Control engineering - Frequency domain stability criteria for mildly nonlinear feedback systems
Bydd yr Athro William Heath yn siarad am beirianneg reoli.
Bydd y sgwrs hon yn ailedrych ar offer clasurol seiliedig ar amledd i asesu sefydlogrwydd systemau peirianneg reoli ac yn cyflwyno gwybodaeth newydd am systemau adborth dirlawn.
Cyfres o ddarlithoedd am amrywiol bynciau sy’n ymwneud â Chyfrifiadura, Peirianneg a Dylunio yw ‘Ymgysylltu’ wedi eu trefnu gan Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Prifysgol Bangor.
Mae peirianwyr yn aml yn defnyddio ymateb amledd i ddeall ymddygiad deinamig cydrannau a systemau. I beirianwyr rheoli, mae'r parth amledd yn arwain at nifer o offer graffigol cain a ddefnyddir i asesu sefydlogrwydd a pherfformiad dolennau adborth.
Yn y sgwrs hon, byddwn yn ailedrych ar faen prawf Nyquist i systemau llinol: adolygiad fydd hwn i unrhyw un sydd wedi gwneud cwrs cyntaf mewn rheolaeth glasurol. Byddwn hefyd yn ailedrych ar y meini prawf cylch, Popov a chylch oddi ar yr echelin, yr holl offer clasurol a ddefnyddir ar gyfer systemau â mân aflinoledd fel dirlawnder.
Yn fwy diweddar mae'r llenyddiaeth wedi canolbwyntio ar offer dadansoddol a meini prawf a fynegir fel dichonoldeb rhaglenni amgrwm. Mae'r rhain wedi dod â'r lluosyddion OZF (O'Shea-Zames-Falb) yn ôl i mewn ar gyfer dolenni adborth gyda dirlawnder. Mae'r rhain yn offer pwerus, ond hyd yn hyn nid oes ganddynt unrhyw ddehongliad parth amledd defnyddiol. Byddwn yn cyflwyno cyfyngiadau parth amledd newydd ar y lluosyddion OZF.
Cafodd William Heath BA ac MA mewn Mathemateg o Brifysgol Caergrawnt ac MSc a PhD mewn Systemau a Rheolaeth o UMIST. Ers hynny, mae wedi gweithio mewn diwydiant a'r byd academaidd, yn y Deyrnas Unedig ac Awstralia. Mae'n beiriannydd rheoli sydd wedi cau'r ddolen ar gyfer nifer o gymwysiadau diwydiannol, gan gynnwys gosodwyr nano, peiriannau diesel cyflym, allwthwyr ffilm blastig, purwyr olew bwytadwy a systemau rheoli dŵr. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar systemau rheoli gydag aflinoledd ysgogwyr. Cyn ymuno â Phrifysgol Bangor bu'n Bennaeth yr Adran Beirianneg Drydanol ac Electronig ym Mhrifysgol Manceinion. Ar hyn o bryd mae'n Gadeirydd Cyngor Rheolaeth Awtomatig y Deyrnas Unedig ac yn Bennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg ym Mhrifysgol Bangor.
Croeso i bawb!