Fy ngwlad:
Logo 1884 ar gefndir gwyn

Cyflwyno cynlluniau ar gyfer gwifren wib Bangor

Mae cynlluniau ar gyfer gwifren wib draws-ddinas gyntaf y DU, sy’n cysylltu Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor a phentref y Santes Fair, i’w cyflwyno i benaethiaid y ddinas.

Mae cynlluniau ar gyfer gwifren wib draws-ddinas gyntaf y DU, sy’n cysylltu Prif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor a phentref y Santes Fair, i’w cyflwyno i benaethiaid y ddinas.

Byddai’r cynlluniau yn gweld gwifren 500m yn rhedeg drwy’r awyr o bentref myfyrwyr y Santes Fair i safle Prif Adeilad y Celfyddydau. Byddai un reidiwr yn cael ei anfon mewn harnais eistedd, wrth iddynt deithio dros y ddinas ac edmygu'r golygfeydd syfrdanol.

Cynlluniau arfaethedig ar gyfer gwifren wib fydd yn cysylltu Prif Adeilad y Celfyddydau a phentref y Santes Fair
Byddai cynlluniau arfaethedig i'w gyflwyno yr wythnos hon yn gweld gwifren wib draws-ddinas gyntaf y DU, yn cysylltu pentref y Santes Fair â Phrif Adeilad y Celfyddydau Prifysgol Bangor (yn y llun)

Bu trafodaethau ar y gweill ers sawl mis i sicrhau bod y cynlluniau yn rhoi ystyriaeth ofalus i rai o dirnodau mwyaf nodedig y ddinas, gan gynnwys prif adeilad rhestredig Gradd 1 y Brifysgol, Eglwys Gadeiriol Deiniol Sant, Parc y Coleg a Chanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio.

Byddai'r cynlluniau hefyd yn cynnig cyfraddau gostyngol i fyfyrwyr a thrigolion y ddinas. Mae trafodaethau’n parhau ynghylch y posibilrwydd o docyn atyniad blynyddol i staff a myfyrwyr Prifysgol Bangor, gyda slotiau amser dyddiol penodedig yn caniatáu taith gyflym a phleserus o bentref myfyrwyr y Santes Fair i brif safle’r Brifysgol. Byddai hyn yn caniatáu 15 munud ychwanegol o gwsg i fyfyrwyr cyn darlithoedd ben bore.

Map o leoliad y wifren wib draws-ddinas ym Mangor
Map o leoliad y wifren wib draws-ddinas ym Mangor

Meddai llefarydd ar ran adran gynllunio’r Brifysgol: “Bydd y cynigion cyffrous hyn yn caniatáu i’r rhai sy’n ceisio gwefr fynd ar daith gyffrous ar draws ein dinas, gan deithio ar gyflymder o hyd at 71mya wrth fwynhau rhai o’r golygfeydd prydferth y mae Bangor yn eu cynnig.

“Byddai’r atyniad arloesol hwn yn helpu i hybu nifer yr ymwelwyr â Bangor a chryfhau lleoliad ein dinas prifysgol ar y map twristiaeth.”