A fydd ardal ailgylchu Fridddoedd ar agor
Oes gennych chi duvets, gobenyddion, bagiau plastig neu eitemau sydd wedi torri?
Os felly, ewch â nhw i ardal ailgylchu newydd Ffriddoedd a byddwn yn ei ailgylchu i chi!
Mae’r ardal ailgylchu newydd wedi’i lleoli gyferbyn â Swyddfa Diogelwch Ffriddoedd a drws nesaf i Neuaddau JMJ/Tegfan.
Yr oriau agor yw dydd Llun i ddydd Gwener yr wythnos hon, rhwng 1pm a 5pm.
Mae banciau rhoddion bwyd hefyd wedi'u lleoli yn Swyddfeydd Ffriddoedd a Neuadd y Santes Fair ar gyfer unrhyw fwydydd tun neu bacedi diangen.
SYLWCH: Rhaid i’r dyddiad fod yn iawn ar y bwyd ac ni ddylai fod wedi ei agor.
Siwrna saff i chi adref a gobeithio y cewch chi haf gwych.