Ynglŷn â’r Cwrs Yma
O dan hyfforddiant rhai o awduron blaenllaw Cymru, mae'r cwrs unigryw hwn yn eich galluogi i gyfuno astudio Cymraeg ag ysgrifennu creadigol. Byddwch yn astudio modiwlau sy'n seiliedig ar ymarfer mewn barddoniaeth, ysgrifennu rhyddiaith, ysgrifennu sgriptiau a drama, a bydd eich sgiliau ieithyddol a chyflogadwyedd yn cael eu gwella ymhellach gan fodiwlau sy'n ymwneud â defnydd proffesiynol o'r Gymraeg. Byddwch yn archwilio cywreinrwydd a grym creadigol y Gymraeg ac yn astudio modiwlau academaidd mwy traddodiadol eu naws, a siwrnai a allai arwain at yrfa fel sgriptiwr, awdur, golygydd, neu lywodraeth leol, darlledu ac addysgu.
Os ydych chi yn eich elfen yn darllen llenyddiaeth Gymraeg ac o ddifri ynglŷn â datblygu eich ysgrifennu eich hun, efallai mai BA Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol yw’r cwrs gradd ar eich cyfer chi! Bydd modiwlau amrywiol – rhai’n canolbwyntio ar feirdd o Aneirin hyd at Catrin Dafydd, nofelwyr o Daniel Owen hyd at Manon Steffan Ros, a dramodwyr o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams - yn cyfoethogi eich profiad llenyddol ac yn bwydo eich creadigrwydd. A than arweiniad darlithwyr sy’n awduron profiadol, bydd cyfle i ddatblygu eich ysgrifennu creadigol chithau o fewn cyfres o fodiwlau arbenigol.
Cewch gyfle o fewn y radd hon nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol?
O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Canolfan ac iddi enw da drwy'r byd am ymarfer creadigol yn Gymraeg ac am astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
- Astudiwch gydag awduron blaenllaw o Gymru y mae eu gwaith wedi'i gyfieithu i nifer o ieithoedd.
- Cynllun gradd unigryw dan arweiniad ysgrifenwyr profiadol a llwyddiannus.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Agwedd arbennig ar y cwrs hwn yw’r cyfle i fynychu gweithdai arbenigol a rhoi cynnig ar ystod o wahanol genres llenyddol – boed stori fer neu lên meicro, sgript deledu neu ddrama lwyfan, penillion haicw neu gerdd ar fesur cywydd - yn ogystal â mwynhau’r her o ddatblygu portffolio o’ch ysgrifennu creadigol eich hun. Cryfder arall yw’r cyfle i dderbyn adborth i’ch gwaith yn ystod tiwtorialau a gynhelir yn rheolaidd yn ystod y semesterau dysgu.
Byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Mae'r asesiad yn gyfuniad o’r gwaith cwrs ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Bydd eich modiwlau bob blwyddyn yn gyfwerth ag 120 credyd.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Mae’r flwyddyn gyntaf yn gyfle i adeiladu ar eich profiadau ac i agor drysau newydd, e.e. trafod yr iaith mewn cyd-destunau sy’n ymwneud â’i hanes a’i chyflwr heddiw, ystyried gwahanol gyweiriau’r iaith lenyddol, dysgu sgiliau beirniadol newydd ac ymateb yn wreiddiol i lenyddiaeth.
Cewch ddewis helaeth o fodiwlau yn eich ail a'ch trydedd flwyddyn, e.e. y nofel o Daniel Owen i Llwyd Owen, y theatr Gymraeg o Saunders Lewis hyd at Aled Jones Williams, barddoniaeth fodern ac awdlau’r eisteddfod, dramâu teledu Meic Povey, Dafydd ap Gwilym, y Mabinogion – neu beth am astudio diwylliant Cymraeg Cymry America a hyd yn oed holi “Beth yw Llenyddiaeth?” Datblygir hyder a hyfedredd ieithyddol mewn modiwl fel Ymarfer Ysgrifennu a bydd gyfle i ennill sgiliau defnyddiol yn Medrau Cyfieithu.
Yn y drydedd flwyddyn cewch lunio traethawd hir ac ymchwilio i bwnc diddorol. Ymhlith y pynciau diweddar y mae unigolion fel Dafydd ap Gwilym, Kate Roberts, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Caryl Lewis, Meic Stevens a Geraint Jarman a meysydd fel ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, iaith Sir Benfro, llenyddiaeth Gymraeg a chaethwasiaeth, llên a cheffylau a phêl-droed mewn llenyddiaeth.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cymraeg gydag Ysgrifennu Creadigol BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: DMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: DMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio’r Gymraeg ym Mangor. Ni fu ychwaith gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, y mae wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd angen mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg, rhai fydd yn gallu defnyddio eu sgiliau iaith mewn ffyrdd hyblyg, rhai fydd yn gallu meddwl yn ddadansoddol drwy gyfrwng yr iaith a’i defnyddio – ar lafar ac yn ysgrifenedig – mewn sefyllfaoedd gwaith amrywiol.
Mae llwyddiant proffesiynol rhyfeddol ein myfyrwyr ym maes gwaith – a’u gyrfaoedd amrywiol – eisoes yn profi pa mor gwbl berthnasol yw’r cwrs hwn i ofynion y Gymru gyfoes. Mae cyfran ohonynt yn cael eu denu i fyd addysg, i fod yn athrawon cynradd ac uwchradd, yn brifathrawon, yn swyddogion addysg ac yn gyfarwyddwyr addysg. Aeth eraill i fyd addysg bellach ac i fod yn ddarlithwyr mewn prifysgolion. Mae dysgu Cymraeg i oedolion hefyd yn faes allweddol. Mae’r byd teledu a’r cyfryngau digidol a phrint – gan gynnwys canolfan y BBC ym Mangor – yn cynnig trawstoriad o swyddi diddorol a denwyd cyn-fyfyrwyr eraill at faes cyhoeddi llyfrau, ysgrifennu creadigol a sgriptio teledu, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata. Mae’r galw yn parhau hefyd am weinyddwyr a swyddogion dwyieithog ar gyfer llywodraeth leol. A heb bresenoldeb graddedigion Cymraeg Bangor byddai’r diwydiant cyfieithu yn un pur wahanol. Ac mae gan raddedigion y cyfnod presennol hefyd bob hawl i anelu’n uchel. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Y Theatr Gymraeg Genedlaethol, Cwmni Da (un o gwmnïau cynhyrchu mwyaf Cymru), Gwasanaeth Cofnodi a Chyfieithu Senedd Cymru a Chyngor Ynys Môn – beth sy’n gyffredin rhyngddynt? Mae graddedigion Cymraeg Bangor wedi cyrraedd brig eu gyrfaoedd proffesiynol ynddynt ac wrth y llyw ym mhob un ohonynt!
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn 'gyda Blwyddyn Sylfaen' ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Cymraeg i Ddechreuwyr.
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.