Llongyfarchiadau mawr ar gael eich derbyn i Brifysgol Bangor. Rydych ar fin ymuno â chymuned fywiog a chyfeillgar, ac rydym yn siŵr y byddwch yn mwynhau ac yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd di-ri a fydd ar gael i chi. Gobeithio eich bod yn edrych ymlaen yn eiddgar at gychwyn eich taith gyda ni.
