Bydoedd Cudd Gwyddoniaeth
Gŵyl Wyddoniaeth Bangor
Mynediad i bob rhan ar gyfer yr arddangosfa gyffrous yma ar Wyddoniaeth. Mae’r digwyddiad ymarferol, rhyngweithiol yma am ddim i bawb ac yn digwydd yn Pontio ac Adeilad Brambell sydd yn gartref i’n Hamgueddfa Hanes Naturiol enwog. Dewch i ddarganfod mwy am fyd anhygoel ymchwil gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Bangor. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma os gwelwch yn dda.
Mae parcio am ddim ar gael ar sail y cyntaf i’r felin, a gellir dod o hyd iddo drwy ddilyn y ddolen hon
Gellir dod o hyd i fannau eraill i barcio mewn sawl man o amgylch canol dinas Bangor.
Yna gallwch wneud eich ffordd i Adeilad Brambell y dewch o hyd iddo yma
Cynghorir unrhyw un sy’n ei chael yn anodd symud, neu sydd â gofynion penodol i gysylltu â’r trefnwyr wythnos cyn y digwyddiad ar b.s.f@bangor.ac.uk er mwyn i ni gael eich helpu pan fyddwch yn cyrraedd.