Cerddoriaeth a'r Meddwl
Darganfod y Meddwl Dynol: Cyfres Gweminar Seicoleg
Ydych chi erioed wedi meddwl pam y gall cân newid eich hwyliau?
Yn y gweminar hwn, byddwn yn archwilio seicoleg cerddoriaeth. Dechreuwn drwy drafod yn fyr ddamcaniaethau esblygiadol am ganfyddiad cerddoriaeth, cyn edrych ar ffactorau a all ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad o gerddoriaeth. Er enghraifft, byddwn yn ystyried sut y gall gwahaniaethau diwylliannol, gwahaniaethau unigol, a ffactorau cyd-destunol ddylanwadu ar ein gwerthfawrogiad a’n mwynhad o gerddoriaeth. Yn olaf, byddwn yn adolygu ymchwil ar fuddion therapiwtig cerddoriaeth.
Gellir gweld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Drwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru hon rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Gallwch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch caniatâd yn ôl neu newid eich dewisiadau caniatâd.
Cyflwynir y seminar hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
Siaradwr
Dr Awel Vaughan-Evans
Mae Awel yn Ddarllenydd mewn seicoleg yn yr Ysgol Seicoleg a Gwyddor Chwaraeon, ac felly'n cyflawni nifer o ddyletswyddau addysgol a gweinyddol gwahanol. Mae hi’n drefnydd ar ddau fodiwl dulliau ymchwil, yn drefnydd ar fodiwl yn y drydedd flwyddyn sy’n ymdrin â’r pwnc cyd-ddisgyblaethol o Niwroestheteg, ac yn arwain ar fodiwlau traethawd hir seicoleg. Mae'r holl fodiwlau hyn yn cael eu cynnig yn Gymraeg a Saesneg.
Ar hyn o bryd, mae Awel yn goruchwylio nifer o brosiectau ymchwil israddedig sy'n ymwneud â'r pynciau eang o ddwyieithrwydd, defnydd iaith, a dysgu iaith.
Mae ymchwil Awel yn canolbwyntio ar ddwyieithrwydd. Yn benodol, mae ei hymchwil yn edrych ar sut all ieithoedd ryngweithio yn yr ymennydd, ac mae hi’n defnyddio nifer o ddulliau ymchwil niwrowyddonol (gan gynnwys tracio llygaid ac ERPs) i gyflawni hyn. Yn ogystal â hyn, mae Awel wedi dechrau ymchwilio i sut y caiff gerddoriaeth a cherddi eu canfod.