At Eich Coed / Tree Sense
Arddangosfa amlddisgyblaethol
Mae AT EICH COED / TREE SENSE, arddangosfa amlddisgyblaethol sy'n digwydd yng ngofodau cyhoeddus Pontio, yn archwilio perthynas coed â phobl, bywyd gwyllt a’r amgylchedd ehangach. Mae'r wedi ei gydlynu gan Pontio ar y cyd â Phrifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y DU o fis Mawrth tan fis Mai.
Daw AT EICH COED / TREE SENSE â Pontio a staff ac adrannau Prifysgol Bangor ynghyd, gan dynnu ar arbenigedd academyddion Prifysgol Bangor fel un o brif canolfannau ymchwil ac addysg y DU ar goed, eu cadwraeth a’u gofal. Yn ogystal bydd artistiaid preswyl a chomisiynau yn rhan o’r prosiect fydd yn plethu celf a gwyddoniaeth i gyfleu safbwyntiau amrywiol ar goed drwy amrywiaeth o osodiadau creadigol, gweithdai, sgyrsiau a pherfformiadau.
Bydd yr arddangosfa yn gwahodd ymwelwyr i ystyried coed, megis eu ffurf a’u hamrywiaeth, manteision iechyd coed, eu cyfraniad at ymdeimlad o le, sut y gallent liniaru newid hinsawdd, effeithiau newid hinsawdd arnynt, a sut mae pobl wedi defnyddio coed drwy gydol ein hanes.
Dywedodd Manon Awst, Cydlynydd Creadigol Gofodau Cyhoeddus Celfyddydau Pontio,
“Mae wedi bod yn bleser cydweithio efo'r artistiaid a holl adrannau gwahanol y Brifysgol ar y prosiect yma. Mae'r amrywiaeth o ran ffurf a chynnwys yn siwr o apelio at gynulleidfa eang, a dwi'n edrych ymlaen i bobl weld ffrwyth ein llafur."
Dywedodd John Healy, Athro Gwyddorau Coedwig ym Mhrifysgol Bangor sy’n rhan o’r grŵp arweiniol,
“Yn yr arddangosfa, rydym yn dathlu rôl coed yn ein bywydau o bob safbwynt, o wyddorau coedwigaeth a chadwraeth, i feysydd iechyd a lles, ac i hanes a’r celfyddydau.
Coed sy’n ffurfio strwythur y cynefinoedd a geir mewn coedwigoedd, sef y mannau â’r fioamrywiaeth fwyaf ar y ddaear. Coed fu’r llwyfan ar gyfer hanes esblygiadol primatiaid, ac maent wedi chwarae rhan allweddol yn natblygiad gwareiddiad. Maen nhw’n darparu ar ein cyfer ddeunydd adnewyddadwy ar gyfer lloches, gan gloi carbon yn strwythur pren ein cartrefi a’n ddodrefn. Prifysgol Bangor yw prif ganolfan y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil ac addysg ym maes coed, a’u cadwraeth a'u rheolaeth. ”
Cafwyd galwad agored ar gyfer comisiynau ac artistiaid preswyl ar gyfer y prosiect a bydd y gweithiau i’w gweld yng ngofodau cyhoeddus Pontio. Bydd gwaith Anthony Ynohtna ‘Euler’ yn hongian ym mhrif atriwm Pontio, wedi ei greu o styllod pren sy’n ffurfio siâp helics sy’n ein hatgoffa o bresenoldeb a dylanwad dynol ym mhob elfen o’n hamgylchedd ni. Bydd y colectif creadigol Utopias Bach yn eich gwahodd i archwilio perthnasau personol a chymunedol y byd dynol a mwy-na-dynol yn ystod eu preswyliad. Mae’r artist, gof a strategydd sector yr amgylchedd Joe Roberts yn cyflwyno’r darn ‘Pobman ar unwaith a nunlle’n arbennig’ sef cerflun wedi’i selio ar y goeden Ywen olaf ar safle Eglwys Llanfair Garth Branan, yr Eglwys ganoloesol a eisteddai ar dir Prifysgol Bangor. Yn ystod preswyliad Molly Macleod, bydd yn archwilio’r Greddinen Menai prin, rhywogaeth sydd mewn perygl o ddiflannu, ac sydd ond i’w chanfod ar Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Nant Porth.
Mae’r cyfranwyr o Brifysgol Bangor yn cynnwys Amy Gresham a Heli Gittins (+ Coed Lleol) o’r Ysgol Gwyddorau Naturiol, Amy Monnereau a Lucy Finchett-Maddock o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, Kathryn Davies o’r Ysgol Gwyddorau Eigion / Gardd Fotaneg Treborth, Catherine Walker a Kate Randell o’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y DU a Caleb Nichols a Briony Collins, Lina Davitt, Judith Samuel, Sarah Pogoda, Zoë Skoulding o’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau.
Bydd cyflwyniad arbennig ‘For Dom, Bruno & the Amazon’ hefyd, er cof am y newyddiadurwr Dom Phillips a’r arbenigwr brodorol Bruno Pereira gafodd eu llofruddio’r llynedd wrth iddynt ymchwilio yn yr Amazon.
Bydd yr arddangosfa yn agor Nos Wener 3ydd o Fawrth am 5.30pm, gyda lansiad yn cynnwys perfformiadau ynghyd â’r gwaith celf ac ymchwil. Bydd rhaglen o ddigwyddiadau wedi'u trefnu dros gyfnod yr arddangosfa, sy’n parhau tan ddiwedd mis Mai gan gynnwys gweithdai i blant, perfformiad barddonol a Noson Ciosg Celf. Ceir rhagor o wybodaeth am yr holl ddigwyddiadau yma: https://www.pontio.co.uk/online/article/AtEichCoed