael ei gydnabod gan y Tourism Management Institute (TMI).
Cynnwys y Cwrs
Wrth lywio heriau newydd a pharhaus, megis cynaliadwyedd, diogelwch, ac isadeiledd, rhaid i'r diwydiant twristiaeth fanteisio ar gyfleoedd a grëwyd gan ddata mawr, personoli, systemau adnabod, rhith-realiti a realiti estynedig, a mwy.
Ar y cwrs BSc hwn mewn Rheoli Twristiaeth, byddwch yn meithrin dealltwriaeth fanwl o’r system dwristiaeth a sut i wneud y gorau o’r gadwyn werth, gan roi pwyslais arbennig ar ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth gynaliadwy, o safbwynt economaidd, cymdeithasol-ddiwylliannol ac amgylcheddol.
Byddwch yn gwerthuso polisïau twristiaeth o safbwyntiau rheoli twristiaeth diwydiant lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, gan gynnal dadansoddiadau cymharol rhwng gwahanol wledydd a rhanbarthau, gan fanteisio'n llawn ar y gwersi a ddysgwyd o'n lleoliad dwyieithog ein hunain
Wrth i’r diwydiant barhau i ailfeddwl am ei ddyfodol, byddwch yn ymdrin â’r datblygiadau a’r materion diweddaraf, gan gynnwys digideiddio, twristiaeth pecyn, darnio, twristiaeth gynaliadwy a llesiant, a’r anfanteision a ddaw yn sgil manteision twristiaeth: sef, yr effeithiau cadarnhaol a negyddol ar gymunedau lleol y mae twristiaid yn ymweld â nhw.
Trwy astudiaethau achos ymarfer gorau, darlithoedd gwadd ac ymweliadau â safleoedd llu o fusnesau twristiaeth, y bydd rhai ohonynt yn pennu briffiau project 'byw' i chi, byddwch yn dysgu sut i asesu'n feirniadol yr opsiynau twristiaeth sydd ar gael. Mae hyn yn cynnwys nodi ffactorau risg, er enghraifft, o drychinebau naturiol neu ddigwyddiadau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol, megis rhyfel a therfysgaeth.
Byddwch hefyd yn datblygu mwy o werthfawrogiad o’r rôl y mae pob aelod o’r gadwyn gyflenwi yn ei chwarae wrth greu profiad di-dor, cynaliadwy, hyfyw yn economaidd, pleserus a chofiadwy – o weithredwyr a rheoleiddwyr twristiaeth, i gludiant, lletyau a lletygarwch lleol.
Cyfleusterau
Mae Ysgol Busnes Bangor yn ysgol busnes flaenllaw sy'n rhoi lle canolog i addysgu ac ymchwil, gan gynnig amrywiaeth llawn o ddisgyblaethau o lefel israddedig i lefel doethuriaeth. Mae gan ein staff gysylltiadau cryf a hygrededd gyda chyrff proffesiynol, banciau, rheoleiddwyr, a sefydliadau ariannol, ac mae llawer wedi gweithio'n broffesiynol yn y diwydiant cyfrifeg.
Mae llawer o'n cyrsiau wedi'u hachredu gan gyrff proffesiynol gan gynnwys: Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig (ACCA); y Sefydliad Yswiriant Siartredig (CII); y Sefydliad Marchnata Siartredig (CIM); y Sefydliad Rheolaeth Siartredig (CMI); a’r Sefydliad Rheoli ac Asesu’r Amgylchedd (IEMA). Mae hyn nid yn unig yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cymhwyster proffesiynol yn y dyfodol, ond gall hefyd eich eithrio rhag rhai arholiadau proffesiynol a/neu eich galluogi i roi eich statws ardystiedig ar lwybr carlam.
Rydym yn falch o fod yn aelod o'r Association to Advance Collegiate Schools of Business (AACSB International) ac wedi dal Gwobr Efydd Athena SWAN ers 2019, gan ddangos ein hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant.
Cyfleusterau a Chefnogaeth Busnes, Rheolaeth a Marchnata
Gan bontio theori ac ymarfer, mae ein cyrsiau busnes, rheolaeth a marchnata wedi'u cynllunio i roi cipolwg ar y tueddiadau a'r heriau sy'n effeithio ar fyd busnes. Gan fwydo eu canfyddiadau diweddaraf i'ch dysgu, mae ein staff yn ymchwilwyr gweithgar gyda chryfderau arbennig mewn arweinyddiaeth a rheoli gwybodaeth; brandio lleoliadau a chyrchfannau; rheolaeth strategol, entrepreneuriaeth ac arloesi; strategaethau twf a datblygiad mewn busnes; ymddygiad defnyddwyr; ymlyniad at leoedd, marchnata cyfryngau cymdeithasol a marchnata mewn mentrau bach a chanolig.
Rydym yn credu’n gryf ym mhwysigrwydd ennill profiad ymarferol sy’n ymwneud â busnes, gan gynnig digon o gyfleoedd i weithio ar brojectau byd go iawn a chael profiad gwaith trwy leoliadau ac interniaethau.
Mae Ysgol Busnes Bangor yn mabwysiadu Egwyddorion Addysg Rheolaeth Gyfrifol (PRME) ac mae wedi ymrwymo i Gompact Byd-eang y Cenhedloedd Unedig a Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn graddio gyda gwerthfawrogiad a gwybodaeth am ymarferion cynaliadwy, y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr. I adeiladu eich rhwydwaith eich hun, codi eich proffil a datblygu sgiliau newydd, byddwch hefyd yn cael eich annog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol, megis ‘The Pitch’ ac ‘Universities Business Challenge Worldwide’.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96- 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
TGAU: Mathemateg gradd C/4 yn ofynnol, os na chaiff ei ddangos gan y cymhwyster/cymwysterau Lefel 3.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104-136 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDD
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDD
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Yn 2021, roedd 289 miliwn o swyddi yn y sector teithio a thwristiaeth ledled y byd. Yma yn y Deyrnas Unedig yn unig, mae’n parhau i fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf gyda miliynau yn gweithio mewn cwmnïau teithio, cludiant, llety, lletygarwch, hamdden a mwy.
Mae’n yrfa sy’n gallu mynd â chi i bedwar ban byd, sy’n rheswm da i ddysgu ail iaith am ddim yn ystod eich amser yma ym Mangor. Gallwch chi hefyd astudio neu weithio dramor yn ystod eich amser yma.
Ar ôl cwblhau'r BSc mewn Rheoli Twristiaeth yn llwyddiannus, byddwch wedi ennill y wybodaeth a'r sgiliau i fynd â'r diwydiant twristiaeth ymlaen ac i'r dyfodol, gan ganolbwyntio'n benodol ar ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau twristiaeth gynaliadwy.
Gallech fynd ymlaen i ddilyn amrywiaeth eang o swyddi, o reoli cyrchfannau a theithiau i ganolfannau croeso a gwybodaeth i dwristiaid, cludiant teithwyr, ymgynghori neu ar ran y gweithredwyr eu hunain – cwmnïau mordeithiau, cwmnïau hedfan, cadwyni gwestai, sefydliadau treftadaeth a diwylliannol, lleoliadau cerddoriaeth, canolfannau cynadleddau neu barciau thema, i enwi dim ond rhai.
Mae rheoli twristiaeth yn gwrs da ar gyfer y sgiliau trosglwyddadwy rydych chi'n eu datblygu - rhyngbersonol, sensitifrwydd rhyngddiwylliannol, cyfathrebu, meddwl yn feirniadol a datrys problemau, rheoli amser a rheoli projectau - y mae galw mawr amdanynt gan gyflogwyr. Mae hyn yn caniatáu ichi ddilyn llwybrau gyrfa mwy cyffredinol os yw'n well gennych, unrhyw beth o fusnes a marchnata i reoli adnoddau dynol.
Gall swyddi nodweddiadol gynnwys:
- Rheolwr / marchnatwr cyrchfan
- Rheolwr cymdeithasau twristiaeth
- Rheolwr / marchnatwr atyniadau twristiaeth
- Cynllunydd twristiaeth
- Marchnata cadwyni a chonsortia gwestai
- Marchnata canolfannau confensiynau
- Ymgynghorydd ar gyfer ystod eang o gwmnïau twristiaeth
- Entrepreneur cwmnïau/atyniadau twristiaeth
- Cynrychiolydd gwyliau
- Tywysydd teithio
- Trefnwr teithiau
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Rheoli Busnes (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.