Canolfan Dementia Gwynedd ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr di-dâl yn dod i Fangor
Cyfle i ymweld
Mae gwasanaeth newydd, Canolfan Dementia Gwynedd, wedi ymuno â Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia ym Mhrifysgol Bangor. Yn un o chwe Chanolfan Dementia ar draws Gogledd Cymru, mae’r ganolfan yn cynnig gwybodaeth, addysg, cyngor a chymorth hirdymor wedi’u teilwra i bobl sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr di-dâl, a’u teulu.
Mae’r Ganolfan bellach yn rhan o’r Hwb Iechyd a Lles Heneiddio a Dementia, gan ddod â thîm ymchwil y Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) ynghyd â gwasanaethau lleol i gyflwyno rhaglen o gymorth ôl-ddiagnostig i bobl sy’n byw gyda dementia a’u gofalwyr. Ar hyn o bryd mae’r ganolfan yn gartref i nifer o grwpiau cefnogaeth sy’n cyd-daro ag ymchwil, megis y Grŵp Cefnogi Dementia Prin ac Addysgwyr Dementia Prifysgol Bangor (grŵp Caban).
I ddathlu agoriad Canolfan Dementia Gwynedd (Bangor) mae croeso i bawb ymweld â’r Hwb yn Adeilad Ardudwy ar Safle’r Normal, Ffordd Caergybi, Bangor ar ddydd Iau 5ed Hydref, rhwng 10yb a 4.30yp, i ddysgu am y ganolfan a’r cymorth sydd ar gael ac am waith tîm ymchwil DSDC.