Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae’r cwrs hwn yn cyfuno ffilm a drama ac mae’n rhoi pwyslais cryf ar ymarfer. Byddwch yn astudio hanes, iaith a theori ffilmiau a’r broses o gynhyrchu ffilm, ac yn datblygu sgiliau a thechnegau allweddol ar gyfer cynhyrchu a beirniadu deunydd clyweledol. Bydd astudio Drama yn cynnwys ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, actio, gwneud cynyrchiadau, cyfarwyddo, dyfeisio ac astudio busnes y celfyddydau. Bydd y cwrs hwn yn rhoi sylfaen gadarn i chi mewn sgiliau damcaniaethol, technegol ac ymarferol gan eich gwneud yn weithiwr proffesiynol deniadol.
Bydd astudio Ffilm a Drama ym Mangor yn rhoi cyfle i chi gyfuno gwahanol agweddau damcaniaethol y ddisgyblaeth gyda chyfleoedd i greu cynyrchiadau a darnau perfformio gwreiddiol fel unigolyn ac fel aelod o grŵp neu ensemble. Bydd ein harbenigwyr profiadol yn eich annog i fynegi eich hun i'r eithaf yn ogystal â rhoi sylfaen gadarn i chi yn agweddau ymarferol a damcaniaethol y ddisgyblaeth.
Mae gan y darlithwyr sy’n addysgu ar y radd Ffilm a Drama ddiddordebau amrywiol gan gynnwys ymarfer theatr gyfoes, cyfarwyddo, actio a pherfformio, datblygu cynyrchiadau byw, celfyddydau mewn iechyd a lles, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, Sinema America, ffilmiau Prydain ac Ewrop, rhywedd, y corff a ffilm, ffilm a hanes, technoleg ddigidol a ffilm, ysgrifennu ar gyfer y sgrin, gwneud ffilmiau, y cyfryngau a ffilm yng Nghymru, iaith a ffilm, blogio a phodledu, gemau cyfrifiadurol a ffilm, sêr ffilm a ffilm ar y teledu. Mae llawer o aelodau staff yn yr ysgol yn weithwyr proffesiynol ac yn ymgynghorwyr yn eu meysydd.
Pam dewis Bangor?
- Cyfleusterau rhagorol, gan gynnwys canolfan sydd â’r holl offer priodol gydag ystafelloedd golygu, yr offer diweddaraf ar gyfer gwneud ffilmiau digidol 4K, a Chanolfan Gelfyddydau ac Arloesi Pontio ar gyfer cynhyrchu theatr.
- Rydym yn arbenigo mewn sawl maes allweddol: ysgrifennu proffesiynol, cyfarwyddo, ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, newyddiaduraeth, y cyfryngau a chyfathrebu digidol, ymarfer creadigol a’r cyfryngau, actio ac astudiaethau ffilm.
- Rhyddid creadigol y cwrs - cyfle i lunio’ch cwrs i adlewyrchu eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cymuned glos â chefnogol - amgylcheddau addysgu cynhwysol a gofal bugeiliol rhagorol.
- Cysylltiadau rhagorol gyda’r diwydiant a’r gymuned.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.