Manylion
Mae tueddiad at law chwith yn beth prin, mae’n cael ei stigmateiddio, a’i gysylltu ag anghymesuredd mewn ymddygiad yn y ffordd y mae dau hanner yr ymennydd yn gweithio. Yn y sgwrs, byddaf yn sôn am rai o'r honiadau gwirion a llai gwirion ynglŷn â thueddiad at law chwith a’r hyn y mae’n ei olygu. Byddaf hefyd yn dangos i chi sut mae eich llawdueddiad yn berthnasol i anghymesureddau eraill yn eich ymddygiad. Byddaf yn gorffen trwy sôn am rywfaint o'n gwaith ninnau ym Mangor, sy'n ein galluogi i ragweld rhywbeth am anghymesuredd eich ymennydd o ran lleferydd ac iaith.
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnydd a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu eich cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsynio.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Mae'r sesiwn weminar yn rhan o Gyfres Gweminarau Seicoleg Bangor.
Siaradwr
Dr David Carey
Darllenydd mewn Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor
Mae Dr. David Carey yn Ddarllenydd yn Adran Seicoleg Prifysgol Bangor. Mae’n Aelod Cyswllt o'r Sefydliad Niwrowyddoniaeth Wybyddol. Mae'n niwroseicolegydd clinigol hyfforddedig gyda diddordebau ymchwil mewn anghymesureddau hemisfferig, llawdueddiad ac ochroli ieithyddol.