Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae'r pynciau hyn yn eich galluogi i astudio'r prosesau cymdeithasol a seicolegol sy'n effeithio ar fywydau plant heddiw. Byddwch yn astudio amrywiaeth eang o bynciau sy'n berthnasol i blentyndod ac ieuenctid yn yr 21ain ganrif ac yn ymchwilio i ymddygiad a'r ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol. Gall hyn arwain at amrywiaeth eang o yrfaoedd yn cynnwys dysgu, gwaith cymdeithasol, cwnsela a'r gyfraith lle byddwch yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ifanc.
Mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg yn cyd-fynd â’i gilydd yn naturiol. Maent yn cefnogi dull cyfun o ddeall datblygiad plant a phobl ifanc o safbwyntiau biolegol a seicolegol, gan annog dealltwriaeth o'r elfennau hyn yn y meysydd sy'n effeithio fwyaf ar fywydau plant a phobl ifanc, megis eu haddysg, eu rhyngweithio â chyfoedion ac oedolion a'u lles. Mae'r cwrs hwn yn eich galluogi i astudio Seicoleg fel rhan o radd anrhydedd ar y cyd (50% Seicoleg, 50% Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid).
Mae rhan Seicoleg y radd yn cynnwys ymchwilio i ymddygiad o fabandod hyd at henaint, a chewch eich dysgu am ffactorau biolegol, cymdeithasol ac unigol sy'n effeithio ar seicoleg ddynol gan arbenigwyr yn y maes. Yn y rhan Plentyndod ac Ieuenctid, byddwch yn astudio pynciau arloesol, a arweinir gan staff addysg profiadol, i ddatblygu eich dealltwriaeth o hanes plentyndod, hawliau plant, natur plentyndod a swyddogaeth oedolion sy’n gweithio â phlant mewn cyd-destun cenedlaethol, Ewropeaidd a rhyngwladol. Byddwch yn gwneud gwaith astudio academaidd ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, polisi cymdeithasol, addysg, iechyd a lles yn ymwneud â bywydau plant.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Lleoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant.
- Mae gennym arbenigedd academaidd a phroffesiynol mewn amrywiol feysydd megis hawliau plant, cyfraith y teulu, dwyieithrwydd, addysg, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, llythrennedd, anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiant.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Ar y cwrs hwn byddwch yn astudio 50% Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a 50% Seicoleg.
Mae’r modiwlau sydd ar gael ym mhob disgyblaeth yn cyd-fynd â’i gilydd, gan roi'r dewis i fyfyrwyr ddysgu am feysydd astudio penodol trwy astudio datblygiad plant o safbwyntiau biolegol a seicolegol a'u hatgyfnerthu trwy eu gosod o fewn cyd-destunau cymdeithasol ac addysgol. Mae myfyrwyr yn astudio dewis o fodiwlau sy'n adlewyrchu cydbwysedd o’r ddwy ddisgyblaeth. Bydd astudiaeth gyfun o'r modiwlau hyn yn caniatáu i fyfyrwyr ddatblygu llwybr i feysydd sy'n gysylltiedig â seicoleg plentyn-ganolog, darpariaeth gofal i bobl ifanc ac addysg.
Cefnogir yr astudiaeth gan nifer o gyfleoedd i wneud ymchwil i feysydd a arweinir gan gynnwys y cwrs. Mae hyn yn caniatáu rhyddid i fyfyrwyr ddatblygu eu diddordebau mewn meysydd penodol o seicoleg a chymhwyso at, a chyfuno â, materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yn eu lleoedd eu hunain.
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, adnoddau digidol a gweithdai ymarferol. Mae darlithoedd a seminarau yn gwneud defnydd creadigol o amrywiaeth o wahanol adnoddau digidol a chyfryngau er mwyn eich helpu i gynllunio, recordio a hybu eich cynnydd. Elfen annatod o'r rhaglen yw'r amrywiaeth o siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol sy'n cyfoethogi ac yn atgyfnerthu eich dysgu.
Rydym yn cynnig llawer o’n modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Gall myfyrwyr ddewis cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg a gwneud aseiniadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae'r asesiadau'n amrywio o fodiwl i fodiwl ac yn cynnwys traethodau, cyflwyniadau, gwneud ffilmiau, arholiadau neu brofion gyda chwestiynau aml-ddewis.
Eich Ymchwil
Mae ymchwil yn elfen bwysig o'r cwrs hwn. Fel rhan o'r modiwlau Dulliau Ymchwil, byddwch yn cymryd rhan mewn sesiynau ymarferol lle byddwch yn dysgu sut i gynllunio astudiaethau, cynnal eich arbrofion eich hun, casglu a dadansoddi data ac adrodd ar eich canfyddiadau. Bydd y sgiliau hyn yn rhoi sylfaen gadarn i chi yn barod ar gyfer blwyddyn 3 pan fyddwch yn gwneud eich ymchwil eich hun.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae’r rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg BA (Anrh).
Mae cynnwys y cwrs wedi’i nodi i’ch arwain yn unig ac fe all newid.
Cyfleusterau
- Gweithdai ar faterion mor amrywiol â llythrennedd plant, plant a thechnoleg a hawliau plant gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y meysydd.
- Defnydd o gyfryngau digidol ac adnoddau i addysgu, i gefnogi ymchwil, i helpu i gofnodi cynnydd ac i rannu gwaith.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynadleddau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cwrs, gan gynnwys lleisiau plant a chyfraniad plentyndod ac ieuenctid at brosesau gwneud penderfyniadau.
- Cyflwyniadau rheolaidd gan arbenigwyr yn y maes mewn meysydd sy'n gysylltiedig â'r gwahanol lwybrau plentyndod ac ieuenctid.
- Ymweliadau addysgol â'r ardal leol, â lleoedd o arwyddocâd cenedlaethol ac, mewn rhai achosion, â lleoliadau rhyngwladol.
- Cyfle i weithio ochr yn ochr â chyflogwyr a darparwyr gwasanaeth mewn meysydd sy'n ymwneud â phlentyndod ac ieuenctid, gan gynnwys addysg, gwasanaethau gofal ac asiantaethau sy'n cefnogi darpariaeth i bobl ifanc.
- Cyswllt a chefnogaeth reolaidd â sefydliadau sy'n bwysig i'r maes, yn cynnwys ysgolion, sefydliadau gofal cymdeithasol, sefydliadau hawliau plant. Cynnal cyswllt â'r sefydliadau hyn i helpu i ddatblygu syniadau a llwybrau sy'n gysylltiedig â dyheadau gyrfa unigolion.
- Mae'r adran seicoleg ym Mangor yn un o'r rhai hynaf a mwyaf yn y Deyrnas Unedig ac mae ganddi enw rhagorol am addysgu ac ymchwil ac amrywiaeth eang o labordai ymchwil arbenigol yn cynnwys MRI, ERP, TMS ac olrhain llygaid.
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96-128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A (mae'n well gan ymgeiswyr fod ag o leiaf un wyddoniaeth berthnasol - Mathemateg, Bioleg, Bioleg Ddynol, Ffiseg, Cemeg, Ystadegau, Seicoleg a Gwyddoniaeth)
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): MMM - DDM
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Bagloriaeth Cymru
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn eu gwledydd preswyl.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96-128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3* e.e.:
- Lefel A
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC: MMM - DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt: MMM - DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): MMM - DDM
- Diploma Bagloriaeth Ryngwladol
- Diploma Mynediad i Addysg Uwch
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Bagloriaeth Cymru
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant gan gynnwys gwiriad o'r rhestr gwahardd rhag gweithio'n agos â phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn eu gwledydd preswyl.
Ymgeiswyr rhyngwladol: derbynnir cymwysterau gadael ysgol a diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol). Cewch ragor o wybodaeth yma.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Mae cynllun amlddisgyblaethol y radd Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg yn cynnig amrywiaeth o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a phreifat, yn ymwneud ag iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n gwneud cais am le ar gwrs TAR Cynradd.
Mae'r cwrs Plentyndod ac Ieuenctid a Seicoleg cyfun yn apelio at amrywiaeth eang iawn o gyflogwyr mewn meysydd sy'n ymwneud â chefnogi a gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae galw mawr am raddedigion o'r disgyblaethau cyfun hyn sy’n deall datblygiad plant ac sy’n gallu cymhwyso gwybodaeth yng nghyd-destun swyddogaethau a sefydliadau sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, ac mae'r sgiliau hyn yn hanfodol mewn swyddi cefnogi ym maes addysg, seicoleg plentyn-ganolog a gwasanaethau gofal i bobl ifanc.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.