Adleisiau'r Greadigaeth: Dull Paleophenomenolegol
Ymunwch â Matilde Gliubich Tomat, myfyriwr PhD mewn Athroniaeth a Chrefydd, ar daith i ddatgelu gwreiddiau paleoffenomenoleg, sef fframwaith rhyngddisgyblaethol a ddeilliodd o'r awydd i ddeall yr ysgogiad dynol hynafol i greu. Mae’n ddull sy’n cyfuno archeoleg, anthropoleg, ffenomenoleg, alcemi a dadansoddi, ac mae’n ymestyn y tu hwnt i gyfyngiadau ymchwil traddodiadol, ac mae’n ystyried profiadau bywyd ac ymwybyddiaeth pobloedd hynafol.
Yn y sgwrs hon, bydd yn esbonio paleoffenomenoleg fel fframwaith damcaniaethol ac yn rhannu'r stori ynglŷn â sut y datblygwyd y fethodoleg unigryw honno - yn rhannol trwy weledigaeth, yn rhannol trwy ddarganfyddiad, yn rhannol trwy antur. O’i chyfarfyddiadau hithau â’i hadfyfyrdod a safleoedd archeolegol, y ddealltwriaeth sy’n codi o ddadansoddiadau a mytholeg, bydd y sgwrs yn bwrw golwg dros y broses o gysylltu’r gorffennol a’r presennol, y meddyliol a’r materol.
Byddwn yn archwilio egwyddor sylfaenol paleophenomenoleg: dull rhisomatig rhyngddisgyblaethol a ddefnyddir i archwilio'r angen i greu, yr eiliad o ymwybyddiaeth sy’n gadael ei marc, a'r haenau o ystyr sydd wedi'u hymgorffori mewn arteffactau hynafol. Wrth inni olrhain adleisiau'r greadigaeth a adawyd gan fodau dynol cynnar, byddwn yn ystyried sut mae'r dull hwnnw’n agor llwybrau newydd i ddeall ymwybyddiaeth ein cyndeidiau, a chynnig llygad newydd i archwilio hanes dynolryw.