A Milano ce sta a nebbia. The construction of the North-South divide in contemporary Italian cinema
Cyfres Seminarau Ymchwil Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Prif Siaradwr: Dr Myriam Mereu - Prifysgol Cagliari
Beth yw'r arferion ymresymiadol a'r ystrydebau sy'n cael eu priodoli’n bennaf i’r sinema Eidalaidd, ac y mae sinema’r Eidal yn ei gyfleu, wrth ddangos y ddeuoliaeth rhwng gogledd a de’r wlad? A pha genres sy'n portreadu'r rhaniad diwylliannol a chymdeithasol hwn orau? Mae sinema Eidalaidd yr 21ain ganrif wedi cynhyrchu sawl ffilm symbolaidd sy'n dangos natur y cyferbyniad hynod gymhleth rhwng y ddau begwn daearyddol, gan chwarae gyda'r ystrydebau sydd wedi gwreiddio ddyfnaf - gogledd sydd wedi datblygu'n economaidd a’r de annatblygedig; gogledd byd-eang yn a de plwyfol– gan chwyddo’r anghysondebau hyd yn oed yn fwy. Mae sawl elfen amlwg sy’n ein galluogi i ddadansoddi’r berthynas rhwng y gogledd a’r de a bortreadir yn y ffilmiau a gynhyrchwyd dros y pymtheg mlynedd diwethaf (ers 2006): yn eu plith mae cynrychioli lleoedd (dinasoedd ac ardaloedd diwydiannol gogleddol o’u cymharu â phentrefi, cefn gwlad a morluniau’r de), defnyddio tafodieithoedd Eidaleg ac amrywiaethau rhanbarthol ar yr iaith sy'n diffinio'n glir beth yw tarddiad actorion/cymeriadau, a nodweddu unigolion trwy agweddau diwylliannol ac arferion a gysylltir yn fwyaf amlwg â’r ardaloedd hynny. Mae gennyf ddiddordeb arbennig mewn arsylwi sut mae’r dewisiadau ieithyddol – a adlewyrchir ar deitlau, mewn enwau personol, toponymau, ieithoedd a siaredir – a phynciau eraill sy’n ymwneud â hunaniaeth, yn dylanwadu ar lunio’r rhaniad rhwng y gogledd a’r de. O’r herwydd, byddaf yn mabwysiadu methodoleg “geirfaol” (yn seiliedig ar De Gaetano 2014-15) a fydd yn amlygu’r nodweddion mwyaf rhyfeddol y mae bron bob un o deitlau’r corpws yn eu hamlygu: dadleoli, diflaniad, bwyd, genre/rhywedd, tirwedd, iaith, cariad, crefydd.
Mae gan Myriam Mereu ddoethuriaeth mewn Athroniaeth ac Astudiaethau Llenyddol o Brifysgol Cagliari ac mae’n Athro Cyswllt Teledu a Chyfryngau Digidol yng Nghyfadran y Dyniaethau ym Mhrifysgol Cagliari. Ymhlith ei phrif ddiddordebau ymchwil mae astudio ieithoedd a thafodieithoedd a siaredir mewn ffilmiau a chyfresi teledu Eidaleg; y swyddogaeth a neilltuir i dirwedd a lleoedd mewn ffilmiau nodwedd a rhaglenni dogfen; “Cinéma du Réel” yr Eidal; y berthynas rhwng sinema a llenyddiaeth; a chyflwyno sinema fel disgyblaeth academaidd ym mhrifysgolion yr Eidal. Mae hi wedi cyhoeddi nifer o draethodau ac erthyglau mewn cyfnodolion academaidd.