Cost y Gweithdy
Does dim cost i'r gweithdy hon.
I bwy mae’r cwrs hwn yn addas?
Gweithwyr gofal iechyd, staff y GIG, Awdurdodau lleol, arweinwyr a darpar arweinwyr
Pam astudio’r cwrs?
- Bydd y cyfranogwyr yn gallu disgrifio iechyd meddwl a lles, gan archwilio gwahanol fodelau a fframweithiau sy’n helpu i ddeall a thrafod iechyd meddwl a salwch meddwl.
- Bydd mynychwyr yn dysgu defnyddio iaith gywir i ddisgrifio emosiynau a theimladau, gan alluogi sgyrsiau mwy hyderus am iechyd meddwl.
- Bydd y rhai sy’n cymryd rhan yn y gweithdai yn archwilio ffyrdd amrywiol o ymateb i straen a’i reoli, gan gydnabod y gall straen fod yn arwydd cadarnhaol ar gyfer addasu i newid
beth fydd y dysgwr yn ei gael allan o’r cwrs?
Deilliannau dysgu:
- Grymuso cyfranogwyr gyda gwybodaeth gynhwysfawr am iechyd meddwl a lles
- Rhoi sgiliau ymarferol a strategaethau i fynychwyr ar gyfer gwella lles dyddiol eu hunain a thimau staff
- Meithrin cymuned gefnogol ar gyfer rhannu profiadau a dysgu gan eraill
Gwybodaeth bellach
Siaradwr Gwestai:
Dr Ceryl Teleri Davies, Prifysgol Bangor
Tiwtor
Dr Carys Stringer