Croeso i Brifysgol Bangor. Dyma amserlen yr Wythnos Groeso ar gyfer MA Astudiaethau Plentyndod ac Ieuenctid yn yr Ysgol Addysg.
Dyma amserlen yr Wythnos Groeso ar gyfer eich cwrs, yn ogystal â gwybodaeth am ddigwyddiadau canolog sy'n agored i fyfyrwyr ar bob rhaglen radd.
Cyfarwyddwr eich cwrs yw Arwyn Roberts (a.b.roberts@bangor.ac.uk). Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu ar y cwrs.
Sylwch y gall y digwyddiadau newid, felly cadwch lygad am ddiweddariadau neu ychwanegiadau newydd.
Côd lliw eich amserlen
I wneud pethau'n haws, rydym wedi creu côd lliw ar gyfer y digwyddiadau:
Mae Digwyddiadau Gorfodol (bloc coch) yn cynnwys gwybodaeth a gweithdrefnau hanfodol y bydd eu hangen arnoch i lywio eich taith academaidd.
Mae Digwyddiadau a Argymhellir (bloc melyn) yn cynnig cyfleoedd i gwrdd â chyd-fyfyrwyr a staff y Brifysgol, neu i gael gwybodaeth a chymorth ychwanegol ar wella eich profiad myfyriwr.
Mae Digwyddiadau Cymdeithasol (gyda llun) yn ffordd berffaith o wneud ffrindiau, darganfod angerdd newydd, a chreu atgofion yn ystod eich wythnos gyntaf yn y Brifysgol.