Ynglŷn â’r Cwrs Yma
“Bydd y rhaglen hon yn creu meddygon gwych oherwydd eu bod yn cael eu gwneud i deimlo'n rhan o dîm” Dr Esyllt Llwyd, Tiwtor Meddygaeth Teulu
O fis Medi 2024, bydd Prifysgol Bangor yn lansio ei rhaglen feddygaeth gyntaf lle bydd modd i fyfyrwyr gwblhau eu rhaglen radd feddygol lawn yng ngogledd Cymru.
Bydd ein rhaglen newydd yn gweithio mewn cydweithrediad agos â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a darparwyr Gofal Cychwynnol ar draws Gogledd Cymru, a bydd yn disodli cwricwlwm presennol C21 Gogledd Cymru Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Cyflwynwyd newidiadau arloesol i gwricwlwm C21 Gogledd Cymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd a geir yn ein lleoliadau clinigol amrywiol, yn rhai gwledig a threfol. Rhoddir sylw ac ystyriaeth i’r Gymraeg ac i gyd-destun diwylliannol cymunedau gogledd Cymru er mwyn helpu i’ch paratoi ar gyfer eich ymarfer meddygol yn y dyfodol.
Er mai dim ond newydd ei sefydlu mae ein hysgol feddygol annibynnol, mae gennym hanes llwyddiannus o hyfforddi myfyrwyr meddygaeth. Ers 2018 rydym wedi bod yn cyflwyno rhaglen Meddygaeth C21 Gogledd Cymru Prifysgol Caerdydd yn llwyddiannus ar gyfer myfyrwyr ym mlwyddyn 3, ers 2019 i fyfyrwyr ym mlynyddoedd 2 i 5 ar y llwybr mynediad i raddedigion, ac ers 2020 pan mae myfyrwyr blwyddyn 1 Caerdydd wedi bod yn trosglwyddo i Fangor i gwblhau eu rhaglen yng ngogledd Cymru. Ym Mhrifysgol Caerdydd ar 17 Gorffennaf 2023, graddiodd y garfan gyntaf o fyfyrwyr meddygaeth a astudiodd yng Ngogledd Cymru. Yn seiliedig ar y sylfaen gref hon, bydd ein hysgol feddygol newydd yn adeiladu ar lwyddiant rhaglen C21 Gogledd Cymru wrth ddarparu addysg feddygol o’r radd flaenaf.
Mae cwricwlwm Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wedi'i ddilysu'n academaidd gan uned Ansawdd a Dilysu Prifysgol Bangor trwy broses sy'n cynnwys arbenigedd addysg feddygol allanol. Mae holl ysgolion meddygol y Deyrnas Unedig yn cael eu hadolygu’n rheolaidd gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, y rheolydd proffesiynol ar gyfer Meddygaeth sy’n gyfrifol am sicrhau safonau uchel ar gyfer addysg feddygol fel y disgrifir yn eu dogfen “Hyrwyddo rhagoriaeth: safonau ar gyfer addysg a hyfforddiant meddygol”. Yn ogystal, bydd y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn craffu’n drwyadl ar bob ysgol feddygol newydd. Mae Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn symud ymlaen drwy broses gymeradwyo'r Cyngor Meddygol Cyffredinol i ddyfarnu Cymhwyster Meddygol Sylfaenol. Bydd achrediad y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi ei gwblhau unwaith fydd y myfyrwyr cyntaf yn graddio. Er mwyn amddiffyn myfyrwyr, rhaid i ysgolion meddygol newydd weithio gyda phartner ‘wrth gefn’, sef ysgol feddygol sefydledig sy’n gallu darparu cefnogaeth ac sy’n fodlon, os nad yw safonau ansawdd y Cyngor Meddygol Cyffredinol wedi eu cyrraedd am unrhyw reswm, i fyfyrwyr drosglwyddo a graddio o’r ysgol wrth gefn. Yr ysgol bartner wrth gefn ar gyfer Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yw Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd. Mae’r dyddiad dechrau rhaglen feddygaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn 2024 wedi’i gytuno gyda’r Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Byddwch yn profi amgylchedd dysgu cyfoethog, a rhagor o bwyslais ar ddysgu mewn Gofal Cychwynnol ac yng nghanol y gymuned yn unol â chynllun Llywodraeth Cymru, 'Dyfodol Iachach i Gymru'.
Mae’r cwricwlwm yn canolbwyntio ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiol leoliadau clinigol mewn amgylcheddau amrywiol gan gynnwys:
- blwyddyn gyfan mewn Meddygfa
- ysbytai addysgu mawr
- meddyginiaeth y mynydd
- amgylcheddau gwledig
Byddwn yn eich hyfforddi i fod yn feddyg rhagorol i Gymru a thu hwnt trwy addysgu o ansawdd uchel, a phrofiad dysgu ysbrydoledig yn seiliedig ar fwy o gyswllt clinigol ac addysgu clinigol arobryn ym Mwrdd Iechyd y Brifysgol. Byddwch yn graddio fel clinigydd medrus sy'n deall pobl a'r amgylchedd yr ydym yn byw ynddo.
Pam dewis Prifysgol Bangor ar gyfer y cwrs?
- Rydym yn gwerthfawrogi bod dechrau rhaglen Meddygaeth yn gam mawr i bob un o’n myfyrwyr newydd, ac yn cydnabod mai dyma’r rhaglen academaidd hiraf sydd ac un o’r mwyaf heriol.
- Rydym yn ymfalchïo mewn darparu cefnogaeth bersonol i’n holl fyfyrwyr, ac o’r diwrnod cyntaf byddwch yn cael Tiwtor Personol, sef aelod o staff academaidd a fydd yn gweithredu fel eich mentor trwy gydol y rhaglen gyfan.
- Mae'r brifysgol yn rhoi blaenoriaeth uchel i ofalu am fyfyrwyr a'u cefnogi fel eu bod yn gallu ffynnu ym mhob agwedd o’u hamser ym Mangor, felly o’r Wythnos Groeso ymlaen, byddwch yn cael cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sydd ei angen o ran iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd.
- Ymhlith y gwasanaethau a gynigir mae cyngor ariannol, cefnogaeth o ran iechyd a lles, cyngor ynglŷn â thai preifat, cefnogaeth dyslecsia a chwnsela a sgiliau astudio.
- Mae gan y Brifysgol gynllun arweinwyr cyfoed ac mae myfyrwyr meddygaeth hŷn yr ysgol ei hun yn cael eu paru â myfyrwyr iau fel y gallant rannu eu profiad.
- Mae ein dull, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, yn cynnwys addysgu a dysgu mewn grwpiau bach felly byddwch yn elwa o gael mwy o amser cyswllt gyda'ch darlithwyr.
- Mae cwricwlwm blwyddyn 1 a 2 yn seiliedig ar addysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys Dysgu ar sail Achosion sy’n ffordd o gysylltu eich dysgu gwyddonol gyda straeon cleifion go iawn ac mae’n gosod y claf wrth wraidd eich astudiaethau.
- Wrth Ddysgu ar sail Achosion cewch eich rhoi mewn grwpiau o rhwng 10 a 12 o fyfyrwyr gyda hwylusydd academaidd hyfforddedig a fydd yn tywys y myfyrwyr trwy bob achos.
- Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu ond ychydig iawn o ddarlithoedd traddodiadol sydd gennym er ein bod yn cynnal 'sesiynau llawn' (sef sesiynau rhyngweithiol lle mae myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan wyddonwyr arbenigol neu glinigwyr).
- Hefyd ceir seminarau arbenigol, tiwtorialau a gweithdai rhyngweithiol, sgiliau ymarferol, efelychu a hyfforddiant rhithrealiti.
- Rydym yn annog dysgu hunan-gyfeiriedig gyda chefnogaeth i’ch helpu i ddatblygu eich sgiliau datrys problemau a’ch sgiliau cyfathrebu eich hun, sef dwy set o sgiliau sy’n hanfodol i ddarpar feddygon.
- Mae defnyddio dulliau amrywiol o addysgu, dysgu ac asesu yn eich helpu i ehangu eich arddull dysgu eich hun ac yn hyrwyddo dysgu gydol oes, a fydd yn rhan hanfodol o'ch gyrfa fel meddyg yn y dyfodol.
- Caiff anatomi ei addysgu trwy fanteisio ar dechnoleg fodern, gan gynnwys bwrdd dyrannu electronig 'Anatomage', sgriniau Fideo 3D di-wydr ac apiau symudol.
- Mae ystafell addysgu Anatomi bwrpasol gyda modelau plastig tra chywir o holl gydrannau'r corff
- Gellir ymarfer sgiliau ac ymyriadau clinigol ymarferol yn electronig ac mewn efelychwyr gan gynnwys ystafell rhithrealiti.
- Mae sesiynau Gloywi Anatomi a sesiynau Dysgu Hunan-gyfeiriedig ar gael ar ddechrau lleoliad arbenigol Blwyddyn 4 a 5.
- Rydym yn darparu cyfleoedd o ran addysg ryngbroffesiynol i adlewyrchu'r byd gwaith clinigol lle bydd ystod eang o weithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cydweithio er budd cleifion o fewn timau clinigol.
- "Mae Addysg Ryngbroffesiynol yn digwydd pan fydd dau neu ragor o weithwyr proffesiynol yn dysgu oddi wrth ei gilydd ac am ei gilydd i wella cydweithredu ac ansawdd gofal.” Y Ganolfan er Hyrwyddo Addysg Ryngbroffesiynol (CAIPE), 2002.
- Rydym yn frwd dros hyrwyddo a chyflwyno addysg ryngbroffesiynol a bydd nifer o gyfleoedd i wneud hynny trwy gydol eich amser ym Mangor.
- Mae llawer o gyfleoedd yn ystod Clerciaeth Integredig Hydredol Blwyddyn 3 ac ar draws lleoliadau Blwyddyn 4 a 5 i gael profiad o feddygaeth anghysbell, wledig a mynyddig a hynny o fewn prydferthwch Gogledd Cymru.
- Mae’r rhaglen yn cynnwys diwrnod unigryw i efelychu Iechyd Gwledig 'yn y maes' a ddarperir mewn partneriaeth â gwasanaethau gwirfoddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Achub Mynydd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, a staff arbenigol y Brifysgol a’r Bwrdd Iechyd.
- Rydym yn eich paratoi ar gyfer sesiynau Cyswllt Cynnar â Chleifion trwy ddysgu sgiliau clinigol sylfaenol yn ein Canolfan Hyfforddiant Efelychu a Sgiliau a Rhithrealiti, lle ceir cyfleusterau o'r radd flaenaf.
- Byddwch hefyd yn dysgu gwrando'n astud a siarad â chleifion trwy ddefnyddio actorion proffesiynol a chleifion-wirfoddolwyr sy’n arbenigwyr, a chaiff yr addysgu ei gyflwyno'n ddwyieithog.
- Mae sesiynau cyswllt cynnar â chleifion yn helpu i’ch ysbrydoli wrth ddysgu am wyddoniaeth feddygol yng nghamau cynnar y rhaglen.
- Cyn hynny cewch sesiynau paratoi a gaiff eu cynnal mewn cyfleusterau meddygol a ddewisir yn ofalus, fel nad yw ein myfyrwyr yn cael eu llethu gan eu profiad clinigol cyntaf.
- Mae cyswllt cynnar â chleifion yn cynyddu dros ddwy flynedd gyntaf y rhaglen, gan amlygu ein myfyrwyr i amgylcheddau clinigol cynyddol gymhleth.
- Mae ein Canolfan Efelychu a Sgiliau yn cynnwys efelychwyr SIMman 3G a SMOTS sef cyfleusterau recordio a dangos fideo.
- Bydd pob myfyriwr yn derbyn hyfforddiant ac yn cael ardystiad mewn technegau Cynnal Bywyd a diogelwch cleifion cyn ymgymryd â hyfforddiant clinigol.
- Mae’r ystafell rhithrealiti yn darparu hyfforddiant senarios trochol sy'n galluogi myfyrwyr i ddod yn gymwys ag ymdrin â phroblemau clinigol sydd bron byth yn digwydd ond y mae angen gallu eu hadnabod a gweithredu yn eu cylch ar unwaith.
- Bydd myfyrwyr bydwreigiaeth a myfyrwyr Obstetreg Blwyddyn 4 yn ymgymryd â hyfforddiant addysg ryngbroffesiynol gyda'i gilydd.
- Ym Mlwyddyn 3 byddwch yn ymgymryd â Chlerciaeth Integredig Hydredol, sef y lleoliad clinigol cyntaf sy’n flwyddyn o hyd.
- Bydd y Glerciaeth Integredig Hydredol yn cael ei chynnal yn bennaf mewn practis meddyg teulu dan oruchwyliaeth tiwtor meddygaeth teulu arbenigol, a bydd cyfle i ddilyn taith eich cleifion drwy ofal cychwynnol a thrwy gyfleusterau’r ysbyty i gael ymchwiliadau a thriniaethau.
- Byddwch yn ennill profiad o waith aelodau eraill o'r tîm gofal iechyd cychwynnol amlddisgyblaethol gan gynnwys Bydwragedd Cymunedol, Nyrsys Seiciatrig Cymunedol, Ymwelwyr Iechyd, Gweithwyr Cymdeithasol ac eraill. Ochr yn ochr â hyn, byddwch hefyd yn ennill profiad mewn Dermatoleg, Clust-Trwyn-Gwddf, Rhiwmatoleg a Meddygaeth Gyffredinol.
- Mae Clerciaethau Integredig Hydredol yn fath cymharol newydd o addysg feddygol sydd ar hyn o bryd yn cael ei werthuso ledled y byd lle mae myfyrwyr yn dilyn amrywiaeth o gleifion am gyfnodau hwy ac yn datblygu perthynas agos â mentor sy'n arwain y dysgu.
- Gwelwyd bod lleoliadau hydredol yn gwella dealltwriaeth myfyrwyr o bwysigrwydd canolbwyntio ar y claf, persbectif bywyd cyfan, deinameg y teulu a chyd-destun cymdeithasol symptomau’r claf.
- Bydd y profiad o wneud Clerciaeth Integredig Hydredol yn eich helpu i ddatblygu dealltwriaeth fwy cyfannol am ofal cleifion, gan wella eich sgiliau clinigol, eich gallu i gyfathrebu a’ch empathi.
- Byddwch yn gweld ystod eang o gyflyrau, yn ymgynghori’n uniongyrchol â chleifion, ac yn derbyn addysgu ar sail 1:1 gan eich tiwtor meddygaeth teulu, wedi'i ategu gan ddiwrnod o addysgu ar y campws bob wythnos ynghyd â chyfle i ymgyfarwyddo ag ymarfer ysbyty.
- Bydd treulio eich blwyddyn gyntaf yn bennaf ym maes Meddygaeth Teulu yn baratoad ardderchog ar gyfer y lleoliadau arbenigol mewn ysbyty sy’n dilyn ym mlynyddoedd 4 a 5.
- Mae'r Ysgol yn aelod o Gonsortiwm Rhyngwladol Clerciaethau Integredig.
- Bydd y lleoliadau ysbyty yn digwydd ar draws y tri ysbyty acíwt ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Ysbyty Gwynedd (Bangor), Ysbyty Glan Clwyd (Bodelwyddan) ac Ysbyty Maelor Wrecsam.
- Ar ben hynny ceir profiad hefyd yn rhai o’r 22 o ysbytai Cymunedol ar draws Gogledd Cymru, y mae llawer ohonynt yn gwasanaethu cymunedau bach, anghysbell.
- Mae’r holl brif arbenigeddau sy’n ofynnol ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig ar gael yng Ngogledd Cymru, ond gellir gwneud yr elfen ddewisol yn y flwyddyn olaf yn unrhyw gyfleuster meddygol yn y byd sydd wedi’i gymeradwyo ar gyfer hyfforddiant meddygol israddedig.
- Mae astudio meddygaeth yng Nghymru, sy’n wlad ddwyieithog, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Bydd gallu teimlo’n hyderus wrth drin cleifion sydd â mamiaith wahanol i chi yn eich galluogi i weithio yn unrhyw le yn y byd, a byddwch yn ymgynghori’n aml â chyfieithwyr ar y pryd sy’n gweithio yn y Deyrnas Unedig..
- Fel siaradwr Cymraeg gallwch ddewis bod rhan sylweddol o’ch cwrs, a rhai asesiadau, yn cael eu cynnal trwy gyfrwng y Gymraeg ac efallai y byddwch yn gymwys i wneud cais am Ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd tiwtor personol Cymraeg ei iaith ar
- gael i'r rhai sy'n dewis astudio rhan o'u cwrs yn Gymraeg. Fel rhan o’n hagenda ehangu mynediad, mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn gymwys i sicrhau cynnig cyd-destunol.
- Mae Prifysgol Bangor wedi ymrwymo i gefnogi siaradwyr a dysgwyr Cymraeg ac mae dwyieithrwydd wedi’i wreiddio ym mhob agwedd ar brofiad myfyrwyr. Mae llawer o gyfleoedd i ddechreuwyr pur ddysgu'r iaith, i siaradwyr presennol i fagu hyder neu i siaradwyr Cymraeg rhugl gael mynediad at adnoddau arbenigol.
- Mae Gogledd Cymru yn gartref i nifer sylweddol o siaradwyr Cymraeg ac mae hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith tra byddwch ar leoliad, boed hynny fel dysgwr neu siaradwr rhugl.
Gallwch hefyd astudio:
Cynnwys y Cwrs
Addysgu a Dysgu
Byddwch yn Dysgu ar sail Achosion a fydd yn eich helpu i wneud synnwyr o'ch gwybodaeth a'ch sgiliau newydd. Gan weithio mewn grwpiau bach ar astudiaeth achos neu senario, byddwch yn datblygu atebion dan arweiniad eich hwylusydd. Yn gynnar yn y cwrs bydd y dysgu ar sail achosion yn archwilio'r achosion mwyaf cyffredin y mae meddyg yn eu gweld (e.e. anaf chwaraeon, problemau iechyd meddwl, poen yn yr abdomen ac ati). Gyda phob achos byddwch yn edrych ar yr anatomi, ffisioleg ac agweddau cymdeithasol, yn datblygu sgiliau ymarferol ac yn cael profiad clinigol perthnasol ar leoliadau byr. Bydd y broses hon yn caniatáu ichi ddeall sut mae’r naill yn berthnasol i'r llall, gan roi persbectif cyffredinol i chi.
Chi sy'n gyfrifol am eich dysgu eich hun, gyda chefnogaeth sesiynau llawn a sesiynau mewn grwpiau bach, addysgu yn y ganolfan anatomi, sesiynau ymarferol yn y labordy a lleoliadau clinigol. Sesiwn ryngweithiol yw’r sesiwn lawn lle mae nifer fawr o fyfyrwyr yn derbyn gwybodaeth gan wyddonydd neu feddyg arbenigol. Mae'n gyfle i fyfyrwyr ddysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol a chael dealltwriaeth eang o'r pwnc. Mewn sesiynau i grwpiau bach, lle bydd tua 10 o fyfyrwyr a hwylusydd, mae'r ffocws ar drafod y pynciau a drafodwyd yn sesiynau llawn yr wythnos a’r gwaith darllen cysylltiedig. Mae'r sesiynau hyn yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan mewn trafodaethau rhyngweithiol, rhannu eich dealltwriaeth chi o'r deunydd, gofyn cwestiynau, ac archwilio gwahanol safbwyntiau.
Ar wahân i'r sesiynau strwythuredig hyn, bydd amser penodol ar gyfer dysgu annibynnol ar eich amserlen. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd gennych unrhyw sesiynau ffurfiol wedi'u hamserlennu, a disgwylir i chi gymryd cyfrifoldeb am drefnu eich grwpiau trafod eich hun, cynnal ymchwil yn y llyfrgell a darllen o amgylch pwnc.
Y Cwricwlwm
I ddechrau, byddwch yn dysgu sut mae gwyddoniaeth sylfaenol yn cyd-fynd â lleoliad clinigol, gan eich paratoi ar gyfer eich cyswllt cynnar â chleifion. Byddwch hefyd yn dysgu sgiliau hanfodol - sut i gyfathrebu'n effeithiol, sut i berfformio triniaethau ymarferol a sut i gael gwybodaeth berthnasol gan bobl, llyfrau ac adnoddau ar-lein - a byddwch yn ymarfer gwneud y pethau hyn yn eich lleoliadau clinigol. Byddwch yn dysgu sut i gymhwyso'r hyn rydych wedi'i ddysgu i bobl go iawn ac yn dysgu sut i weithio fel gweithiwr proffesiynol mewn tîm meddygol.
Byddwch yn parhau i gronni gwybodaeth ac ymarfer eich sgiliau trwy gydol y cwrs, gan y byddwch yn dysgu beth sy'n normal ac yn annormal mewn gwahanol senarios meddygol. Byddwch yn cael llawer o gyfleoedd i ddewis beth i ddysgu amdano, pan fyddwch yn edrych yn fanylach ar bynciau penodol ac yn dysgu ymchwilio ac ysgrifennu mewn ffordd ysgolheigaidd.
Y flaenoriaeth ym Mlwyddyn 1 yw rhoi sylfaen gref i chi yn y gwyddorau sylfaenol, sgiliau clinigol, cyfathrebu a phroffesiynoldeb.
Dyma ddadansoddiad o'r elfennau allweddol:
Y 12 Wythnos Gyntaf (Rhagarweiniad):
- Bydd yr wythnosau rhagarweiniol yn canolbwyntio ar ddatblygu gwybodaeth graidd mewn anatomeg, biocemeg, ffisioleg, bioleg y celloedd a’r moleciwlau, imiwnoleg, microbioleg, a phatholeg.
- Bydd pwyslais ar ddatblygu sgiliau cyfathrebu sylfaenol, sgiliau clinigol, a'r proffesiynoldeb sy'n ofynnol gan feddyg.
Gweddill Blwyddyn 1:
Bydd gweddill y flwyddyn yn integreiddio'r gwyddorau sylfaenol â chyflyrau clinigol cyffredin trwy gyfres o senarios clinigol.
- Dysgu mynd i'r afael â phroblemau meddygol o'r egwyddorion sylfaenol a datblygu sgiliau rhesymu gwyddonol.
- Yn gefn i sesiynau mewn grwpiau bach, darlithoedd, a seminarau bydd adnoddau gwyddorau bywyd a sgiliau clinigol.
- Ymwneud yn rheolaidd â chleifion yn yr ysbytai, meddygfeydd teulu, a gwasanaethau eraill yn y gymuned yng Ngogledd Cymru
- Bydd cyfleoedd cynnar i ennill profiad clinigol a chwrdd â chleifion sy'n briodol i'r achos a staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol. Bydd hynny’n ategu eich dysgu a hynny’n seiliedig ar achosion.
- Dilyniant o’r strwythur a’r swyddogaeth arferol i ymgyflwyniadau clinigol mwy cymhleth sy’n canolbwyntio ar strwythur a swyddogaeth annormal.
At ei gilydd, nod y cwricwlwm yw darparu addysg gynhwysfawr sy'n cyfuno gwybodaeth ddamcaniaethol â phrofiad clinigol ymarferol. Byddwch yn dysgu am sylfeini gwyddorau meddygol ac yn datblygu'r sgiliau angenrheidiol i ddod yn feddygon cymwys. Mae'r rhaglen hefyd yn pwysleisio’r angen dros gysylltiad cynnar â chleifion i wella’r dysgu a dealltwriaeth o senarios meddygol y byd go iawn.
Ym Mlwyddyn 2, byddwch yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofiadau dysgu amrywiol, gan gynnwys:
1. Dysgu yn y Gymuned: Mae'r rhaglen Dysgu Clinigol Cymunedol yn pwysleisio pa mor bwysig yw deall cleifion yn eu cymunedau eu hunain. Mae'r rhaglen yn adeiladu ar y dull Dysgu Seiliedig ar Achosion ac mae’n cynnwys dysgu sy'n seiliedig ar dasgau.
Byddwch ar leoliadau lle byddwch yn rhyngweithio â chleifion, a fydd yn fodd i chi ddatblygu portffolio o brofiadau dysgu clinigol. Nod y rhaglen yw eich helpu chi gysylltu â phobl go iawn, datblygu agweddau proffesiynol, deall darpariaeth gwasanaeth iechyd, a meithrin sgiliau arwain. Uchafbwynt nodedig yw'r Efelychiad Iechyd Cefn Gwlad, lle byddwch yn agored i heriau darparu gofal iechyd mewn ardaloedd gwledig o’u cymharu ag ardaloedd trefol. Byddwch yn ymarfer sgiliau clinigol a chyfathrebu wrth ymateb i argyfwng efelychiedig ochr yn ochr â meddygon a pharafeddygon.
2. Mae'r rhaglen Rhannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn cynnig pedwar cyfle dysgu gwahanol:
- Dau Broject trwy Brofiad: Mae'r projectau hyn yn eich cyflwyno i amrywiol leoliadau a phynciau. Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil ar lefel uwch. Bydd rhai projectau hefyd yn caniatáu ichi archwilio meysydd y tu hwnt i feddygaeth draddodiadol, megis gwaith cymdeithasol, meddygaeth gyflenwol, a phroffesiynau sy'n gysylltiedig â meddygaeth.
- Erthygl Newyddiadurol: Mae'r erthygl newyddiadurol yn eich galluogi i arddangos sgiliau academaidd critigol, gan gynnwys chwilio’r llenyddiaeth a gwerthuso deunydd gwyddonol cymhleth sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Cewch eich herio i gyfleu eich neges mewn modd deniadol ac ysgogol.
- Cynhadledd Blwyddyn 2/Blwyddyn 5: Dyma gynhadledd unigryw sy’n dod â myfyrwyr Blwyddyn 2 a Blwyddyn 5 ynghyd. Mae'n cynnwys sesiynau llawn a’r prif siaradwyr gwadd yn ymdrin â themâu amrywiol sy'n ymwneud â ffynnu a goroesi mewn ysgol feddygol a moeseg feddygol. Bydd grwpiau bach o fyfyrwyr Blwyddyn 2 yn paratoi cyflwyniadau poster sy’n seiliedig ar eu project profiad cyntaf o’r Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC), a bydd myfyrwyr Blwyddyn 5 yn rhoi adborth ac yn gweithredu fel beirniaid ar gyfer y posteri. Mae'r gynhadledd yn gyfle gwych i fynychu a chyflwyno mewn cynhadledd wyddonol/feddygol ac ymwneud â chyfoedion hŷn.
Ym Mlwyddyn 3 eich cwrs byddwch yn ymgymryd a Clerciaeth Integredig Hydredol (LIC). Yn ystod y lleoliad clinigol hwn byddwch yn gweithio o fewn y gymuned a phractis Meddyg Teulu am flwyddyn gyfan. Bydd hynny’n eich galluogi i ddilyn taith lawn y claf ym maes gofal sylfaenol ac eilaidd, a sylwi ar effaith y cyflyrau meddygol a thriniaeth y cyflyrau hynny ar gleifion.
Caiff mwy na 90% o ofal iechyd ei reoli mewn gofal sylfaenol, sy’n golygu y bydd y profiad yn baratoad cadarn at arbenigeddau’r ysbyty ac ar gyfer lleoliad arall mewn Meddygfa Deulu yn y flwyddyn olaf.
Lleoliad mewn gofal sylfaenol yw hwn yn bennaf ac mae o werth i'r rhai sy'n gweld eu dyfodol mewn Meddygaeth Deulu, ac i'r rhai sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn arbenigeddau eraill. Mae'n galluogi myfyrwyr i weld cleifion yn ymgyflwyno gyda chyflyrau eang, a rhoi sylfaen wybodaeth ehangach o bosibl na’r cyrsiau modiwlaidd traddodiadol sy'n caniatáu iddynt baratoi'n dda at eu blynyddoedd F1 ac F2.
Derbynnir yn gyffredinol bod gan fyfyrwyr sy’n dilyn LIC feddwl clinigol uwch erbyn diwedd y cyfnod hwn, oherwydd y berthynas un i un a gânt gyda’r tiwtor am y flwyddyn academaidd gyfan - rhywbeth na fyddant yn ei ennill ar unrhyw adeg arall ar gwrs meddygol.
Mae eu canlyniadau academaidd mewn profion cynnydd ac arholiadau yn y rhai sy'n dilyn LIC cystal â'r rhai a ddilynodd y cyrsiau traddodiadol.
Mae LIC yn hyrwyddo dull sy'n canolbwyntio mwy ar y claf, ac mae’n eich annog i ddod yn eiriolwr dros y cleifion. Mae hefyd yn fodd i chi brofi amrywiaeth o leoliadau a thriniaethau clinigol sylfaenol ac eilaidd, a rhoi gwell ymwybyddiaeth i chi o'r system gofal iechyd.
Bydd y lleoliad LIC yng Ngogledd Cymru. Cewch eich lleoli mewn meddygfa, byddwch yn dod yn rhan o dîm gofal iechyd amlddisgyblaethol, gan ddatblygu sgiliau gwych mewn meithrin tîm a fydd yn gefn i chi yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Ym Mlwyddyn 4, byddwch yn canolbwyntio ar achosion cynyddol arbenigol ac yn cymhwyso’r sgiliau craidd a ddysgoch ym Mlwyddyn 3 mewn gwahanol sefyllfaoedd clinigol. Rhennir y flwyddyn yn gyfleoedd dysgu lluosog, gan gynnwys lleoliadau clinigol arbenigol a’r Gydran a Ddewisir gan Fyfyrwyr.
Lleoliad Merched, Plant a Theulu
Nod y lleoliad hwn yw datblygu eich sgiliau asesu a gofalu am ferched, plant a theuluoedd. Byddwch yn treulio amser gydag obstetryddion a phaediatregwyr ledled Cymru. Cewch gipolwg ar gydweithio amlddisgyblaethol mewn sefyllfaoedd gofal cymunedol ac eilaidd. Bydd y ffocws ar y claf, a chewch gyfle i ryngweithio â merched, plant a rhieni sy'n defnyddio'r system gofal iechyd.
Seiciatreg, Niwrowyddoniaeth Glinigol ac Offthalmoleg
Cewch brofi ymarfer mwy arbenigol mewn niwrowyddoniaeth glinigol a byddwch yn deall sut mae sylfaen gref mewn sgiliau generig yn gefn i resymu clinigol a diagnostig. Cewch gyfle hefyd i arsylwi cleifion ac arnynt salwch seiciatrig ac ennill dealltwriaeth o anhwylderau seiciatrig yn y boblogaeth. Yn ogystal, byddwch yn treulio wythnos benodol mewn offthalmoleg, i ehangu eich gwybodaeth o batholeg sy'n gysylltiedig â'r llygaid, sgiliau archwilio, a rheoli cleifion.
Drws Blaen yr Ysbyty
Bydd y lleoliad yma fydd yn fodd i leoli myfyrwyr yn yr Adran Achosion Brys yn un o'r tri Ysbyty Cyffredinol yng Ngogledd Cymru. Cânt brofiad o ymdrin ag achosion brys acíwt, trawma (Damweiniau ffordd/damweiniau ar y mynydd ac yn y blaen) yn ogystal â dilyn y claf trwy wahanol gamau eu hymchwiliadau a’u triniaeth yn yr ysbyty e.e. Uned Asesu Llawfeddygol a Meddygol, ITU a’r Adran Anesthetig.
Cynlluniwyd Blwyddyn 5 i integreiddio a pharatoi myfyrwyr meddygol ar gyfer y Rhaglen Sylfaen a'ch gyrfaoedd at y dyfodol fel meddygon yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu astudiaethau ôl-radd pellach. Dyma nodweddion a chydrannau allweddol y flwyddyn:
- Mwy o Gyfrifoldeb dros Ofal Cleifion: Trwy gydol y flwyddyn olaf o astudio, caiff y myfyrwyr eu hintegreiddio’n raddol ac yn gynyddol mewn timau clinigol sydd â gofal am ofal cleifion.
- Asesu a Rheoli Ymgyflwyniadau Clinigol: Mae ffocws y flwyddyn olaf ar asesu a rheoli ymgyflwyniadau clinigol acíwt a chronig. Bydd y myfyrwyr yn ennill cyfrifoldebau cynyddol yn hynny o beth a hwythau’n symud ymlaen trwy'r flwyddyn.
-
Lleoliadau Clinigol: Bydd lleoliad clinigol wyth wythnos mewn ysbyty. O dan oruchwyliaeth, disgwylir i fyfyrwyr gyfrannu at ofal cleifion yn ystod y lleoliadau hyn.
-
Dysgu Seiliedig ar Waith: Bydd y rhan fwyaf o ddysgu’r flwyddyn olaf yn digwydd yn y gweithle, a fydd yn galluogi’r myfyrwyr i ennill profiad ymarferol. Yn ogystal, bydd sesiynau mewn canolfan sgiliau efelychu a sesiynau grŵp bach i fireinio sgiliau meddwl clinigol a gwneud penderfyniadau.
-
Bydd bloc 8 wythnos o addysg feddygol ac arweinyddiaeth feddygol unigryw yn y brifysgol i roi sgiliau ychwanegol i chi a fydd yn eich cefnogi wrth i chi drosglwyddo i hyfforddiant Sylfaen.
- Dewis y Myfyriwr: Ar ôl y lleoliadau clinigol, bydd y myfyrwyr yn cael cyfnod dewisol o wyth wythnos lle cânt ddewis astudio’r agweddau ar Feddygaeth sydd o ddiddordeb iddynt. Gall hynny ddigwydd bron unrhyw le yn y byd.
- Uwch Gynorthwyydd Myfyrwyr: Swydd Uwch Gynorthwyydd Myfyrwyr am saith wythnos, a’r myfyrwyr yn gweithio fel rhan o dîm clinigol ac yn rheoli cleifion yn uniongyrchol o dan oruchwyliaeth. Mae'r profiad hwnnw’n digwydd yn yr ysbyty lle mae myfyrwyr yn ymgymryd â'u swydd sylfaen gyntaf os yng Nghymru neu yng Ngogledd Cymru os yw'r swydd sylfaen yn rhywle arall.
Lleoliadau
Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar feddygaeth gymunedol trwy amrywiol brofiadau. Cewch gyfle i ymgymryd â lleoliadau mewn amrywiol leoliadau gan gynnwys cyrchfannau gwyliau arfordirol a thymhorol, trefi bach a phentrefi gwledig, ardaloedd maestrefol, dinasoedd bywiog, ardaloedd o amddifadedd, cymunedau ôl-ddiwydiannol, ac ysbytai ledled Gogledd Cymru. Bydd yr amrywiol leoliadau’n gyfle i chi archwilio gwahanol arbenigeddau a bydd yn sicrhau eich bod yn cael paratoad da i ymdrin ag amrywiol gleifion a senarios clinigol, a wnaiff feithrin eich gallu i addasu a’ch gwytnwch. Dyma briodweddau sy’n hanfodol at yrfa mewn meddygaeth.
Mae lleoliadau’n rhan bwysig o’r dysgu. O Flwyddyn 1 ymlaen maent yn fodd i chi roi'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu yn ei gyd-destun a sicrhau eich bod chi'n datblygu dull gofal iechyd sy'n canolbwyntio ar y claf. Cewch gyfle i ymgysylltu â chleifion o ddechrau eich astudiaethau. Mae hynny’n hanfodol ar gyfer darparu gofal effeithiol ac empathetig i unigolion o gefndiroedd amrywiol.
Gan bydd eich lleoliadau mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws Gogledd Cymru, efallai bydd eich campws cartref yn newid o'ch trydedd flwyddyn ymlaen i hwyluso teithio i'ch man astudio. Bydd hyn yn cael ei gyfleu i chi yn unol â lle byddwch yn cael eich gosod ar leoliad.
Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr
Mae Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (CSS) yn ffurfio 15% o'r cwricwlwm meddygol israddedig a ddarperir ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (CSS) yn rhoi cyfle i chi ddewis y meysydd rydych chi'n eu hastudio, ac ennill gwybodaeth trwy eich ymdrechion chithau. Mae'r dewis yn cynyddu wrth i'r cwrs fynd rhagddo; e.e. ym Mlwyddyn 1, cewch ddewis pwnc eich adolygiad llenyddiaeth; ond ym Mlwyddyn 5, cewch dreulio 8 wythnos bron yn unrhyw le yn y byd yn dilyn pwnc o'ch dewis. Mae’r Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn ategu addysgu craidd BMBS, o ran cyflwyno sgiliau ymchwil ac annog meddwl dadansoddol a beirniadol. Mae Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC) yn cynnwys modiwlau sy’n annibynnol i raddau helaeth o fewn blociau amser penodol. Mae nifer o adrannau prifysgol, gofal cychwynnol, gwasanaethau yn y gymuned a rhai sefydliadau allanol yn cefnogi’r rhaglen Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr (SSC). Cefnogir Lleoliad Detholiadol y Cydrannau a Ddewisir gan Fyfyrwyr yn y flwyddyn olaf gan ganolfannau meddygol a gwyddonol ledled y byd.
Asesiadau
Mae’r asesiadau’n dilyn strwythur anfodiwlaidd, a byddwch yn dysgu cymhwyso gwybodaeth yn hytrach na dysgu ffeithiau yn unig. Er enghraifft, yn hytrach na dysgu am anatomeg a sefyll arholiad ynglŷn ag anatomeg, ac yna dysgu am boen a sefyll arholiad ynglŷn â phoen, byddwch yn dysgu am anatomeg a phoen a sut maent yn berthnasol i'w gilydd mewn bywyd go iawn. Caiff y ddau eu profi yn yr un arholiad, o bosibl yn yr un cwestiwn.
Cewch eich asesu drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio ysgrifennu adfyfyriol, traethodau, cyswllt rheolaidd â meddygon ac academyddion, cwblhau logiau o sgiliau clinigol ac arholiadau ysgrifenedig. Ar gyfer pob un o'r rheini cewch adborth helaeth.
Yn ystod Blynyddoedd 2, 3, 4 byddwch yn sefyll profion cynnydd. Mae'r arholiadau ysgrifenedig, a gynhelir deirgwaith y flwyddyn, yn gerrig milltir pwysig i asesu eich gwybodaeth a monitro cynnydd eich dysgu dros amser. O osod yr un cwestiynau prawf i bob myfyriwr, gallwch feincnodi eich perfformiad o’i gymharu â’ch cyfoedion a gwerthuso eich cryfderau a'ch gwendidau cymharol. Nid yn unig mae'r math hwnnw o asesiad cymharol yn rhoi adborth gwerthfawr, gall hefyd eich cymell i ymdrechu am welliant parhaus.
Cefnogaeth i Astudio
Rydym yn rhoi blaenoriaeth uchel ar ofalu a chefnogi’r myfyrwyr ac rydym mewn sefyllfa dda i wneud hynny oherwydd y grwpiau addysgu llai o faint. Yn ogystal â'r gefnogaeth a gewch gan eich tîm academaidd, mae adran gwasanaethau myfyrwyr y brifysgol yn cynnig cymorth amrywiol i sicrhau eich bod yn ffynnu yn ystod eich amser gyda ni.
Byddwn yn sicrhau y cewch chi gymorth penodol mewn meysydd fel sgiliau astudio, rhifedd a llythrennedd, sgiliau ymchwil a rheoli amser trwy gydol eich astudiaethau. Pan fyddwch yn dechrau eich cwrs, caiff tiwtor personol ei neilltuo i chi a byddwch yn cyfarfod ag ef/â hi yn rheolaidd trwy gydol eich astudiaethau. Byddant yn cynnig arweiniad a chefnogaeth a gallant helpu gydag unrhyw bryderon neu heriau penodol y gallech eu hwynebu, rhoi adborth ar eich cynnydd, a'ch helpu chi gael mynediad at adnoddau ychwanegol fel bo angen.
Gofynion Mynediad
Sylwer:
- nid yw'r rhaglen hon ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol ar hyn o bryd.
- nid ydym yn derbyn ceisiadau gohiriedig.
Cymwysterau Safon Uwch
Cymwysterau Safon Uwch - graddau AAA (neu gyfwerth) yn ofynnol. Rhaid i hyn gynnwys Bioleg a gwyddor ychwanegol o'r rhestr isod:
- Cemeg
- Ffiseg
- Economeg
- Mathemateg / Mathemateg Bellach / Ystadegau
Bydd angen i chi lwyddo yn elfen wyddonol ymarferol y Safon Uwch os yw hynny’n rhan o'r rhaglen astudio.
Lle mae angen graddau AAA (neu gyfwerth) ar gyfer Safon Uwch, rhaid i'r gwyddorau gorfodol fod â gradd A neu uwch. Ni dderbynnir Astudiaethau Cyffredinol a Sgiliau Allweddol. Caiff pynciau ansafonol eraill eu hadolygu fesul achos ac efallai na chânt eu derbyn.
Gellir gwneud cynnig cyd-destunol o AAB i siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf neu’r rhai sy’n bodloni gofynion ein cynnig cyd-destunol. Sylwer: (1) rhaid cael gradd A neu uwch yn y gwyddorau Safon Uwch gorfodol a nodir uchod; (2) os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, rhaid i'ch cais ddangos bod gennych TGAU Cymraeg (Iaith Gyntaf).
Bagloriaeth Ryngwladol
36 i gyd (ac eithrio Theori Gwybodaeth a'r Traethawd Estynedig) gan gynnwys 19 ar Lefel Uwch. Rhaid cynnwys gradd 6 mewn Bioleg a Chemeg. Gellir cymryd Gradd 7 mewn Bioleg neu Gemeg Lefel Sylfaenol yn lle Bioleg neu Gemeg Lefel Uwch os oes gennych radd 6 mewn Mathemateg, Ffiseg neu Ystadegaeth Lefel Uwch hefyd.
Graddedigion gyda gradd Baglor/MSc/PhD: gradd 2.1 neu uwch a 32 yn gyffredinol gyda Graddau 5 gan gynnwys Bioleg a Chemeg.
Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (Lefel 3)
Derbyniwn y cymhwyster hwn yn lle un Safon Uwch, ar y marciau a restrir uchod heb gynnwys unrhyw bynciau penodol.
Irish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
- H1 mewn Bioleg, H1 mewn Cemeg a H2 mewn pedwar pwnc arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gydag o leiaf gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
- Graddedigion gyda gradd 2:1 neu uwch: H2 mewn Bioleg a Chemeg, a H2 mewn pedwar pwnc arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gyda gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
- Graddedigion gydag MSc/PhD: gradd 2:1 neu uwch a H2 mewn Bioleg a Chemeg, H2 mewn 2 arall, H3 mewn 2 arall. Hefyd, 8 Tystysgrif Iau gan gynnwys Mathemateg, Saesneg a Gwyddoniaeth gyda gradd B a gradd O3 mewn Saesneg a Mathemateg yn y Dystysgrif Gadael.
Scottish Highers a Thystysgrifau Gadael Ysgol
- Graddau AAB yn yr Advanced Higher gan gynnwys Bioleg a Chemeg.
- Graddedigion gyda gradd 2.1 neu uwch: graddau BBC – rhaid i ddwy wyddor orfodol fod yn radd B.
- Graddedigion gyda MSc/PhD: gradd 2.1 neu uwch a graddau BCC – gradd B mewn Bioleg.
Bydd cymwysterau ‘National 5’ a ‘Highers’ yn cael eu derbyn yn lle TGAU. Rhaid bodloni gofynion cyfatebol o ran lefel, gradd a phwnc. Ni chaiff pynciau dyblyg eu cyfrif ddwywaith.
Mynediad Graddedig
Os ydych yn ymgeisydd graddedig, rhaid i chi fod wedi cael, neu yn gweithio tuag at radd 2.1 (Anrh.). Rhaid i chi hefyd feddu ar raddau Safon Uwch BBB/ABC (neu gyfwerth) gan gynnwys gofynion pwnc ac yn achos ABC, ni all y gwyddorau gorfodol fod ar radd C. Rhaid i chi hefyd fodloni isafswm gofynion o ran TGAU.
Os ydych wedi cwblhau MSc/PhD, y gofyniad Safon Uwch lleiaf yw BBC (neu gyfwerth) gan gynnwys gofynion pwnc gyda gwyddorau gorfodol ar radd B neu uwch.
Gofynion Mynediad Ychwanegol
TGAU:
- Saesneg Iaith neu Gymraeg Iaith gradd B/6 a,
- Gwyddoniaeth Ddwbl graddau BB/66 (neu raddau B/6 mewn Bioleg a Chemeg) a,
- Mathemateg gradd B/6 a,
- Pedwar TGAU arall gyda gradd B/6
Rhaid i chi hefyd ddangos ymwybyddiaeth o system gofal iechyd y Deyrnas Unedig a natur yr hyfforddiant meddygol yn eich datganiad personol. Os ydych yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, gwnewch hynny’n glir yn eich datganiad personol.
Sylwer: Nid ydym yn derbyn BTEC na Lefelau T ar y rhaglen.
Nid ydym ychwaith yn derbyn Meddwl yn Feirniadol, Astudiaethau Cyffredinol, Astudiaethau Dinasyddiaeth, neu bynciau eraill tebyg.
Ailsefyll cymwysterau
Dim ond o fewn 12 mis i sefyll yr arholiadau gwreiddiol y byddwn yn derbyn ailsefyll Lefel 2 (e.e. TGAU). Rhaid cwblhau'r rhain cyn gwneud cais. Yr eithriad i hyn yw Saesneg Iaith lle nad oes unrhyw derfyn amser ar gyfer ailsefyll, ond mae'n rhaid ei gynnwys fel ‘wedi'i gyflawni’ (achieved) neu’n ‘aros am ganlyniad’ (pending) ar y ffurflen gais.
Nid ydym yn derbyn ailsefyll Lefel 3 (e.e. Safon Uwch). Fodd bynnag, dylid nodi nad yw arholiadau sy’n cael eu sefyll ar ôl cael graddau a aseswyd gan ganolfan yn cael eu hystyried gennym fel ailsefyll.
Ystyrir achosion o ailsefyll unedau modiwl Safon Uwch ar yr amod nad yw'r arholiad terfynol eisoes wedi'i gynnal a bod gradd wedi'i dyfarnu.
Derbyniadau Cyd-destunol
Rydym yn ystyried eich data cyd-destunol yn ofalus (yr amgylchiadau y buoch yn astudio ynddynt) pan fyddwch yn ymgeisio. Byddwn yn ystyried hynny yn y cynigion a wneir, a all fod yn is na'r hyn a hysbysebwyd. Ceir rhagor o fanylion am gynigion cyd-destunol yma.
Gwneud Cais
Rhaid cyflwyno cais cyflawn i UCAS erbyn y dyddiad cau. Efallai na fyddwn yn ystyried gwybodaeth atodol a dderbynnir gan y Brifysgol ar ôl y dyddiad cau hwn.
Prawf Derbyn
Rhaid i chi sefyll prawf UCAT cyn cyflwyno'ch cais. Rhaid i chi sefyll yr UCAT ym mlwyddyn y cais. Nid oes gennym sgôr trothwy isaf; ond, byddwn yn defnyddio sgoriau UCAT fel rhan o'r broses ddethol.
Cyfweliadau
Os cewch eich dewis, cewch eich gwahodd i gyfweliad. Rydym yn defnyddio'r dull mini gyfweliadau lluosog, sef cyfres o gyfweliadau byr, wedi'u hamseru'n ofalus, un ar ôl y llall. Rhaid i bob ymgeisydd ddod i gyfweliad os gwahoddir ef.
Os yw ymgeisydd wedi llwyddo ac wedi cael gwahoddiad i ddod i gyfweliad, bydd dyddiad ffug yn cael ei gyhoeddi ar UCAS. Mae hyn yn ofyniad gan UCAS ond NID dyna fydd dyddiad eich cyfweliad. Bydd y cynnig yn nodi y dylech ddiystyru’r dyddiad hwn ac yn dweud y byddwn yn cysylltu â chi trwy e-bost yn fuan.
Dylai ymgeiswyr gael e-bost y diwrnod canlynol yn uniongyrchol gan Brifysgol Bangor yn eu gwahodd i ddewis amser i’w cyfweliad. Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau eu bod yn edrych ar eu negeseuon, gan gynnwys y ffolder sothach, yn rheolaidd ac yn trefnu amser i’w cyfweliad. Os nad ydych wedi cael e-bost o fewn 48 awr i dderbyn y gwahoddiad trwy UCAS, rhaid i ymgeiswyr anfon e-bost i derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk. Os na fyddwch yn cysylltu a/neu'n trefnu eich slot cyn y dyddiad cau, ni fyddwn yn gallu gwneud trefniadau eraill.
Amodau ymrestru
Cyn dechrau’r cwrs, bydd angen gwiriad iechyd ar bob ymgeisydd llwyddiannus, gan gynnwys sgrinio am firysau a gludir yn y gwaed a thwbercwlosis, gan ein Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol. Os nad ydych yn imiwn i Hepatitis B, bydd angen i chi gwblhau rhaglen imiwneiddio lawn cyn cymryd rhan mewn gweithdrefnau clinigol. Os oes gennych firws a gludir yn y gwaed neu glefydau heintus eraill ni wnaiff hynny eich rhwystro rhag cwblhau'r cwrs a chofrestru gyda'r Cyngor Meddygol Cyffredinol, ond ni fydd rhai arbenigeddau’n agored i chi yn yr hyfforddiant ac yn eich gyrfa. Os oes gennych broblem gydag iechyd y credwch y gallai effeithio ar eich gallu i astudio neu ymarfer, cysylltwch â ni cyn gwneud cais.
Er nad yw'n orfodol, byddem yn annog pob ymgeisydd i gael eu brechu rhag Covid-19 er mwyn eu hamddiffyn eu hunain a chydweithwyr a chleifion.
Euogfarnau troseddol
Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi gwblhau cais DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) cyn cael eich derbyn ar y cwrs.
Os oes gennych euogfarn droseddol berthnasol, caiff hynny ei nodi yn y gwiriad a gallai effeithio ar eich gallu i gofrestru ar y cwrs. Dylai’r ymgeiswyr hynny sydd ar y rhestr waharddedig fod yn ymwybodol bod gwneud cais am y cwrs hwn yn debygol o gael ei ystyried yn drosedd. Dylai'r rhai sydd ag euogfarnau troseddol nad ydynt ar y rhestr wahardd e-bostio derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk cyn gwneud cais.
Astudiaeth flaenorol o feddygaeth
Mae'n ofynnol i'r rhai sydd wedi astudio rhaglen feddygaeth neu raglen iechyd broffesiynol arall yn flaenorol roi gwybod i ni cyn gwneud cais. Os na wnaethoch gwblhau eich cwrs oherwydd euogfarnau troseddol neu fethiant academaidd dylech anfon e-bost at derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk cyn gwneud cais. Os na wnaethoch gwblhau eich cwrs am resymau iechyd dylech gysylltu â ni cyn gwneud cais.
Gwybodaeth bwysig
- Gall y gofynion mynediad newid o flwyddyn i flwyddyn.
- Dylai pob ymgeisydd fod yn breswylydd parhaol yn y Deyrnas Unedig ar ddiwrnod y cais. Ni fyddwn yn ystyried y rhai sy’n aros am gymeradwyaeth am breswyliad parhaol yn y Deyrnas Unedig.
- Rhaid i bob ymgeisydd fod yn 18 oed ar ddechrau'r cwrs.
- Dim ond am uchafswm o ddau gylch y gall ymgeiswyr wneud cais i Brifysgol Bangor.
- Ni ddylai cymwysterau mynediad lefel 3 yr ymgeisydd fod yn fwy na phum mlwydd oed ar ddechrau'r cwrs. Bydd hyn yn wir oni bai bod yr ymgeisydd wedi parhau mewn addysg mewn maes pwnc perthnasol sy'n gysylltiedig ag iechyd, neu'n gweithio mewn swydd sy'n gysylltiedig â gofal iechyd. Dylai'r cymwysterau fod wedi eu hennill y naill ar ôl y llall ers gadael addysg lefel 3 gyda bylchau cyfyngedig neu ddim bylchau o gwbl. Ni ddylai bylchau rhwng dau bwnc gwyddoniaeth Safon Uwch gwahanol (neu gyfwerth) a restrir ar ein gwefan fod yn fwy na 3 mlynedd. E-bostiwch am eglurhad pellach cyn gwneud cais.
- Ystyrir cymwysterau rhyngwladol fesul achos. E-bostiwch derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk gyda chopïau o'ch cymwysterau cyn gwneud cais.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach am ofynion mynediad, e-bostiwch derbyniadaumeddygaeth@bangor.ac.uk.
Gyrfaoedd
Cafodd y cwrs ei achredu'n broffesiynol gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol, sy'n golygu bod eich gradd yn gymeradwy fel cymhwyster meddygol sylfaenol (PMQ).
Ar ôl graddio byddwch yn dechrau ar raglen sylfaen ddwy flynedd. Ym mlwyddyn un byddwch wedi'ch cofrestru dros dro gyda thrwydded i ymarfer meddygaeth yn y Deyrnas Unedig. Rhoddir cofrestriad llawn ar ôl i chi gwblhau blwyddyn un.
Er mwyn cael mynediad i'r Rhaglen Hyfforddiant Sylfaen, yn ogystal â'ch gradd feddygol bydd gofyn i chi lwyddo mewn arholiadau cenedlaethol gan gynnwys y Prawf Barn Sefyllfaol a'r Asesiad Trwyddedu Meddygol.
Bydd y sgiliau y byddwch yn eu datblygu yn ystod eich astudiaethau yn golygu eich bod mewn sefyllfa dda i ddilyn amrywiol opsiynau yn eich gyrfa gan gynnwys meddyg teulu a meddyg ysbyty, patholegydd fforensig neu rolau ym maes iechyd y cyhoedd.