Cyflwynydd: Bethan James (Prifysgol Bangor a Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd)
Tra’n gweithio fel feiolinydd proffesiynol yn y 1990au, bu i ddarganfod y dull addysg cerdd llwyr-gorfforol, Dalcroze Eurhythmics, fod yn brofiad hynod a newidiodd cwrs fy mywyd. Bum-mlynedd-ar-hugain yn ddiweddarach, a minnau yn hyfforddwr Dalcroze rhyngwladol, penderfynnais fynd i’r afael ag ymchwil hunanethnograffig, i ganfod ystyr a chraidd fy ymwybyddiaeth o’r ymarferiad unigryw hwn, yn enwedig y pwyslais a roddir ar y corff. Anogir myfyrwyr Dalcroze i fabwysiadu agwedd chwareus, fyrfyfyriol, ymchwilgar yn y dosbarth, sydd yn hyrwyddo proses o ganfod posibiliadau, yn hytrach nag anelu at nod penodol. Bydd y cyflwyniad hwn yn rhannu un thema bwysig yn fy ymchwil, sef yr elfen o chwarae. Law yn llaw, daw yn amlwg sut y bu i mi deilwro methodoleg bwrpasol, sy’n cynnwys bricolage, ymchwilio celfyddydol ac a/r/tography, gan hefyd gymryd ysbrydoliaeth o fyd tecstiliau. Amlyga hyn un o hanfodion creiddiol y dull Dalcroze, sef allanoli a mynegi yr hyn a brofir yn fewnol.
