Manylion
Yr ymennydd dynol yw'r gwrthrych mwyaf cymhleth y gwyddom amdano yn y bydysawd. Er mwyn ei ddeall yn well, trodd ymchwilwyr at gyfrifiaduron i efelychu, modelu a rhoi prawf ar y ffordd mae’n gweithio. Fodd bynnag, nid yw'n berthynas unochrog: mae dylanwad yr astudiaeth o'r ymennydd a'r meddwl dynol yn ddwfn ar gyfrifiadureg. Er enghraifft, mae algorithmau technolegau beunyddiol fel testun rhagfynegol, categoreiddio lluniau, a Deallusrwydd Artiffisial sgyrsiol yn codi’n uniongyrchol o ganlyniad i ymdrechion gwyddonwyr gwybyddol i ddeall breuddwydion, y golwg, a datblygiad iaith plant. Bydd y seminar yn archwilio cyd-esblygiad astudiaethau'r ymennydd a’r meddwl dynol, ac ymddygiad ochr yn ochr â Deallusrwydd Artiffisial a chyfrifiadureg. Byddwn yn ystyried y gwreiddiau mewn hen, hen chwedlau, syniadau arloesol Alan Turing, systemau blaengar modern fel ChatGPT, er mwyn archwilio sut y sbardunodd gwyddor gwybyddiaeth arloesiadau mewn cyfrifiadureg ac yn archwilio cyfyngiadau Deallusrwydd Artiffisial cyfredol fel model o'r ymennydd a’r meddwl dynol, ac ymddygiad.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnydd a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsynio.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg Bangor.
Dr Sam Jones
Darlithydd Seicoleg
Mae sgiliau cyfathrebu, lleferydd a iaith yn hanfodol i les pobl. Caiff yr ymchwil ei ariannu gan y Gymdeithas Frenhinol, a’r nod yw gwella ein dealltwriaeth o anhwylderau niwrolegol sy’n effeithio ar y sgiliau hynny gydag arbrofion ymddygiadol a modelu cyfrifiadurol, gyda’r nod o wella asesiadau clinigol, ymyrraeth ac adsefydlu.