Bydd angen archebu lle ym mhob digwyddiad unigol ond mae croeso i chi fynychu cynifer neu gyn lleied ohonynt ag y dymunwch. Mae gweithgareddau wedi'u hamseru i beidio â gorgyffwrdd i ganiatáu i gyn-fyfyrwyr fynychu pob un neu gymaint o ddigwyddiadau ag y dymunant. Cliciwch ar y ddolen hon i brynu tocynnau ar gyfer pob digwyddiad unigol.
DYDD GWENER, 24 MAI 2024
Noson Prosecco yn Sw Môr Môn
Lleoliad: Sw Môr Môn, Brynsiencyn, Ynys Môn, LL61 6TQ
Amser: 6:30pm Teithiau yn dechrau am 7:00pm
Cost: £24.95 y pen (gan gynnwys taith, Prosecco a bwffe poeth ac oer)
Bydd digwyddiadau’r penwythnos yn dechrau gyda thaith wedi ei thywys o amgylch Sw Môr Môn ym Mrynsiencyn, gyda prosecco a bwffe.
Saif Sw Môr Môn ar lan y Fenai mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol lle ceir golygfeydd dros fynyddoedd Eryri. Agorodd y busnes ei ddrysau yn 1984 a byth ers hynny hwn fu atyniad pennaf Ynys Môn ac mae’n parhau’n fwy nag erioed i fod yn gyflogwr ac yn gyfrannwr pwysig i’r economi a’r gymuned leol. Caiff yr holl ddŵr yn y tanciau arddangos ei bwmpio'n uniongyrchol o'r môr ac yna’n dychwelyd i'r môr mae o law, felly mae'r cyflenwad dŵr yn darparu gronynnau bwyd, tymoroldeb a thymheredd naturiol i’r anifeiliaid.
Frankie Hobro yw Cyfarwyddwr a Pherchennog Sw Môr Môn ac mae’n un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Bangor. Mae Frankie wedi bod yn lladmerydd brwd bob amser dros gadwraeth, yn arbennig cadwraeth rhywogaethau sydd dan fygythiad. Bu mewn llawer o swyddi'n ymwneud â darlithio a dysgu bioleg ac ecoleg amgylcheddol, cadwraeth a môr i wahanol lefelau ac oedrannau, mewn gwledydd sy'n datblygu a mannau eraill. Erbyn heddiw mae Sw Môr Môn yn unigryw yn y gwledydd hyn gan mai dyma’r unig acwariwm lle ceir dim ond rhywogaethau brodorol gyda chyflenwad dŵr môr hollol naturiol yn uniongyrchol o Afon Menai.
Ymunwch â Frankie am daith dywys unigryw y tu ôl i’r llenni yng nghanolfan cadwraeth forol Sw Môr Môn a chael mwynhau gwydraid neu ddau o ddiod befriog!
Byddwn yn cyfarfod wrth y fynedfa a chewch fwynhau gwydraid o prosecco wrth i chi gael taith dywys drwy’r acwariwm a’r holl gyfleusterau, gan gynnwys Deorfa Cimychiaid Cymru a rhaglenni bridio a chadwraeth morfeirch a chimychiaid pigog. Dysgwch bopeth am redeg canolfan forol o’r fath o ddydd i ddydd, am yr holl greaduriaid sy’n byw yno, ac am daith barhaus Frankie i sicrhau cynaliadwyedd.
Ar ôl y daith dywys gweinir bwffe poeth ac oer, a byddwch yn rhydd i grwydro o gwmpas yn edrych yn fwy manwl ar y cyfleusterau a chewch ofyn cynifer o gwestiynau ag y dymunwch.
Cost y digwyddiad hwn fydd £24.95 y pen, gan gynnwys Prosecco a bwffe. Bydd diodydd alcoholig a di-alcohol ar gael yng nghaffi Rockpool yn ystod y bwffe.
DYDD SADWRN, 25 MAI 2024
Taith o amgylch Llong Ymchwil Prince Madog (tua 1 awr)
Lleoliad: Porthaethwy
Cost: Di-dal
Rydym yn gobeithio cynnig teithiau o amgylch Llong Ymchwil Prince Madog ar fore Sadwrn 25 Mai. Mae hyn yn amodol ar argaeledd y llong, felly cofrestrwch eich lle trwy’r siop a chadwch lygad allan am fanylion pellach. Mae'r gweithgaredd hwn yn gyfyngedig i oedolion.
Taith mewn Cwch Cyflym – Antur Menai (tua 1 awr)
Lleoliad: Pier St George, Porthaethwy
Amser: 2:00pm
Cost: £32 y pen
Fel y gwnaethom yn ein haduniad blaenorol, rydym wedi trefnu taith ar gwch cyflym ar hyd y Fenai ar y prynhawn Sadwrn. Taith ‘Antur Menai’ fydd hon (gweler https://www.ribride.co.uk am fanylion) a'r gost fydd £32 y pen. Y cyfyngiad oedran yw 4+ oed.
Rydym yn gweithredu rhestr aros ar gyfer y RibRide. Os oes gennych ddiddordeb mewn archebu lleoedd ar gyfer y RibRide, e-bostiwch b.w.perkins@bangor.ac.uk a byddwn yn cadarnhau argaeledd cyn gynted â phosibl.
Taith deuluol o amgylch Sw Môr Môn (Ar gael dydd Sadwrn a dydd Sul)
Lleoliad: Sw Môr Môn, Brynsiencyn, Ynys Môn, LL61 6TQ
Amser: 2:00pm
Cost: Oedolion £15.00, Plant (a dan 12 oed) £12.50
Taith dywys i deuluoedd y tu ôl i'r llenni yn Sw Môr Môn. Ymunwch â’r tîm am daith dywys unigryw y tu ôl i’r llenni yng nghanolfan cadwraeth forol Sw Môr Môn!
Ar ôl y daith bydd croeso i chi ofyn cynifer o gwestiynau ag y dymunwch, cyn cael mwynhau gêm o golff gwallgof a naill ai treulio gweddill y diwrnod ar y safle neu ddychwelyd dyw dro eto dros y penwythnos gyda'ch tocyn.
Taith yw hon sy’n gyfeillgar i deuluoedd ond mae’n addas i bobl o bob oed ac nid yw'n gyfyngedig i deuluoedd yn unig. Mae mynediad llawn i bobl anabl ar draws y safle.
Bydd y tocynnau’n ddilys am y penwythnos cyfan felly gallwch ddychwelyd gynifer o weithiau ag y dymunwch. Mae pris y tocyn yn cynnwys gêm o golff gwallgof a mynediad i sgyrsiau, porthiannau a sesiynau rhyngweithiol dyddiol.
Lluniaeth yn y prynhawn – Canolfan Fôr Cymru (tua 1.5 awr)
Lleoliad: Canolfan Fôr Cymru, Porthaethwy
Amser: 3:30pm
Cost: £7.50 y pen
I'r rhai hynny ohonoch sy'n dymuno cyfarfod eto ar ôl y daith yn y cwch cyflym a/neu cyn i ni fynd allan am bryd gyda’r nos, byddwn yn cynnig te/coffi a brownis siocled enwog adran arlwyo Prifysgol Bangor yng Nghanolfan Fôr Cymru ym Mhorthaethwy brynhawn Sadwrn.
Cinio Nos yr Aduniad
Lleoliad: Neuadd Reichel, Ffordd Ffriddoedd, Prifysgol Bangor, Bangor
Amser: 7.00pm - 11:00pm
Cost: £50 y pen
Uchafbwynt yr aduniad i nodi’r 30 mlwyddiant fydd cinio a gaiff ei gynnal yn Neuadd Reichel y Brifysgol ym Mangor. Bydd y digwyddiad hwn yn cynnwys diod groeso, swper tri chwrs, gwin neu ddiod di-alcohol arall a choffi/te ar ddiwedd y pryd. Y gost fydd £50 y pen a bydd bar cyfagos lle bydd modd i chi brynu ychwaneg o ddiodydd, yn ôl yr angen. Hyn a hyn o lefydd sydd ar gael felly caiff y tocynnau hyn ar sail ‘y cyntaf i’r felin’. Archebwch nawr!
DYDD SUL, 26 MAI 2024
Taith dywys ar Ynys Llanddwyn (tua 2-3 oriau)
Lleoliad: Cyfarfod yn y maes parcio wrth draeth Niwbwrch
Amser: 10.00am
Cost: Mae’r daith yn rhad ac am ddim, ond bydd angen talu am barcio.
I’r rhai sy’n dymuno cael ychydig o awyr iach ar ôl y swper ar y nos Sadwrn, rydym wedi trefnu taith gerdded i Ynys Llanddwyn ar arfordir gorllewinol Ynys Môn ar y bore Sul. Bydd y daith yn cael ei thywys gan arbenigwr lleol gyda chymorth yr Athro Dei Huws (Darllenydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion). Bydd y daith gerdded yn cymryd tua dwy awr a bydd yn cynnwys gwybodaeth am fflora/ffawna/daeareg lleol.
Mae’r daith gerdded yn rhad ac am ddim, ond gofynnwn i chi fynegi eich diddordeb drwy’r siop ar-lein.
Cliciwch yma i archebu eich digwyddiadau!
Llety
Mae llety wedi ei gadw ar gyfer mynychwyr yr aduniad yn neuaddau preswyl y Brifysgol ar safle Ffriddoedd ac yn y Ganolfan Rheolaeth ym Mangor. Archebwch eich llety’n uniongyrchol yn defnyddio'r dolenni a'r codau isod:
Neuaddau Preswyl
£40 y noson, pob ystafell yn ystafell sengl.
Archebwch yn uniongyrchol yma, gan ddyfynnu’r cod canlynol: SOS24
https://conference-bookaccommodation.bangor.ac.uk/
Y Ganolfan Rheolaeth
Mae amrywiaeth o ystafelloedd ar gael yng Nghanolfan Rheolaeth y Brifysgol ar Ffordd y Coleg, Bangor.
https://www.bangor.ac.uk/management_centre/accommodation.php.cy
I archebu, ffoniwch y dderbynfa ar 01248 365912, gan ddyfynnu GA01857
Cysylltwch â Bethan Perkins, Swyddog Cysylltiadau Cyn-fyfyrwyr, ar: b.w.perkins@bangor.ac.uk gydag unrhyw ymholiadau eraill.