Cyflwyniad i Gyfleusterau TG a Sgiliau Astudio
Mae’n bleser eich cyflwyno i'r systemau digidol, a fydd yn eich helpu chi wneud yn fawr o'ch amser yma.
Cafodd y systemau eu cynllunio i wneud eich astudiaethau'n haws ac yn fwy effeithlon. Maent yn cynnwys pethau fel llwyfannau dysgu ar-lein, adnoddau llyfrgell, a gwasanaethau cefnogi myfyrwyr.
Gwn y gall dechrau yn y brifysgol fod yn brofiad digon brawychus, ond rwy'n hyderus y bydd y systemau digidol yn fodd i hwyluso pethau.
Felly, da chi, ewch ati i’w defnyddio! Maen nhw yma i'ch helpu chi lwyddo.
Dyma rai enghreifftiau penodol o sut y gall y systemau digidol helpu myfyrwyr newydd:
- Gall llwyfannau dysgu ar-lein ei gwneud hi'n hawdd canfod deunyddiau cwrs, darlithoedd ac aseiniadau o unrhyw le.
- Gall adnoddau llyfrgell eich helpu chi ganfod yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau aseiniadau.
- Gall y Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr eich helpu gyda phopeth gan gynnwys cyngor academaidd a chwnsela iechyd meddwl.
Byddant yn ymdrin â'r canlynol:
- Eich cyfrif Bangor
- Sut mae mewngofnodi a'r system ddilysu
- Sut mae gosod eich ffôn/gliniadur i gael mynediad at systemau Wi-Fi a Bangor
- Apiau a meddalwedd defnyddiol
- Sut mae gwirio'r amserlen
- Pa systemau ydyn ni'n eu defnyddio i gyfathrebu ym Mangor?
- Sut mae gofyn am help gyda rhywbeth?
- Y Systemau Cefnogaeth sydd yma. Y Ddesg Gymorth – popeth o Weinyddu Myfyrwyr, Cyllid, Cymorth Digidol, Mynediad i’r Llyfrgell, Gofyn am Gymorth, Estyniadau ac yn y blaen
- Sut mae mynd at eich deunyddiau academaidd, Blackboard, Panopto, Turnitin
- Sut mae cyrchu adnoddau dysgu. Catalog llyfrgell, estyniadau’r Porwr
- Lle gallwch chi ddatblygu eich sgiliau academaidd. Sgiliau astudio, Sgiliau Digidol, Sgiliau Ymchwil