Cyngerdd Gala diwedd y flwyddyn Prifysgol Bangor
Cynhelir Cyngerdd Gala’r Brifysgol i ddathlu diwedd y flwyddyn yn Neuadd Prichard-Jones nos Sadwrn, 3 Mehefin, am 7.30pm.
Bydd y Cyngerdd yn cynnwys bandiau ac ensemblau o Brifysgol Bangor drwyddi draw, gan gynnwys y band jazz, y gerddorfa linynnol, côr y Gymdeithas Gerdd, y côr siambr, y band cyngerdd a’r gerddorfa symffoni.
Fel rhan o'r noson, bydd nifer o fyfyrwyr yn perfformio fel unawdwyr. Bydd Ellie Billingham, myfyrwraig MMus mewn Perfformio, yn chwarae symudiad cyntaf consierto sielo Elgar yn E leiaf. Bydd Tia Weston a Harry Sullivan, myfyrwyr cerdd blwyddyn olaf, yn chwarae – yn eu tro – ail symudiad consierto trwmped Haydn yn E feddalnod fwyaf, a symudiad olaf Symffoni rhif 3 Saint-Saëns.
Cyngerdd Gala Prifysgol Bangor
Nos Sadwrn 3 Mehefin, 7.30pm: Neuadd Prichard-Jones, Prifysgol Bangor
Tocynnau AM DDIM
Archebwch yma: https://www.eventbrite.com/e/bangor-university-gala-concert-tickets-645257180597