[0:00] Mae Prifysgol Bangor
[0:00] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Lluniau drôn o Pont Menai gyda Porthaethwy ar un ochr a Bangor ar yr ochr arall.
[0:02] yn gadael i ti
[0:02] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Lluniau drôn o Brif Adeilad y Celfyddydau
[0:03] Greu dy daith ddysgu di
[0:03] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Pedwar myfyriwr yn gweithio mewn llyfrgell.
[0:05] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Sgerbydau anifeiliaid yn Amgueddfa Hanes Natur Prifysgol Bangor
[0:06] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn cynnal ymchwil yn yr Amgueddfa Hanes Natur
[0:08] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn mesur gweithgaredd yr ymennydd
[0:08] Academyddion arbenigol. Darganfyddiadau diweddaraf.
[0:09] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn dal model o ymennydd yn cymharu'r model â delweddau wedi'u sganio o'r ymennydd
[0:11] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cymryd rhan mewn sesiwn llys ymryson
[0:15] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Golygfa o'r Wyddfa a'r mynyddoedd o'i chwmpas trwy ffenestr gron
[0:16] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn cerdded yn y mynyddoedd.
[0:17] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn padlfyrddio ar Lyn Padarn gyda golygfeydd o'r Wyddfa yn y cefndir.
[0:17] Mewn ardal o harddwch naturiol syfrdanol
[0:19] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn chwarae Pêl-droed Americanaidd
[0:19] Creu dy gymuned di
[0:20] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyrwyr yn chwarae Lacrosse
[0:22] Dros 150 o glybiau, cymdeithasau a phrojectau gwirfoddoli
[0:22] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Stamp ar y sgrin yn dweud ‘Aelodaeth am ddim’ yn cyfeirio at aelodaeth am ddim o Glybiau a Chymdeithasau.
[0:22] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn rhedeg gyda phêl rygbi
[0:24] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn chwarae offerynnau llinynnol
[0:26] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn cerdded trwy safle’r neuadd breswyl
[0:26] Creu dy gartref di
[0:27] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd mewn ystafell wely yn neuaddau preswyl y Brifysgol
[0:27] Sicrwydd o lety i fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf
[0:29] Creu dy gyllideb di
[0:29] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Tri myfyriwr yn eistedd yn yr ystafell gyffredin yn Barlows ym mhentref y Santes Fair
[0:29] Dyma dy brofiad unigryw DI
[0:29] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Pedwar o chwaraewyr Lacrosse yn dal eu hoffer lacrosse
[0:32] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Gwirfoddolwyr myfyrwyr yn bloeddio ar ôl bore glanhau traeth llwyddiannus
[0:34] ym Mhrifysgol Bangor
[0:34] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Chwe myfyriwr yn eistedd ar y grisiau yn Pontio
[0:39] [DISGRIFIAD GWELEDOL] Logo Prifysgol Bangor
Ym Mangor, byddwch yn cael eich addysgu gan arweinwyr yn eu maes sy’n frwd dros eu pynciau, ac sydd wedi ymrwymo’n llwyr i’ch dysg.
Mae ein cyfleusterau yn cynnwys darlithfeydd modern, labordai, ardaloedd dysgu cymdeithasol, ein llong ymchwil ein hunain, fferm a gardd fotanegol.
Gallwch ddewis astudio neu weithio dramor am flwyddyn neu gallwch wneud profiad gwaith am hyd at flwyddyn.
Mae rhan o'ch profiad myfyriwr yn ymwneud â dod o hyd i'ch pobl, gwneud ffrindiau oes, a dod yn rhan o gymuned fywiog, fyd-eang.
Darganfyddwch gymunedau amrywiol trwy eich:
- Taith ddysgu
- Neuaddau preswyl
- Clybiau chwaraeon
- Cymdeithasau myfyrwyr
- Prosiectau gwirfoddoli
- Rhwydweithiau myfyrwyr
Nid oes angen i chi fod yn berson 'awyr agored' i syrthio mewn cariad â Phrifysgol Bangor.
Dychmygwch gampws lle mae mynyddoedd, môr, a bywyd dinas yn dod at ei gilydd. Fe allech chi fwynhau’r golygfeydd syfrdanol yn ystod eich taith i ddarlithoedd neu wrth ymlacio ar y pier, fe allech chi dreulio’ch penwythnosau yn y mynyddoedd, neu fe allech chi wneud eich hun yn gartrefol yn ein sinema a’n theatr ar y campws.
Byw ac astudio mewn lle sy'n siarad â phob ochr i chi.
P'un a ydych ar gyllideb dynn neu'n barod am fywyd moethus, mae Prifysgol Bangor yn sicrhau bod gennych y rhyddid i ddewis.
Mae gan Brifysgol Bangor lawer o fentrau i sicrhau bod eich arian yn mynd ymhellach, gan gynnwys:
- Cyfleoedd gwaith rhan-amser ar draws y campws
- Prisiau'r olchfa wedi'u rhewi
- Cynnyrch mislif am ddim ar draws campysau’r brifysgol i holl fyfyrwyr Prifysgol Bangor sy’n cael mislif.
Yn ogystal, gallwch ddewis opsiynau sy'n gyfeillgar i'r gyllideb gan gynnwys:
- Prydau fforddiadwy yn y Brifysgol
- Neuaddau fforddiadwy
- Tirwedd naturiol syfrdanol ar garreg eich drws
Mae amrywiaeth o ysgoloriaethau a bwrsariaethau ar gael i fyfyrwyr.
Rydym yn gwarantu ystafell yn ein neuaddau ar gyfer holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf sy'n dewis Bangor fel eu Dewis Cadarn.
Mae gennym ddau safle llety; Pentrefi Ffriddoedd a Santes Fair, ac mae’r ddau o fewn pellter cerdded i holl brif adeiladau a chyfleusterau’r brifysgol. Mae Neuadd John Morris-Jones (JMJ) ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr sydd eisiau byw mewn awyrgylch Gymreig.
Yn gynwysedig gyda’ch rhent mae:
- Wi-Fi a mynediad i'r rhyngrwyd â gwifrau
- Pob bil (rhyngrwyd, dŵr, gwres, trydan)
- Aelodaeth Campfa a Bywyd Campws
Cryfderau'r Brifysgol
Beth Nesaf?
Gallwch dderbyn wybodaeth am Brifysgol Bangor pan fyddwch yn rhoi cais am ein Prosbectws Poced.
Gallwch gysylltu gyda'n myfyrwyr a staff isod drwy Unibuddy i holi am fyw ac astudio ym Mangor. Gall ein staff helpu gyda cwestiynau am gyrsiau, gofynion mynediad a llawer mwy.
Ymunwch â ni ar Ddiwrnod Agored - dyma'r ffordd orau i weld beth sydd gan Brifysgol Bangor i'w gynnig.
Fel y byddech chi'n ei ddisgwyl mewn prifysgol sy'n rhoi cryn bwyslais ar gynorthwyo myfyrwyr, mae Bangor yn awyddus i gynnig cymorth ychwanegol i gefnogi fyfyrwyr.
YSGOLORIAETHAU A BWRSARIAETHAU