Cyflwyniad i Ymarfer Uwch
Y Cam Nesaf yn Eich Gyrfa: MSc Ymarfer Clinigol Uwch ym Mhrifysgol Bangor
Ymunwch â’n Gweminar Blasu
Ydych chi’n barod i fynd â’ch gyrfa glinigol i’r lefel nesaf? Ymunwch â’n gweminar blasu MSc Ymarfer Clinigol Uwch am ddim i ddarganfod sut gall y rhaglen hyblyg hon eich cefnogi i ddatblygu fel ymarferydd uwch.
Yn ystod y sesiwn 2 awr ar-lein yma, cewch:
✔️ Wybodaeth fanwl am rôl ymarfer clinigol uwch
✔️ Ddeall strwythur a chynnwys y rhaglen MSc
✔️ Glywed am y cymorth sydd ar gael i fyfyrwyr drwy gydol y cwrs
✔️ Gyfle i glywed gan fyfyrwyr presennol a chyn-fyfyrwyr am eu profiadau
✔️ Gyfle i ofyn cwestiynau mewn sesiwn holi ac ateb fyw
Dyma gyfle gwych i ddysgu sut y gall yr MSc eich helpu i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r hyder sydd ei angen i symud ymlaen yn eich gyrfa.
Siaradwyr
- Julie Lunt
- Dr Sangeeta Chandrashekar
- Dr Patricia Masterson Algar
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Ffion Simcox: f.simcox@bangor.ac.uk