Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid a Chymraeg BA yn eich caniatáu i gyfuno dau faes sy’n ategu’i gilydd mewn ffyrdd cyffrous. Mae Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn rhoi sylw i’r galw cyfredol am arbenigwyr cymwysedig a all weithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd mewn ystod o gyd-destunau, yn y gymuned ac mewn sefydliadau. Mewn modd tebyg, mae Cymraeg ym Mangor yn llawer mwy na chwrs gradd: mae'n brofiad diwylliannol cyflawn a fydd yn eich galluogi i chwarae rhan broffesiynol yng nghyffro creu Cymru wirioneddol ddwyieithog. Cewch ar y cwrs hwn gyfuniad o sylfaen academaidd gadarn ynghyd â dimensiwn ymarferol a gweithredol: y canlyniad yw cynhyrchu gweithwyr proffesiynol sy’n gallu ymdopi â heriau cymdeithas gyfoes a phrysur mewn gwlad ddwyieithog.
Mae'r cwrs yn cynnig cyfleoedd i astudio dramor, yn ogystal â chyfleoedd i gyflwyno mewn cynadleddau, gan eich helpu i ddatblygu'ch sgiliau academaidd a chyflogadwyedd. Bob blwyddyn cewch gyfle i fynd ar leoliadau gwaith i ddatblygu eich dealltwriaeth o agweddau ar anghenion a datblygiad plant ac i wneud ymchwil i faterion ac ymarfer cyfredol. Mae gan ein tîm addysgu arbenigedd a chefndiroedd mewn seicoleg, cymdeithaseg, hawliau plant, ieithyddiaeth, addysg, fforenseg, iechyd a lles. Mae'r amgylchedd dysgu cyfoethog ac amrywiol hwn yn nodwedd unigryw o'n cwrs, ac yn rhoi'r cyfle i chi astudio plentyndod a phobl ifanc o nifer o safbwyntiau
Iaith fyw y presennol, ac nid crair o'r gorffennol, yw'r Gymraeg ym Mangor. Cewch gyfle nid yn unig i astudio a mwynhau un o lenyddiaethau Celtaidd hynotaf y byd, ond cyfle hefyd i ddilyn modiwlau mwy ymarferol eu gogwydd a fydd yn baratoad ardderchog ar gyfer gyrfa a swydd. Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i ymchwilio’n annibynnol, i feddwl yn wreiddiol, i ddod i adnabod llenyddiaeth Gymraeg a diwylliant Cymru mewn dyfnder ac i feistroli gwahanol gyweiriau’r iaith. Os dymunwch, bydd cyfle i chi ddilyn eich diddordebau creadigol o dan arweiniad ysgrifenwyr a beirdd profiadol. Cewch ymwybyddiaeth hefyd o’r Gymraeg mewn cyd-destunau rhyngwladol ehangach. Beth yw perthynas y Gymraeg ag ieithoedd eraill y byd? Sut mae ffawd yr iaith yn cymharu ag ieithoedd fel Basgeg a Gwyddeleg? Sut mae llenorion a beirdd Cymru wedi ymateb i themâu byd-eang fel caethwasiaeth, yr Holocost a her ecolegol y byd modern diwydiannol? O’r cyfnodau cynharaf hyd at y presennol, mae’r dewisiadau o ran modiwlau yn eang a’r cyfleoedd i ehangu eich gorwelion yn ddi-ben-draw.
Mewn meysydd fel addysg, gwaith cymdeithasol, cwnsela, y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus, mae graddedigion Bangor yn cyflawni swyddi o bwys. Maent yno ymhlith arweinwyr ein Cymru gyfoes ac yn llunio ein dyfodol.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Mae'r radd ddeinamig, amlddisgyblaethol hon yn cynnig cyfle i chi astudio ystod amrywiol o bynciau sy'n ymwneud â phrofiadau byw plant a phobl ifanc yn y gymdeithas gyfoes, a hefyd ystyried bywyd mewn cyd-destunau diwylliannol ar draws y canrifoedd.
- Gallwch ddewis astudio 100% o’ch modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg.
- Canolfan ac iddi enw da drwy'r byd ar gyfer astudio Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd.
- Astudio yn amgylchedd unigryw Gwynedd (gogledd-orllewin Cymru) lle mae'r Gymraeg yn parhau i fod yn iaith gyntaf i'r mwyafrif.
Opsiynau Cwrs Ychwanegol
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn ar Leoliad' lle byddwch yn astudio am flwyddyn ychwanegol. Mae'r myfyrwyr yn gwneud y Flwyddyn ar Leoliad ar ddiwedd yr ail flwyddyn ac maent i ffwrdd o'r Brifysgol am y flwyddyn academaidd gyfan.
Mae Blwyddyn ar Leoliad yn gyfle gwych i chi ehangu eich gorwelion a datblygu sgiliau a chysylltiadau hynod ddefnyddiol trwy weithio gyda sefydliad sy'n berthnasol i bwnc eich gradd. Y cyfnod lleiaf ar leoliad (mewn un lleoliad neu fwy nag un lleoliad) yw saith mis calendr; fel rheol mae myfyrwyr yn treulio 10-12 mis gyda darparwr lleoliad. Byddwch fel rheol yn dechrau rywbryd yn y cyfnod rhwng mis Mehefin a mis Medi yn eich ail flwyddyn ac yn gorffen rhwng mis Mehefin a mis Medi y flwyddyn ganlynol. Gall y lleoliad fod yn y Deyrnas Unedig neu dramor a byddwch yn gweithio gyda'r staff i gynllunio a chwblhau trefniadau eich lleoliad.
Bydd disgwyl i chi ddod o hyd i leoliad sy'n addas i'ch gradd, a'i drefnu, ac mi gewch chi gefnogaeth lawn gan aelod pwrpasol o staff eich Ysgol academaidd a Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar ôl cychwyn eich cwrs ym Mangor a gallwch wneud cais i drosglwyddo i'r opsiwn hwn ar yr adeg priodol. Darllenwch fwy am y cyfleoedd profiad gwaith sydd ar gael neu, os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Mae'r cwrs hwn ar gael fel opsiwn 'gyda Blwyddyn Profiad Rhyngwladol' lle byddwch yn astudio neu'n gweithio am flwyddyn yn ychwanegol. Bydd ‘gyda Phrofiad Rhyngwladol’ yn cael ei ychwanegu at deitl eich gradd pan fyddwch yn graddio.
Mae astudio dramor yn gyfle gwych i weld ffordd wahanol o fyw, i ddysgu am ddiwylliannau newydd ac ehangu eich gorwelion. Gyda phrofiad rhyngwladol o’r fath, rydych yn gwneud byd o les i’ch gyrfa. Mae yna ddewis eang o leoliadau a phrifysgolion sy'n bartneriaid. Os ydych yn bwriadu astudio mewn gwlad lle nad yw’r Saesneg yn cael ei siarad fel iaith frodorol, efallai y bydd cefnogaeth iaith ychwanegol ar gael i chi ym Mangor neu yn y brifysgol yn y wlad arall i wella'ch sgililau iaith.
Bydd gennych y cyfle i ystyried yr opsiwn hwn yn llawn ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ym Mangor a gallwch wneud cais. Os oes gennych unrhyw ymholiad yn y cyfamser, mae croeso i chi gysylltu â ni.
Darllenwch fwy am y rhaglen Blwyddyn Profiad Rhyngwladol a chymrwch olwg ar yr opsiynau astudio neu weithio dramor sydd ar gael yn adran Cyfnewidiadau Myfyrwyr o’r wefan.
Cynnwys y Cwrs
Byddwch yn dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, adnoddau digidol a gweithdai ymarferol. Mae darlithoedd a seminarau yn gwneud defnydd creadigol o amrywiaeth o adnoddau digidol a chyfryngau i’ch helpu i gynllunio, cofnodi a chefnogi eich cynnydd. Elfen annatod o'r rhaglen yw'r siaradwyr gwadd ac ymweliadau addysgol sy'n cyfoethogi ac yn atgyfnerthu eich dysgu. Ar y cwrs hwn, bydd cyfle i gymryd rhan a phrofi'r gweithgareddau isod:
- Gweithdai ar faterion mor amrywiol â llythrennedd plant, plant a thechnoleg a hawliau plant gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y meysydd hynny.
- Gwneud defnydd o gyfryngau digidol ac adnoddau i addysgu, i gefnogi ymchwil, i helpu i gofnodi cynnydd ac i rannu gwaith.
- Cymryd rhan mewn cyfarfodydd a chynadleddau ar amrywiaeth o faterion yn ymwneud â'r cwrs, gan gynnwys lleisiau plant a chyfraniad plentyndod ac ieuenctid at brosesau gwneud penderfyniadau.
- Mynychu cyflwyniadau rheolaidd gan arbenigwyr yn y maes mewn meysydd sy'n gysylltiedig â gwahanol lwybrau plentyndod ac ieuenctid, a llenyddiaeth y Gymraeg.
- Ymweliadau addysgol â'r ardal leol, â lleoedd o arwyddocâd cenedlaethol ac, mewn rhai achosion, â lleoliadau rhyngwladol.
- Cyfle i weithio ochr yn ochr â chyflogwyr a darparwyr gwasanaeth mewn meysydd perthnasol, gan gynnwys addysg, gwasanaethau gofal ac asiantaethau sy'n cefnogi darpariaeth i bobl ifanc.
- Cyswllt a chefnogaeth reolaidd â sefydliadau pwysig, gan gynnwys ysgolion, sefydliadau gofal cymdeithasol, sefydliadau hawliau plant. Cynnal cyswllt â'r sefydliadau hyn i helpu i ddatblygu syniadau a llwybrau sy'n gysylltiedig â dyheadau gyrfa unigolion.
Byddwch yn gwneud traethodau, amrywiol ymarferion a thasgau wythnosol, gwaith darllen a pharatoi ar gyfer seminarau. Mae'r asesiadau’n gyfuniad o’r gwaith cwrs ac arholiadau, gyda rhai modiwlau wedi’u hasesu’n llwyr ar sail gwaith cwrs. Os ydych o gefndir ail iaith, bydd eich holl hyfforddiant Cymraeg yn y flwyddyn gyntaf yn benodol ar eich cyfer ac yn ddilyniant i’ch profiadau ieithyddol hyd yma. Darperir cefnogaeth iaith ychwanegol hefyd yn yr ail a’r drydedd flwyddyn.
Beth fyddwch chi’n ei astudio ar y cwrs yma?
Ar y cwrs bydd modiwlau'n ymwneud â safbwyntiau seicolegol, cymdeithasegol ac addysgol ar faterion sy'n berthnasol i blentyndod a phobl ifanc, yn ddamcaniaethol ac yn ymarferol. Ar ochr y Gymraeg cewch astudio a mwynhau holl ystod llenyddiaeth yr iaith, a chewch hefyd ddilyn modiwlau galwedigaethol neu greadigol (chi biau’r dewis).
Yn eich trydedd flwyddyn, byddwch yn gwneud project ymchwil o bwys mewn maes o'ch dewis chi. Yn dibynnu ar eich maes ymchwil, efallai y byddwch yn ymwneud â phrojectau mewn ysgol, ysgol feithrin neu gydag ymarferwyr yn y diwydiant plentyndod ac ieuenctid. Mae myfyrwyr Cymraeg diweddar wedi dewis ymchwilio i unigolion fel Dafydd ap Gwilym, Kate Roberts, Mihangel Morgan, Angharad Tomos, Caryl Lewis, Meic Stevens a Geraint Jarman, neu feysydd fel ecofeirniadaeth, rhywedd a thrawsrywedd, iaith Sir Benfro, llenyddiaeth Gymraeg a chaethwasiaeth, llên a cheffylau a phêl-droed mewn llenyddiaeth.
Gallwch ddewis astudio 100% o’ch modiwlau trwy gyfrwng y Gymraeg, a dewis cael tiwtor personol sy'n siarad Cymraeg; cewch wneud eich aseiniadau yn Gymraeg neu Saesneg. Fel siaradwr dwyieithog, efallai y byddwch yn teimlo'n fwy hyderus wrth ysgrifennu yn y naill iaith neu’r llall. Ar y cwrs hwn, gallwch ddilyn modiwlau Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid drwy gyfrwng y Gymraeg a chyflwyno gwaith yn Saesneg, neu fel arall. Beth bynnag fydd eich penderfyniad, byddwn yn eich cefnogi fel eich bod yn datblygu eich sgiliau dwyieithog.
Cyfleusterau
Cyfleusterau Cyffredinol y Brifysgol
Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau
Mae ein pedair llyfrgell yn cynnig amrywiaeth o amgylcheddau astudio braf gan gynnwys mannau gweithio cydweithredol, ystafelloedd cyfarfod a mannau tawel i astudio.
Mae yma gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Mae gennym hefyd un o’r archifau prifysgol mwyaf nid yn unig yng Nghymru ond hefyd drwy holl wledydd Prydain. Yn gysylltiedig â'r archifau mae casgliadau arbennig o lyfrau printiedig prin.
Adnoddau Dysgu
Mae yma ddewis eang o adnoddau dysgu, sy’n cael eu cefnogi gan staff profiadol, i’ch helpu i astudio.
Mae gwasanaethau TG y Brifysgol yn darparu cyfleusterau a gwasanaethau cyfrifiaduro, cyfryngau a reprograffeg sy’n cynnwys:
- Dros 1,150 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr, gyda rhai ystafelloedd cyfrifiaduron ar agor 24 awr bob dydd
- Blackboard, rhith-amgylchedd dysgu masnachol, sy’n galluogi i ddeunydd dysgu fod ar gael ar-lein.
Costau'r Cwrs
Costau Cyffredinol yn y Brifysgol
Myfyrwyr Cartref (DU)
- Cost cwrs israddedig llawn-amser yw £9,250 y flwyddyn (2025/26).
- Y ffi ar gyfer pob blwyddyn dramor integredig yw £1,385 (2025/26).
- Y ffi ar gyfer blwyddyn mewn diwydiant integredig fel rhan o'r cwrs yw £1,850 (2025/26).
Mwy o wybodaeth am ffioedd a chyllid i fyfyrwyr Cartref (DU).
Myfyrwyr Rhyngwladol (yn cynnwys yr UE)
Costau Ychwanegol
Mae yna hefyd rai costau ychwanegol cyffredin sy'n debygol o godi i fyfyrwyr ar bob cwrs, er enghraifft:
- Os dewiswch chi astudio dramor neu gymryd y Flwyddyn Profiad Rhyngwladol fel rhan o'ch cwrs.
- Os ydych chi'n mynd i'ch Seremoni Raddio, bydd cost llogi gŵn (£25- £75) a chost am docynnau i westeion ychwanegol (tua £12 yr un).
Costau ychwanegol cwrs-benodol
Yn dibynnu ar y cwrs rydych chi'n ei astudio, efallai y bydd costau ychwanegol cwrs-benodol y bydd gofyn i chi eu talu. Gellir rhoi'r costau hyn mewn tri chategori:
- Costau Gorfodol: mae'r rhain yn gysylltiedig â modiwl craidd neu orfodol penodol y mae'n ofynnol i chi ei gwblhau i gwblhau eich cymhwyster e.e. teithiau maes gorfodol, gwisgoedd i fyfyrwyr ar leoliad, gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
- Costau Angenrheidiol: efallai na fydd pob myfyriwr yn cael y costau hyn, a bydd yn amrywio yn dibynnu ar y cwrs e.e. aelodaeth o gorff proffesiynol, teithio i leoliadau, meddalwedd arbenigol, cyfarpar diogelu personol.
- Costau Dewisol: mae'r rhain yn dibynnu ar eich dewis o fodiwlau neu weithgaredd, ac fe'u dangosir er mwyn rhoi syniad ichi o'r costau dewisol a allai godi i sicrhau bod cymaint o wybodaeth â phosibl ar gael i chi cyn i chi wneud eich dewis. Gall y rhain gynnwys digwyddiadau graddio ar gyfer eich cwrs, teithiau maes dewisol, tripiau Wythnos Groeso.
Gofynion Mynediad
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Mae'r cynigion yn seiliedig ar dariffau, 96 - 128 pwynt tariff o gymwysterau Lefel 3 e.e.:
- Lefel A: yn cynnwys gradd B mewn Cymraeg (neu radd B mewn pwnc Dyniaethau a astudir drwy gyfrwng y Gymraeg - e.e. Hanes, Daearyddiaeth, Astudiaethau Crefyddol ). Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol fel rheol.
- Diploma Estynedig Cenedlaethol BTEC**: MMM-DDM
- Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt**: MMM-DDM
- Diploma Estynedig Technegol Uwch City & Guilds (1080): ystyrir fesul achos
- Diploma'r Fagloriaeth Ryngwladol: gan gynnwys gradd H5 mewn Cymraeg**
- Access**: Pasio yn ofynnol
- Bagloriaeth Cymru: Byddwn yn derbyn y cymhwyster hwn ar y cyd â chymwysterau lefel 3 eraill
- Diploma Estynedig Lefel 3 NCFE CACHE
- Tystysgrif Ymadael Iwerddon: 96-128 pwynt o fan leiaf 4 Pwnc Uwch
- Lefelau T: Ystyrir lefelau T mewn pwnc perthnasol fesul achos
- Project Estynedig: Gall y pwyntiau gynnwys Project Estynedig (EPQ) perthnasol ond rhaid iddynt gynnwys o leiaf 2 lefel A llawn, neu gyfwerth.
Rydym yn hapus i dderbyn cyfuniadau o'r cymwysterau a restrir uchod, yn ogystal â chymwysterau Lefel 3 amgen fel City & Guilds, Cwrs Mynediad a Diploma Technegol Estynedig Caergrawnt.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr hŷn.
Ymgeiswyr Rhyngwladol: derbyniwn gymwysterau ymadael â’r ysgol cyfwerth â lefel A/Lefel 3 a/neu diplomâu colegau o wledydd ledled y byd (yn amodol ar ofynion iaith Saesneg penodol). manylion yma.
*I gael rhestr lawn o gymwysterau Lefel 3 a dderbynnir, ewch i www.ucas.com.
**Gellir ei ystyried ar y cyd â chymhwyster arall yn y Gymraeg neu astudiaethau trwy gyfrwng y Gymraeg (e.e. Lefel A).
Gwybodaeth ychwanegol
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestr rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw neu weithio y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi.
Gofynion Cyffredinol y Brifysgol
I astudio cwrs gradd mae’n rhaid i chi gael isafswm o bwyntiau tariff UCAS. Am eglurhad manwl o bwyntiau tariff UCAS, ewch i www.ucas.com.
Rydym yn derbyn myfyrwyr â phob math o gymwysterau a chefndiroedd ac yn ystyried pob cais yn unigol.
Mae’n rhaid i bob ymgeisydd gael sgiliau sylfaenol da ond mae’r Brifysgol hefyd yn gweld pwysigrwydd sgiliau cyfathrebu a thechnoleg gwybodaeth.
Mae’n bolisi gan y Brifysgol i ystyried ceisiadau gan ddarpar fyfyrwyr anabl yn yr un modd â; phob cais arall.
Rydym yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr hŷn sy’n medru dangos fod ganddynt y gallu a’r ymrwymiad i astudio rhaglen prifysgol. Bob blwyddyn rydym yn cofrestru nifer sylweddol o fyfyrwyr hŷn. Am fwy o wybodaeth am astudio fel myfyriwr aeddfed, ewch i adran Astudio ym Mangor.
Gyrfaoedd
Ni fu erioed adeg fwy cyffrous i astudio Cymraeg – neu drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni fu ychwaith gymaint o alw am weithlu a all ddefnyddio’r Gymraeg ar lefelau proffesiynol uwch. Mae’r nod yn glir, y mae wedi ei osod gan Lywodraeth Cymru – miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 a Chymru ddwyieithog yng ngwir ystyr y gair.
Wrth anelu am y nod hwnnw bydd angen mawr am raddedigion hyderus eu Cymraeg, rhai fydd yn gallu defnyddio eu sgiliau iaith mewn ffyrdd hyblyg, rhai fydd yn gallu meddwl yn ddadansoddol drwy gyfrwng yr iaith a’i defnyddio – ar lafar ac yn ysgrifenedig – mewn sefyllfaoedd gwaith amrywiol.
Mae cynllun amlddisgyblaethol y radd yn paratoi myfyrwyr at ystod o ddewisiadau gyrfa ym myd addysg, seicoleg a chymdeithaseg a phroffesiynau cysylltiedig, yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat, gan gynnwys iechyd, gofal cymdeithasol, gwaith ieuenctid a gwaith cymunedol. Ar y llaw arall, mae rhai myfyrwyr yn parhau â’u hastudiaethau ar raglen Meistr neu’n gwneud cais am le ar gwrs TAR Cynradd. Os penderfynwch wneud cais am gwrs TAR Cynradd ym Mangor, cynigir cyfweliad i chi os byddwch yn diwallu’r gofynion mynediad.
Mae'r radd hon yn addas i fyfyrwyr sydd am ddilyn gyrfa sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r phrif lwybrau sy'n sail i'r cwrs: Addysg, Seicoleg, Gwyddorau Cymdeithas a Llên / Diwylliant. Mae dyfnder yr wybodaeth a manylder y sgiliau a enillir ar y cwrs yn darparu sylfaen gref iawn i fedru arbenigo mewn sawl amgylchedd. Mewn meysydd fel addysg, gwaith cymdeithasol, cwnsela, y diwydiannau creadigol a’r sector treftadaeth, darlledu a’r cyfryngau, cysylltiadau cyhoeddus a marchnata, cyfieithu, cynllunio ieithyddol a gweinyddu cyhoeddus, mae graddedigion Bangor yn cyflawni swyddi o bwys. Maent yno ymhlith arweinwyr ein Cymru gyfoes ac yn llunio ein dyfodol.
Cyfleoedd ym Mangor
Mae Gwasanaeth Sgiliau a Chyflogadwyedd y Brifysgol yn cynnig amryw o adnoddau i’ch helpu i gyflawni eich amcanion ar ôl graddio.
Rhaglen Interniaeth Prifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor yn cynnal cynllun interniaeth â thâl yn adrannau academaidd a gwasanaethau’r Brifysgol.
Gwirfoddoli
Mae gwirfoddoli yn ehangu eich profiadau ac yn gwella eich cyflogadwyedd. Cewch fwy o wybodaeth am wirfoddoli ar wefan Undeb y Myfyrwyr.
Gweithio tra'n astudio
Mae TARGETconnect yn hysbysebu swyddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol i raddedigion, cyfleodd profiad gwaith ac interniaethau a chyfleon gwirfoddol.
Adroddiad Cyflawniad Addysg Uwch (HEAR)
Ceir pob myfyriwr sy’n graddio adroddiad terfynol HEAR. Mae’r adroddiad yn rhestru holl gyflawniadau academaidd ac allgyrsiol fel bod darpar gyflogwyr yn ymwybodol o’r sgiliau ychwanegol rydych wedi eu hennill tra yn y Brifysgol.