Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae hanes yn bwnc sy'n ysbrydoli ac mae'n ddeinamig a pherthnasol. Mae’r dewis eang o bynciau a gynigir yn ein gradd yn rhychwantu'r cyfnod Neolithig hyd at y gorffennol mwy diweddar. Gan gwmpasu agweddau ar hanes Cymru, Prydain, Ewrop a'r byd ehangach, byddwch yn adeiladu gwybodaeth mewn themâu gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol. Bydd y sgiliau ymarferol a throsglwyddadwy a geir ac a werthfawrogir gan gyflogwyr, yn eich paratoi ar gyfer llawer o yrfaoedd posibl, e.e. y gwasanaeth sifil, sector treftadaeth, y cyfryngau neu'r gyfraith.
Nod y cwrs hwn yw datblygu eich gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o ystod eang o hanes y ddynoliaeth. Mae'n eich annog i ddadansoddi’r gorffennol, fel y gallwch ddeall a chyfrannu at ddadleuon hanesyddol, a deall sut mae’r gorffennol wedi ei ffurfio yn rhannol o leiaf yn y presennol. Gobaith y cwrs felly yw eich hyfforddi'n ddeallusol fel y gallwch egluro perthnasedd y gorffennol yn y presennol, deall problemau dehongli tystiolaeth ysgrifenedig ac o fathau eraill, a meithrin sgiliau ymchwil, dadansoddi, datrys problemau, llunio dadl a chyfathrebu.
Hanes yw un o'r pynciau mwyaf ysbrydoledig, deinamig a pherthnasol y gellir ei astudio ar lefel gradd, ac felly nid yw'n syndod bod Hanes yn parhau i fod yn un o'r pynciau gradd mwyaf poblogaidd yn y Deyrnas Unedig. Mae’n ymwneud ag ystod sefydledig o agweddau, ond mae bob amser yn ehangu ac yn newid wrth iddo ymateb i themâu neu syniadau newydd a godir gan ddisgyblaethau eraill. Mae hefyd yn bwnc ymarferol iawn, ac yn ystod eich gradd byddwch yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy amrywiol y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae arolygon yn dangos yn gyson bod graddedigion Hanes yn cael gwaith yn gynt na graddedigion mewn llawer o bynciau yr ymddengys eu bod yn fwy 'galwedigaethol'.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Strwythur gradd hyblyg sy'n eich annog i archwilio a datblygu eich diddordebau.
- Mae’r ardal leol yn llawn hanes (gan gynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO) ac yn darparu adnodd ar gyfer gwaith maes a lleoliad gwych i astudio.
- Mae gennym arbenigwyr ym mhob maes hanes o'r Oesoedd Canol i'r ugeinfed ganrif, sy'n gweithio'n bennaf ar Brydain, Ewrop ac Unol Daleithiau America.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Yn ystod eich gradd byddwch yn dysgu drwy amrywiaeth o ddosbarthiadau bach ar ffurf grŵp seminar, teithiau maes, gweithdai ymarferol, hyfforddiant un-i-un, a darlithoedd ar gyfer rhwng 10 a 50 o fyfyrwyr. Mae safleoedd hanesyddol a safleoedd treftadaeth byd allweddol i’w cael yma, ac mae ein lleoliad yn golygu y bydd gennych fynediad at adnoddau cyfoethog o ran safleoedd treftadaeth, henebion ac amgueddfeydd lleol. Ymhlith yr adnoddau hynny mae tomenni claddu cynhanesyddol, plastai urddasol a chestyll. Mae’r rhain i gyd yn rhan annatod o'r cwrs gan ein bod yn eu defnyddio fel rhan o'r addysgu trwy gynnal teithiau maes, gweithdai ymarferol a chynnig profiadau cloddio.
Ym mlwyddyn gyntaf eich gradd Hanes byddwch yn dewis o ddetholiad o fodiwlau a ddyluniwyd i roi blas i chi o’r radd yn ei chyfanrwydd. Yn yr ail a'r drydedd flwyddyn bydd gennych ddewis eang o fodiwlau mwy arbenigol a thematig lle rhoddir ystyriaeth fanwl i ffynonellau gwreiddiol. Bydd hyn yn eich galluogi i deilwra eich gradd yn unol â’ch diddordebau eich hun. Byddwch hefyd yn ymchwilio i bwnc o'ch dewis ym Mlwyddyn 3 ac yn ysgrifennu traethawd hir arno.
Ochr yn ochr ag addysgu yn yr ystafell ddosbarth a gweithgareddau maes, byddwch hefyd yn elwa ar amrywiaeth o weithgareddau academaidd a chymdeithasol eraill yn yr Ysgol. Mae'r rhain yn cynnwys cynadleddau myfyrwyr a chyfnodolyn yr Ysgol, cwisiau, achlysuron cymdeithasol ynghyd â theithiau a sgyrsiau wedi eu harwain gan y myfyrwyr. Mae ein myfyrwyr hefyd yn gallu elwa o gynlluniau'r Brifysgol megis 'Ieithoedd i Bawb' a 'Chymraeg i Oedolion' (sef dosbarthiadau ieithoedd am ddim mewn Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Tsieinëeg Mandarin, Sbaeneg a Chymraeg) a chynlluniau'r Ganolfan Sgiliau Astudio.
Pan na fyddwch yn gwneud hynny byddwch yn paratoi ar gyfer seminarau, yn gwneud ymchwil ac yn cwblhau aseiniadau. Asesir y cwrs trwy gyfuniad o draethodau, projectau, cyflwyniadau ac arholiadau. Mae'r traethawd hir yn rhan bwysig o'r asesiad terfynol. Trwy gydol y cwrs fe'ch cefnogir gan staff addysgu arbenigol a brwdfrydig.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Hanes BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Hanes neu Archeoleg yn ffafriol ond nid yn hanfodol. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 104 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A: Hanes neu Archeoleg yn ffafriol ond nid yn hanfodol. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: DMM- DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: DMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma’r Fagloriaeth Ryngwladol: derbynnir
- Access: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae hanes yn radd sy’n agor drysau lawer. Mae'r cwrs hwn yn rhoi gwybodaeth arbenigol ac ystod o sgiliau dadansoddol a chyflwyno a fydd yn eich galluogi i ddilyn amrywiaeth o yrfaoedd sy'n ymwneud ag anghenion gweinyddol ac arweinyddiaeth; er enghraifft, yn adrannau personél cwmnïau, y gwasanaeth sifil a llywodraeth leol yn ogystal ag mewn ystod o alwedigaethau y gellir trosglwyddo'r sgiliau hyn yn uniongyrchol iddynt. Mae ein graddedigion Hanes yn cael swyddi amrywiol iawn: yn enwedig mewn meysydd sy'n gofyn am sgiliau cyfathrebu, am ddadansoddi llawer iawn o wybodaeth ac am ddeall y natur ddynol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae graddedigion wedi cael gyrfaoedd mewn gwaith amgueddfa, y gyfraith, addysgu a'r diwydiannau diwylliannol. Mae llawer o raddedigion hefyd yn mynd rhagddynt i gynlluniau ôl-raddedig addysg uwch.
Mae graddedigion Hanes yn weithwyr y mae ar gyflogwyr eu heisiau oherwydd yr amrywiaeth o sgiliau y maent yn eu datblygu yn ystod eu gradd. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy hyn yn cynnwys:
- Y gallu i adolygu'r llenyddiaeth yn feirniadol a llunio dadleuon rhesymegol a strwythuredig
- Y gallu i wneud cyflwyniadau llafar effeithiol
- Datblygu sgiliau ysgrifennu a golygu
- Gwerthfawrogiad o gymhlethdod ac amrywiaeth sefyllfaoedd, digwyddiadau a meddylfryd yn y gorffennol
- Profiad a enillir o gyflawni a chwblhau project ymchwil mawr yn y drydedd flwyddyn - y traethawd hir
- Sgiliau TG da
- Sgiliau rheoli amser
Mae'r sgiliau trosglwyddadwy hyn yn hanfodol i sectorau cyflogaeth eraill, megis y sector cyhoeddus, addysgu, newyddiaduraeth, y gyfraith, cyfrifeg a rheolaeth.
Rhoddir cyfle i fyfyrwyr Blwyddyn 2 a 3 gwblhau modiwlau lleoliad gwaith, y gellir eu cynnal yn y brifysgol neu drwy sefydliadau allanol. Asesir y rhain fel rhan o'r radd derfynol. Mae'r rhaglen yn gwella rhagolygon cyflogadwyedd ac yn rhoi syniad o'r math o gyfleoedd cyflogaeth y mae gradd mewn hanes yn eu cynnig. Mae myfyrwyr wedi ymgymryd â lleoliadau mewn ystod eang o weithleoedd, gan gynnwys archifdai a chanolfannau treftadaeth.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.
Blwyddyn Sylfaen
Mae opsiwn ‘gyda Blwyddyn Sylfaen’ ar gael ar gyfer y cwrs hwn. Gwnewch gais am Hanes (gyda Blwyddyn Sylfaen).
Beth yw cwrs Blwyddyn Sylfaen?
Os nad oes gennych mo'r cymwysterau gofynnol ar gyfer cwrs lefel gradd, neu os ydych am fynd yn ôl i addysg yn dilyn cyfnod i ffwrdd, yna gall Rhaglen Blwyddyn Sylfaen fod y dewis iawn i chi.
Mae’r Flwyddyn Sylfaen yn gyflwyniad rhagorol i astudio pwnc yn y brifysgol a bydd yn rhoi'r wybodaeth, y sgiliau a'r hyder sydd eu hangen arnoch i astudio’r cwrs hwn ar lefel gradd.
Pan fyddwch wedi cwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i flwyddyn gyntaf y cwrs lefel gradd yma.