Birdsplaining: Trafodaeth ryngddisgyblaethol o hunaniaethau mudol
Seminar Ryngddisgyblaethol Ymchwil Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
Birdsplaining: Trafodaeth ryngddisgyblaethol o hunaniaethau mudol (Nathan Abrams a Jasmine Donahaye, Prifysgol Abertawe)
Llyfr diweddaraf Jasmine Donahaye yw Birdsplaining: A Natural History. Mae ei gwaith wedi cael sylw yn y Guardian a'r New York Times, ac ar Radio 4. Mae hi’n athro rhan-amser mewn ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Abertawe, ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru. Mae Nathan Abrams yn Athro Astudiaethau mewn Ffilm ym Mhrifysgol Bangor. Mae o’n darlithio, yn ysgrifennu ac yn darlledu’n eang (yn Gymraeg ac yn Saesneg) ar ddiwylliant poblogaidd a hanes a diwylliant Iddewig ym Mhrydain a’r Unol Daleithiau. Mae o’n gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.