Mae deilliant israddedig Prifysgol Bangor dros gyfnod o bum mlynedd hyd ar y flwyddyn academaidd 2022/23 yn cael ei gynrychioli yn Nhabl 1 a Ffigur 1. Mae cyfran y graddau 1af a 2:1 wedi eu cyfuno (cyfeirir atynt fel graddau da o hyn ymlaen) wedi cynyddu pob blwyddyn hyd at 2020/21, gyda gostyngiad sylweddol ar gyfer 2021/22, a gostyngiad pellach yn 2022/23. Achosir y gostyngiad yn 2022/23 gan ddirywiad o 5% yn y cyfran o raddau 2:1 sy’n cael eu gwobrwyo, hefo cyfran graddau dosbarth cyntaf wedi aros yr un fath ers llynedd. Mae cyfran o raddau 2:2 wedi cynyddu 2% ers 2021/22, a graddau trydydd dosbarth wedi cynyddu 3%.
|
2018/19 |
2019/20 |
2020/21 |
2021/22 |
2022/23 |
Gradd anrhydedd dosbarth cyntaf |
29.2% |
40.1% |
44.3% |
34.5% |
34.5% |
Gradd anrhydedd ail ddosbarth uwch |
42.7% |
40.1% |
39.1% |
42.1% |
37.2% |
Gradd anrhydedd ail ddosbarth is |
23.5% |
16.6% |
14.5% |
19.9% |
21.8% |
Gradd trydydd dosbarth |
4.5% |
3.1% |
2.1% |
3.4% |
6.5% |
1st/2:1 (% |
72.0% |
80.3% |
83.4% |
76.7% |
71.7% |
|
|||||
1st/2:1 (n) |
1623 |
1790 |
1539 |
1401 |
1050 |
Tabl 1: Proffil canlyniadau graddau israddedig Prifysgol Bangor 2019 – 2023

Ffigur 1. Dosbarthiad canlyniadau graddau israddedig Prifysgol Bangor 2019 – 2023
Gwelir cyfran pob dosbarthiad gradd yn ôl maes pwnc ym Mangor (Dosbarthiad mewnol o bynciau ym Mhrifysgol Bangor yw hwn, yn seiliedig ar faes pwnc y cwrs gradd) ar gyfer 2022/23, yn Ffigur 2. Roedd rhywfaint o amrywiaeth rhwng pynciau, gyda chyfran y graddau dosbarth cyntaf a ddyfarnwyd yn amrywio o 63% ar gyfer Cymraeg, i 22% ar gyfer Gwyddorau Meddygol. Roedd y cyfran o raddau 2:1 yn amrywio o 56% ar gyfer Gwyddorau Cymdeithas, i 20% ar gyfer Peirianneg Electronig.
Roedd cyfran y graddau 2:2 a ddyfarnwyd ar ei huchaf yn Gwyddorau Meddygol (35%), ac Addysg (ac eithrio cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon) (32%), ac ar ei isaf mewn Cyfrifiadureg. Roedd graddau dosbarth trydydd ar ei huchaf mewn cyrsiau proffesiynol Gwyddorau Iechyd (AaGIC) (16%) ac yn Gwyddorau Iechyd (ac eithrio cyrsiau proffesiynol AaGIC) (14%). Roedd y cyfran o raddau 2:2 a trydydd dosbarth a ddyfarnwyd ar draws pob pwnc yn amrywio rhwng 0% - 35% and 0% - 16%, yn y drefn honno.
Roedd amrediad y graddau da a ddyfarnwyd hefyd yn amrywio, gyda un pwnc wedi dyfarnu 100% o raddau da (Cymraeg), a dau bwnc wedi dyfarnu dros 90% o raddau da: Y Gyfraith, ac Athroniaeth a Chrefydd. Mae cyfran y graddau da a ddyfarnwyd yn is na chyfartaledd y brifysgol o 72% mewn 10 pwnc: Gwyddorau Iechyd (ac eithrio cyrsiau proffesiynol AaGIC), Perianneg Electronig, Gwyddorau Chwaraeon, Iechyd ac Ymarfer, Bioleg, Cerddoriaeth Drama a Pherfformiad, Llenyddiaeth Saesneg Ffilm a Diwylliant, Addysg (ac eithrio cyrsiau addysg gychwynnol i athrawon), Busnes, cyrsiau proffesiynol Gwyddorau Iechyd (AaGIC), a Gwyddorau Meddygol.
Roedd amrediad o 45% rhwng y gyfran uchaf a’r isaf o’r graddau da a ddyfarnwyd yn 2023 ar draws y meysydd pwnc.

Ffigur 2. Dosbarthu deilliannau gradd israddedig ar gyfer Prifysgol Bangor 2023, yn ôl pwnc
Mae'r Brifysgol yn adolygu ei chanlyniadau gradd yn flynyddol i nodi unrhyw dueddiadau annisgwyl sy'n adlewyrchu gofynion 'Datganiad o Fwriad' Dosbarthiad Graddau UUK.
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i'r targedau a nodir yn ein Cynllun Mynediad a Chyfranogiad gan gynnwys ei hymrwymiad i ddarparu cefnogaeth academaidd a llesiant i sicrhau bod cyfraddau dal gafael ar fyfyrwyr a chanlyniadau grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn debyg i rai’r boblogaeth ehangach o fyfyrwyr.
Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae'r Brifysgol wedi dechrau dadansoddi bylchau dyfarnu ar gyfer myfyrwyr ag ystod o nodweddion demograffig. Mae’r data yn Nhabl 2 yn ymwneud â phob myfyriwr israddedig, gan gynnwys myfyrwyr rhyngwladol, ac eithrio: cyfranogiad isel, sy'n fesur sy'n benodol i'r Deyrnas Unedig ac, ehangu mynediad, sy'n ymwneud â myfyrwyr sy'n hanu o Gymru yn unig.
Rhywedd
Dros y cyfnod adolygu, mae ( Yn seiliedig ar ryw y myfyriwr. Mae HESA yn darparu categori “Arall”, ond does dim digon o niferoedd inni allu adrodd ar ddata y tu allan i ddiffiniadau deuaidd “Benywaidd” a “Gwrywaidd” ar hyn o bryd.) myfyrwyr benywaidd yn gyffredinol wedi cael cyfran uwch o raddau da na myfyrwyr gwrywaidd, gyda’r bwlch ar ei fwyaf yn 2019 (+6.8%). Mae Ffigur 3 yn dangos bod y bwlch wedi lleihau wedi hynny, ond mae cyrhaeddiad merched yn parhau i fod yn uwch (+3.0% yn 2023). Dyma’r unig grŵp heb gynrychiolaeth ddigonol lle ceir bwlch cyrhaeddiad cadarnhaol.

Ffigur 3. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd, yn ôl rhywedd: tuedd 5 mlynedd
Oedran
Mae gwahaniaethau sylweddol a chyson yn y cyfrannau o raddau da a ddyfernir yn ôl oedran, fel yr amlygir yn Ffigur 4, gyda myfyrwyr ifanc yn cyflawni lefelau cyrhaeddiad uwch yn gyson na’u cymheiriaid hŷn. Roedd y bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae wedi ehangu yn 2023 (o -5.9% yn 2022, i -9.5% yn 2022/23). Mae'r data'n nodi bod cyrhaeddiad myfyrwyr hŷn yn faes sydd angen sylw neilltuol gan y Brifysgol at y dyfodol.

Ffigur 4. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd, yn ôl oedran: tuedd 5 mlynedd
Anabledd
Mae’r bwlch cyrhaeddiad rhwng myfyrwyr ag anabledd a heb anabledd wedi bod yn llai ar y cyfan nag a adroddwyd ar gyfer grwpiau eraill, fodd bynnag mae Ffigur 5 yn dangos, yn 2023, bod cyfran y graddau da a ddyfarnwyd i fyfyrwyr anabl yn uwch (+3.3%) na myfyrwyr nad ydynt yn anabl am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod adrodd. Er bod hyn yn ostyngiad sylweddol o ran y bwlch, o -2.5% yn 2019 (Tabl 2).

Ffigur 5. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd, yn ôl statws anabledd: tuedd 5 mlynedd
Ethnigrwydd
Mae'r gwahaniaeth o ran cyrhaeddiad graddau o fewn grwpiau ethnig yn sylweddol (Tabl 2), gyda lefelau cyrhaeddiad cyson is dros y cyfnod adrodd. Mae cyfran y myfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ( Mae'r brifysgol ar hyn o bryd yn adolygu'r defnydd o gymunedau ethnig lleiafrifol fel categori adrodd, ac rydym yn y broses o gytuno ar derminoleg newydd a mwy priodol.) sy'n cael gradd dda 10.9% yn is na myfyrwyr gwyn yn 2023, gostyngiad o 4% ers 2022, ac 8% yn is na chyfartaledd y Brifysgol. Mae'r data'n nodi bod dileu'r bwlch cyrhaeddiad hwn yn faes sydd angen sylw neilltuol gan y Brifysgol at y dyfodol.

Ffigur 6. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd, yn ôl grŵp ethnig: tuedd 5 mlynedd
Cyfranogiad
Mae myfyrwyr o ardaloedd cyfranogiad isel ( Mae Cymdogaethau Cyfranogiad Isel yn seiliedig ar fethodoleg POLAR 4, sy’n nodi ardaloedd sy’n draddodiadol â lefelau cyfranogiad isel mewn addysg uwch. Cymdogaethau Cyfranogiad Isel yw'r ardaloedd hynny yn y ddau gwintel isaf yn ôl diffiniad POLAR4. Dim ond i fyfyrwyr ifanc, llawn amser, sy'n hanu o'r Deyrnas Unedig y mae hyn yn berthnasol.) yn gyffredinol â lefelau cyrhaeddiad is na myfyrwyr o ardaloedd cyfranogiad uwch. Mae’r bwlch cyrhaeddiad yn dal yn sylweddol yn 2023 (-6.7%), er iddo leihau’n ers 2022 (-7.3%). Yn gyffredinol fodd bynnag, mae’r bwlch cyrhaeddiad wedi gwaethygu ers 2019 (-3.3%).

Ffigur 7. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd yn ôl mesurau ehangu cyfranogiad: tuedd 5 mlynedd
Ehangu Mynediad
Roedd cyfran y graddau da a ddyfarnwyd i fyfyrwyr o ardaloedd yng Nghymru a gaiff eu dosbarthu ymhlith y rhai mwyaf difreintiedig ( Caiff myfyrwyr o Gymru sy'n byw yn y ddau gwintel isaf yn ôl Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru eu dosbarthu fel myfyrwyr sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig; diffinnir y rhai o'r ddau gwintel uchaf fel y rhai lleiaf difreintiedig. ) fymryn yn is na’r gyfran ar gyfer myfyrwyr o ardaloedd lleiaf difreintiedig Cymru yn 2023. Mae’r bwlch cyrhaeddiad wedi lleihau’n sylweddol yn 2023 (-1.1%), o -12.3% yn 2021. Mae’n gadarnhaol nodi’r gwelliannau hyn, fodd bynnag mae’r data’n dangos bod cyrhaeddiad myfyrwyr o ardaloedd amddifadedd uchel yng Nghymru wedi bod yn gyffredinol is dros y cyfnod adrodd, ac felly mae hwn wedi’i nodi fel maes ffocws angenrheidiol i’r Brifysgol.

Ffigur 8. Graddau 1af/2:1 a ddyfarnwyd yn ôl mesurau ehangu mynediad: tuedd 5 mlynedd

Tabl 2. Proffil graddau israddedig, yn ôl grwpiau demograffig myfyrwyr
Mae gan y Brifysgol set o egwyddorion ar waith sy'n rheoli ei dull asesu. Fe’u nodir yn y Fframwaith Asesu, a luniwyd yn 2018 ac a gymeradwywyd yn Adroddiad Adolygu Gwelliant y Brifysgol gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) (2018). Mae'r egwyddorion yn eang eu cwmpas, gan roi sylw er enghraifft i ddyluniad asesiadau a chanllawiau manwl ar bwysoliad a chywerthedd asesiadau.
Mae'r Fframwaith Asesu ar gael i’r staff a’r myfyrwyr a'i fwriad yw sicrhau bod y staff a’r myfyrwyr yn rhannu disgwyliadau cyffredin ynghylch asesu. Mae'r Fframwaith Asesu yn gosod disgwyliad bod angen i asesu adlewyrchu, yn gynyddrannol, y lefel astudio a chyflwyno mesur priodol o her academaidd i fyfyrwyr. Mae'n ofynnol bod y rhai sy'n cynllunio asesiadau yn sicrhau bod asesiad yn mesur, mewn modd dilys, gyrhaeddiad myfyrwyr yn y deilliannau dysgu perthnasol, ac yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos y cyrhaeddiad hwnnw i'r lefel uchaf bosib.
Rhaid mapio pob asesiad ar sail o leiaf un o ddeilliannau dysgu’r modiwl. Mae'r rheiny'n gysylltiedig â deilliannau dysgu’r rhaglen, ac maent yn adlewyrchu datganiadau meincnod y pwnc a gofynion Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol lle bo hynny’n berthnasol. Mae deilliannau dysgu rhaglenni a modiwlau wedi'u grwpio yn ôl y meini prawf a nodir yn nisgrifyddion dosbarthiad canlyniadau gradd yr ASA gan gynnwys cymwyseddau proffesiynol lle bo hynny'n berthnasol. Mae'r cysylltiadau rhwng deilliannau dysgu modiwl â deilliannau dysgu rhaglenni a datganiadau meincnod pwnc yn cael eu hegluro ym manyleb y rhaglen, a gedwir yn ganolog gan yr Uned Gwella Ansawdd. Ystyrir y dull asesu ac i ba raddau mae’n mapio ar y deilliannau dysgu wrth ddilysu modiwlau.
3.1 Marcio, gwirio a Byrddau Arholi
Fel y nodir yn Rheoliadau Rhaglenni Hyfforddedig y Brifysgol, rhaid i Arholwr Allanol gymeradwyo pob cwestiwn a ddefnyddir mewn arholiadau sy'n cyfrif tuag at gymhwyster, er mwyn asesu priodoldeb, perthnasedd a lefel y cwestiynau yn unol â'u gwybodaeth am normau’r sector.
Bydd myfyrwyr yn defnyddio meini prawf marcio i ddeall yr hyn a ddisgwylir iddynt ei gyflawni. Mae'r Brifysgol yn defnyddio meini prawf marcio pwnc-benodol sy'n adlewyrchu cyd-destun y ddisgyblaeth a chyd-destun proffesiynol rhaglen. Mae meini prawf marcio penodol y modiwlau a’r asesiadau ar gael i bob myfyriwr.
Mae Rheoliadau Rhaglenni Hyfforddedig y Brifysgol yn nodi'r broses ar gyfer gwirio marciau ac yn nodi diben hynny. Caiff marciau pob modiwl ledled y Brifysgol eu gwirio bob tro y cânt eu haddysgu. Mae gan bob Ysgol drefnau i ymdrin â gwahaniaethau sylweddol rhwng marcwyr a gwirwyr a chytunir ar ddatganiad o'r prosesau gwirio a ddefnyddir gan y Bwrdd Astudiaethau ac fe'i hystyrir pan gaiff Ysgol ei Harchwilio gan yr Uned Gwella Ansawdd. Mae pob Ysgol yn rhoi manylion y drefn wirio i fyfyrwyr.
Cedwir copïau wedi'u marcio o’r asesiadau ar gyfer yr Arholwr Allanol, a fydd yn rhoi barn ynglŷn â phriodoldeb yr arferion marcio, a byddant yn adrodd yn eu cylch mewn Byrddau Arholi Allanol ac yn yr adroddiad ysgrifenedig a anfonir at yr Uned Gwella Ansawdd, a bydd yn rhaid i'r ysgolion roi sylw i’r farn honno wrth gynllunio ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf.
Mae'r Brifysgol yn defnyddio Adroddiadau Asesu ar Ansawdd Arholiadau Prifysgol (ARQUE) fel mecanwaith pellach i gymharu'r marciau a ddyfernir mewn gwahanol fodiwlau o fewn blynyddoedd a rhyngddynt, ac i gymharu'r marciau a gyflawnir gan fyfyrwyr ar bob modiwl â'u perfformiad mewn modiwlau eraill. Defnyddir y system, a gaiff ei chynnal gan staff yr Uned Gwella Ansawdd, yn bennaf i nodi modiwlau sy’n allanolion ym Myrddau Arholi Mewnol ac Allanol yr Ysgolion, ond mae hefyd yn nodi gwahaniaethau posibl ym mherfformiad myfyrwyr yn ôl rhywedd. Caiff ARQUE ei ganmol yn rheolaidd gan Arholwyr Allanol, sy'n adrodd ei fod yn cefnogi trafodaethau tryloyw ac adeiladol ynglŷn â marciau ar draws modiwlau ac yn rhoi sicrwydd iddynt fod y marcio’n gyson ac yn anwahaniaethol.
3.2 Arbenigedd Allanol
Defnyddir arbenigedd allanol i gymeradwyo a dilysu rhaglenni gradd yn y lle cyntaf ac fel rhan o’r drefn flynyddol o sicrhau ansawdd trwy'r broses arholi allanol. Wrth fynd ati i gymeradwyo’r rhaglen yn y lle cyntaf caiff y strategaeth asesu ei hystyried yn fanwl, gan ddefnyddio arbenigedd mewnol ac allanol yn y pwnc ym mhob achos. Mae'n sicrhau bod dulliau addysgu ac asesu wedi'u halinio â phwyntiau cyfeirio ar draws y sector megis Fframwaith Cymwysterau Addysg Uwch Cyrff Dyfarnu Graddau yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, a Datganiadau Meincnod Pwnc sy'n benodol i ddisgyblaeth. Rhaid i raglenni sy'n dyfarnu cydnabyddiaeth broffesiynol neu Drwydded i Ymarfer, megis Nyrsio neu Waith Cymdeithasol, alinio â safonau’r Cyrff Proffesiynol, Statudol a Rheoleiddiol perthnasol. Yn yr achosion hynny, mae'r Brifysgol yn cefnogi cyfranogiad agos gan y cyrff hynny mewn paneli dilysu a monitro parhaus. Defnyddir yr un drefn i gymeradwyo rhaglenni a adolygir trwy'r cylch ailddilysu 5-6 mlynedd.
Yn ogystal â chymeradwyo cwestiynau arholiad ac archwilio asesiadau sydd wedi'u marcio, gofynnir i Arholwyr Allanol ddarparu adroddiad ysgrifenedig bob blwyddyn, a sylwadau llafar, i’r Bwrdd Arholi. Mae hyn yn cynnig sicrwydd bod safonau asesu a pherfformiad y myfyrwyr yn gymharol â safonau cyrsiau sefydliadau addysg uwch tebyg yn y Deyrnas Unedig ac yn cyd-daro â fframweithiau cenedlaethol. Yn yr achosion prin hynny pan fo Arholwyr Allanol yn codi pryderon, bydd yr Uned Gwella Ansawdd yn sicrhau bod yr ysgolion yn mynd i'r afael â'r rheiny'n llawn ac ystyrir yr achosion a'r ymatebion hynny gan gorff gwneud penderfyniadau Addysgu a Dysgu canolog y Brifysgol.
Ymdrinnir ag adroddiadau’r Arholwyr Allanol trwy broses adolygu flynyddol y Brifysgol ar gyfer pob modiwl a rhaglen. Cynhelir yr adolygiadau hynny gan arweinwyr modiwlau a rhaglenni a rhaid iddynt, ynghyd â sylwadau’r Arholwr Allanol, roi sylw i berfformiad cymharol y myfyrwyr fel y'i hamlinellir gan ddata ARQUE, ac adborth y myfyrwyr (o amrywiol ffynonellau gan gynnwys gwerthusiadau modiwlau) ynghyd â hunanadfyfyrio ar sail addysgeg.
Caiff yr Arholwyr Allanol eu dewis, eu cymeradwyo a'u hyfforddi’n unol â Chanllawiau ar Arbenigedd Allanol yr ASA.
Rhaid i Gyngor y Brifysgol benderfynu a yw’r Brifysgol yn cyflawni holl safonau Fframwaith Asesu Ansawdd Cymru. Y Cyngor sydd â'r dasg o gymeradwyo’r datganiadau ansawdd blynyddol, sy'n golygu sicrhau: “Bod safonau'r cymwysterau rydym yn gyfrifol amdanynt wedi cael eu gosod a'u cynnal yn briodol.” Mae Adroddiad Sicrhau Ansawdd blynyddol yn fodd i fodloni'r Cyngor bod y Brifysgol yn parhau i gyflawni’r disgwyliadau cenedlaethol a’r gofynion rheoleiddiol ar gyfer safonau gradd.
Fel y nodir yn Siarter y Brifysgol, y Senedd yw "awdurdod academaidd" y Brifysgol, sy’n gyfrifol am y "gwaith academaidd". Y Senedd yw’r corff llywodraethol ar faterion academaidd (ond nid materion rheolaethol) ac mae'n gyfrifol am yr holl faterion academaidd sy’n effeithio ar y Brifysgol.
Dirprwywyd y gwaith o oruchwylio gweithrediad y mecanweithiau Sicrhau Ansawdd uchod gan y Senedd i Grŵp Strategaeth Addysgu a Dysgu'r Brifysgol. Nhw sy’n ystyried materion sy'n ymwneud â chanlyniadau gradd, perfformiad myfyrwyr a dosbarthiadau gradd yn sgil yr adolygiadau mewnol ac allanol parhaus.
Mae Byrddau Astudiaethau a Byrddau Cymwysterau’r Ysgolion (sy'n is-grwpiau i’r Byrddau Astudiaethau) yn gyfrifol am ansawdd eu cymwysterau ac yn ddarostyngedig i reoliadau'r Brifysgol. Bydd swyddogion Sicrhau Ansawdd yn mynychu'r Byrddau Cymwysterau yn ystod y flwyddyn cyn yr Archwiliadau Ansawdd Mewnol i wirio bod arferion priodol yn cael eu dilyn ac mae'n ofynnol hefyd i Arholwyr Allanol gadarnhau bod y Byrddau hynny’n dilyn rheoliadau'r Brifysgol.
Mae'r Grŵp Gwella Ansawdd, sy'n is-grŵp o Grŵp Strategaeth Addysgu a Dysgu'r Brifysgol, yn ystyried yr adolygiadau blynyddol ar Lefel Rhaglenni. Bydd y grŵp hwnnw, o dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-Ganghellor Addysgu a Dysgu, yn cynnwys Cyfarwyddwyr Addysgu a Dysgu'r Colegau a chynrychiolaeth o'r Uned Sicrhau Ansawdd, yn adfyfyrio ynghylch y materion a godir, yr arferion gorau, tueddiadau ledled y Brifysgol, cyfleoedd i wella ac anghenion hyfforddi.
Caiff pob rhaglen hyfforddedig ei hailddilysu ar sail gylchol bob 5-6 mlynedd, a hynny fel rheol fel rhan o ddilysu rhaglenni hyfforddedig ledled yr ysgol. Gall pryderon ynghylch ansawdd yr addysgu ac asesu ysgogi dilysiad y tu allan i'r cylch arferol.
Mae'r brifysgol yn defnyddio un algorithm i bennu dosbarthiad graddau ar gyfer Graddau Baglor (Anrhydedd). Mae'r cyfrifo'n golygu ychwanegu canran gyffredinol modiwlau blwyddyn dau at ganran gyffredinol modiwlau blwyddyn tri gan roi pwysoliad dwbl i'r ail gyfartaledd: [L5 + (L6 x 2). I raddau israddedig estynedig, yr algorithm yw [(0.4 x L6) + (0.6 x L7)]. Fodd bynnag, os cymeradwyir hynny ar adeg dilysu gellir cynnwys modiwlau blwyddyn dau (L5) hefyd fel a ganlyn: [L5 + (2 x L6) + (3 x L7)]/6.
Mae galluogi ein myfyrwyr i gael y radd orau y gallant yn ganolog i ethos Prifysgol Bangor ac mae wedi'i nodi yn Strategaeth Addysgu a Dysgu'r Brifysgol. Mae nifer o welliannau i’r addysgu a’r dysgu ac i gefnogi myfyrwyr, a wnaed dan arweiniad y Brifysgol, wedi cael effaith gadarnhaol gyffredinol ar ganlyniadau gradd ym Mangor yn ystod cyfnod yr adolygiad. Mae'r camau hyn a wneir ar lefel sefydliadol yn cydblethu â gweithgareddau ar lefel ysgol a phwnc.
Bu Canolfan Gwella Dysgu ac Addysgu’r Brifysgol (CELT) yn ganolbwynt ar gyfer arloesi, gwella a chefnogi ym mhob agwedd ar addysgu a dysgu.
- Mae CELT hefyd yn darparu Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer staff academaidd ledled y Brifysgol.
- Mae CELT yn cefnogi staff i gyflawni cymwysterau ffurfiol mewn addysgu ym maes addysg uwch trwy'r Dystysgrif Ôl-radd mewn Addysg Uwch a Chynllun Cymrodoriaethau’r AAU. Yn ystod y cyfnod y mae’r datganiad hwn yn edrych arno, bu gwelliant yng nghyfradd llwyddiant y staff sy’n gwneud cais am Gymrodoriaethau’r AAU.
- Bu staff CELT ar flaen y gad o ran projectau gwella addysgu a dysgu yn y Brifysgol. Ymhlith y themâu sy’n ymwneud â gwella allweddol roedd cynllunio'r cwricwlwm, asesu ac adborth.
- Oherwydd gwaith ar asesu ac adborth cafodd Bangor sgoriau gwell na meincnod y sector ar gyfer y pwnc hwn yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr yn y cyfnod adolygu.
- Trwy’r gwaith a wnaeth y Brifysgol i ddal gafael ar fyfyrwyr datblygwyd dangosfyrddau ymgysylltu, fel rhan o’r gwaith parhaus i integreiddio dadansoddeg dysgwyr i gefnogaeth academaidd a bugeiliol i fyfyrwyr.
- Yn ogystal, fel rhan o’r gwaith gwella ar asesu ac adborth, ailwampiodd y Brifysgol ei phrosesau i’r myfyrwyr hynny sy'n gwneud asesiad atodol.
Bu Bangor ar flaen y gad wrth ymgorffori'r egwyddor o gydgynhyrchu o ran cynllunio, dilysu ac adolygu'r cwricwlwm. Hefyd, defnyddia'r Brifysgol ddull sy'n seiliedig ar dystiolaeth a data i benderfynu ynghylch cynllunio ac adolygu'r cwricwlwm, gan ddefnyddio amryw o setiau data ansoddol a meintiol.
Mabwysiadodd y Brifysgol y defnydd o feddalwedd recordio darlithoedd fel ffordd o helpu’r myfyrwyr i ddysgu a datblygodd 'Bolisi Panopto' i gynnig fframwaith arweiniol i'w ddefnyddio. Yn ychwanegol, parhaodd y Brifysgol i fuddsoddi mewn cyfleusterau addysgu (gan gynnwys cyfleusterau labordy a pherfformio), gwasanaethau llyfrgell, cyfleusterau dysgu cymdeithasol a thechnolegau dysgu.
Y camau gweithredu allweddol sy’n codi o Ddatganiad Canlyniadau Graddau 2022/23:
- Pan fydd data HESA ar gael, meincnodi’r gostyngiad a gawsom mewn graddau da.
- Ni waeth beth fo’r meincnodi uchod, o ystyried y gwahaniaeth o 45% yng nghyfran y graddau da ledled y Sefydliad, adolygu cynlluniau gweithredu “Dosbarthiad Graddau” yr Ysgolion a ffocws penodol ar y 10 maes pwnc sydd islaw cyfartaledd y Brifysgol i benderfynu:
- bod y cynlluniau gweithredu’n addas i'r diben a bod y camau gweithredu'n cael eu cyflawni.
- mae proffiliau dosbarthiadau graddau’n cael eu hystyried yn ystyrlon fel rhan o'r Broses Adolygu Blynyddol.
Bydd yr adolygu a’r monitro hwnnw’n digwydd drwy’r Grŵp Cyflawni Sicrwydd Ansawdd a bydd yn adrodd i’r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
- Gwerthuso a fu gwell ffocws ac ansawdd yn yr adolygiad blynyddol ar raglenni drwy'r Grŵp Cyflawni Sicrhau Ansawdd gan adrodd i'r Pwyllgor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr.
- Parhau â’r gwaith ar leihau’r bylchau dyfarnu gan flaenoriaethu myfyrwyr hŷn, myfyrwyr o gymunedau ethnig lleiafrifol a myfyrwyr o ardaloedd amddifadedd uchel trwy:
- sicrhau bod y pontio i’r brifysgol yn cael ei deilwra at anghenion yr holl fyfyrwyr, er enghraifft, trwy sicrhau bod myfyrwyr o bob cefndir yn cael eu cynrychioli yng ngharfan yr arweinwyr cyfoed a bod gweithgareddau i’r holl fyfyrwyr a’r rheini wedi’u teilwra ar eu cyfer yn y broses gynefino.
- sicrhau bod yr asesiadau’n gynhwysol a’u bod yn cynnig her deg i bob myfyriwr, a chodi ac annog dyheadau academaidd pob myfyriwr.
- gwreiddio amrywiaeth a dad-drefedigaethu'r cwricwlwm i sicrhau bod yr holl fyfyrwyr yn eu gweld eu hunain yn cael eu cynrychioli yn addysg y brifysgol ac yn cael eu cyflwyno i amrywiaeth o leisiau a safbwyntiau.