Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae ein graddau Cerddoriaeth yn cynnig cyfle i astudio, creu a pherfformio cerddoriaeth mewn amgylchedd bywiog, creadigol. Mae’r Ysgol Gerddoriaeth wedi’i hen sefydlu ers tro byd ac mae’n cofleidio’r traddodiadol a’r modern o ran astudio cerddoriaeth. Mae’n gwrs cyffrous a fydd yn eich galluogi i archwilio cerddoriaeth trwy amrywiaeth o feysydd pwnc gan gynnwys: cerddoleg, dadansoddi, perfformio, cyfansoddi, theori feirniadol, genre a mwy.
Mae’r BA Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) yn gwrs pedair blynedd ac iddo flwyddyn sylfaen integredig sy'n arwain at yr un cymhwyster â'r radd anrhydedd tair blynedd. Cynlluniwyd y cwrs yn benodol i fyfyrwyr sydd eisiau astudio ar lefel gradd ond nad ydynt yn bodloni'r gofynion mynediad neu ddim yn meddu ar gymwysterau traddodiadol.
Mae'r flwyddyn sylfaen (blwyddyn 0) yn gyfle i chi ehangu a chryfhau eich hyder, sgiliau a gwybodaeth - gan sicrhau eich bod yn barod ac yn gymwys i symud ymlaen i Flwyddyn 1 y radd israddedig.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs hwn?
- Rydym yn cynnig amrywiaeth dda o ddewisiadau, sy'n eich galluogi i lunio'r cwrs yn ôl eich diddordebau a'ch cryfderau.
- Cynigir Ysgoloriaethau Perfformio Cerddoriaeth i'r offerynwyr a/neu'r cantorion mwyaf addawol.
- Mae gennym theatr gyda'r holl gyfleusterau, 2 neuadd gyngerdd hardd a 2 adeilad o'n heiddo ein hunain - gydag ystafelloedd addysgu o'r radd flaenaf, mannau ymarfer, mannau astudio, mannau dysgu cymdeithasol, a nifer o ystafelloedd ymarfer gwrthsain ar gyfer unigolion. Mae yna ddarpariaeth lawn o bianos cyngerdd ac unionsyth, harpsicordiau, organau, telynau, offerynnau taro ac offerynnau o wahanol rannau o'r byd. Yn ein 5 stiwdio ceir cyfarpar o safon ryngwladol ar gyfer cyfansoddi, ymchwilio a recordio. Mae'r Llyfrgell yn cynnwys dros 3,000 o gryno ddisgiau a dros 30,000 o sgoriau.
- Mae ein staff brwdfrydig yn cynnwys cyfansoddwyr adnabyddus, cerddolegwyr a pherfformwyr, gyda'u harbenigedd yn cwmpasu pob agwedd ar astudio cerddorol. Mae ein staff yn arloesi ym maes ymchwil i gerddoriaeth ac maent i gyd wedi ennill bri rhyngwladol yn eu meysydd.
- Mae llawer o’r addysgu’n digwydd mewn grwpiau bach, gan roi awyrgylch dysgu ysgogol a chynhaliol.
- Mae cyngherddau ym Mangor yn cynnwys cerddoriaeth siambr (ceir perfformiadau gan y grwpiau preswyl Ensemble Cymru a Phedwarawd Allegri, sydd hefyd yn rhoi dosbarthiadau meistr), datganiadau gan gantorion ac offerynwyr blaenllaw, cerddoriaeth acwsmatig gan Electroacwsteg Cymru, ac ymweliadau rheolaidd gan Gerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Cherddorfa Ffilharmonig Frenhinol Lerpwl. Yn ogystal, cynhelir Gŵyl Gerdd flynyddol sy'n canolbwyntio ar gerddoriaeth gyfoes (mae tocynnau ar gael i fyfyrwyr am brisiau gostyngol iawn).
- Mae ensembles y Brifysgol yn cynnwys cerddorfa symffoni a chôr mawr (Cerddorfa Symffoni a Chorws Prifysgol Bangor), côr siambr a grŵp opera. Caiff myfyrwyr sy'n berfformwyr gyfle i chwarae concertos gyda Cherddorfa Symffoni’r Brifysgol; ac mae cerddorion proffesiynol sy'n ymweld yn aml yn perfformio darnau a gyfansoddwyd gan ein myfyrwyr.
- Mae Cymdeithas Gerdd y Brifysgol hefyd yn cynnal cerddorfa a chôr; mae cymdeithasau eraill Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys band pres, band jazz, a chymdeithas sioeau cerdd.
- Rydym yn tanysgrifio i ystod eang o adnoddau ar-lein, gan gynnwys Naxos Music Library a Grove Music Online. Ceir hefyd gyfrifiaduron at ddefnydd pawb; mae'r rhain yn cynnwys y rhaglenni diweddaraf, gyda Sibelius a meddalwedd cerddoriaeth arall wedi'i osod ynddynt.
- Mae Prifysgol Bangor yn ymfalchio mai hi yw prif ganolfan y byd ar gyfer astudio cerddoriaeth Gymraeg. Rydym yn gartref i Archif Cerddoriaeth Draddodiadol Cymru (gyda llawer o ffynonellau a recordiadau gwreiddiol ar gyfer astudio cerddoriaeth yng Nghymru), Archif Cerddoriaeth Boblogaidd Cymru (sy'n gartref i gasgliad sylweddol o recordiadau), a Chasgliad Crossley-Holland (sy'n cynnwys dros 600 o offerynnau unigryw o bob rhan o'r byd).
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Bydd gennych tua 12 awr o ddarlithoedd, seminarau a thiwtorialau bob wythnos. Dysgir Perfformio Unigol trwy gyfuniad arloesol o hyfforddiant unigol, gweithdai a dosbarthiadau meistr. Byddwch hefyd yn treulio amser ar waith darllen cefndirol, gwrando ar gerddoriaeth, cwblhau traethodau a gwaith cwrs, paratoi at seminarau, yn ogystal ag ymarfer a pherfformio mewn ensembles, corau a cherddorfeydd.
Mae nifer o fodiwlau’n cynnwys teithiau maes i gyngherddau, cwmnïau recordiau a chyhoeddwyr cerddoriaeth, ac mae gennym gysylltiadau ardderchog gyda sefydliadau blaenllaw yn y Deyrnas Unedig, gan gynnwys y Royal Liverpool Philharmonic Orchestra, y London Sinfonietta a Recordiau Sain. Mae eraill yn cynnwys lleoliadau byr y tu allan i’r Brifysgol (e.e. Celfyddydau yn y Gymuned). Gallech ddisgwyl treulio rhwng traean a dau draean y flwyddyn olaf yn gweithio ar brojectau cerddoriaeth annibynnol.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cerddoriaeth (gyda Blwyddyn Sylfaen) BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cerddoriaeth
- Dau adeilad Cerddoriaeth pwrpasol.
- Dwy neuadd gyngerdd safonol broffesiynol.
- Mannau ymarfer.
- Ystafelloedd ymarfer gyda mynediad 24 awr.
- Offerynnau gan gynnwys organ maint llawn, organ siambr, harpsicordiau a phianos traws.
- Pedair stiwdio cyfansoddi a recordio electroacwstig o'r radd flaenaf, gyda mynediad 24 awr.
- Mynediad i fannau perfformio ac ymarfer yng nghanolfan gelfyddydau ysblennydd Pontio.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 88 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbyniwn Ddiplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae angen medru darllen hen nodiant i wneud unrhyw un o'r cyrsiau Cerddoriaeth. Mae pwyntiau o arholiadau safonau cerdd yn cael eu hystyried lle bo hynny'n briodol, er nad ydynt fel rheol yn cael eu cynnwys yn y cynnig.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 48 - 96 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (gan gynnwys: Safonau UG, Astudiaethau Cyffredinol)
- Bagloriaeth Ryngwladol
- Cymhwyster Project Estynedig
- Derbyniwn Ddiplomâu a Thystysgrifau BTEC a Diplomâu/Tystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diplomâu a Thystysgrifau Technegol Caergrawnt
- Diploma Estynedig Uwch y Ddinas a’r Gildiau
- Derbyniwn Fagloriaeth Cymru
- Scottish Highers
- Derbyniwn yr Irish Leaving Certificate
- Lefelau-T: ystyrir fesul achos.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn. Caiff myfyrwyr aeddfed a/neu rai sydd â chymwysterau eraill eu hystyried yn ôl teilyngdod unigol
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Er bod llawer o raddedigion yn dilyn gyrfaoedd ym maes cerddoriaeth, mae’r graddau hyn hefyd yn baratoad da ar gyfer amrywiaeth eang o swyddi mewn gweinyddu, masnach, rheoli a’r proffesiynau. Aeth ein graddedigion yn berfformwyr proffesiynol, yn gyfansoddwyr, yn ddarlithwyr prifysgol, yn ymchwilwyr, yn athrawon, yn weinyddwyr celfyddydau, yn therapyddion cerdd, yn gyhoeddwyr cerddoriaeth, yn llyfrgellwyr, yn rheolwyr cyngherddau, yn swyddogion celfyddydau cymunedol, yn rheolwyr llwyfan, yn gynhyrchwyr recordio a darlledu ac yn beirianwyr sain. Ar ôl graddio aeth llawer o gyn-fyfyrwyr yn eu blaenau gyda hyfforddiant cerddorol ychwanegol, fel perfformwyr, ysgolheigion neu gyfansoddwyr, ac mae cyfle i wneud hyn oll ym Mangor.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.