Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â chyfrifiadura, peirianneg a dylunio, a drefnir gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor yw’r Seminarau ‘Ymgysylltu’.
Mae'r diwydiant gemau fideo wedi tyfu o fod yn hobi roedd pobl yn ei wneud yn eu hystafell wely neu yn eu garej yn yr 80au i fod yn ffenomen adloniant yn y farchnad dorfol, gan fynd yn fwy na'r diwydiannau cerddoriaeth a ffilm. Mae'n sector sy'n datblygu'n gyflym, mae wedi symud o getris ffisegol i gryno ddisgiau i lawrlwytho digidol ac o gonsolau a gemau cyfrifiadurol i ffonau clyfar, ac mae wedi treiddio i bob rhan o’r holl boblogaeth ledled y byd.
Mae Nick Parker wedi bod yn ddylanwadol ar hyd y daith hon, gan ddechrau gweithio yn y diwydiant ym 1992 i Nintendo ar gyfer lansiad y SNES, yna i Sony Europe i lansiad PlayStation ym 1995. Bydd yn disgrifio ei yrfa a’r digwyddiadau mawr yn y diwydiant ers hynny sydd wedi ysgogi twf y farchnad ac yn disgrifio i ble mae gemau cyfrifiadurol yn mynd.
Mae Nick Parker wedi bod yn y diwydiant gemau fideo ers dros ddeng mlynedd ar hugain, gan weithio fel swyddog gweithredol i Nintendo, Sony PlayStation (is-lywydd ar y bwrdd Ewropeaidd) ac Atari (VP). Dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae Nick wedi bod yn rhedeg Parker Consulting, sef cwmni ymgynghori busnes strategol mwyaf blaenllaw’r diwydiant, sy’n arbenigo mewn cynllunio busnes a chodi cyfalaf ar gyfer datblygwyr a chyhoeddwyr gemau.
Mae ei gwmni wedi cynghori Vodafone, BBC, BT, Sony, Jagex, Nintendo, Microsoft, Electronic Arts, Activision, BSkyB (Sky TV), UbiSoft, Codemasters, CCP, cyhoeddwyr, datblygwyr, VCs/PEs, banciau, cyfreithwyr a chyfrifwyr ymhlith eraill.