Darlith Flynyddol Yr Archifdy 2023 gan Dr Gruffudd Antur
Archifau a Chasgliadau Arbennig
Dr Gruffudd Antur fydd yn traddodi ein darlith flynyddol eleni ar y 4ydd o Hydref 2023 am 5.30 y.h. yn y Prif Ddarlithfa ym Mhrif Adeilad y Brifysgol .
Brodor o Lanuwchllyn yw Gruffudd Antur. Ar ôl graddio mewn Ffiseg o Brifysgol Aberystwyth, astudiodd am raddau MA a PhD mewn Llenyddiaeth Gymraeg ym Mangor, ac yn 2019 fe'i penodwyd yn Gynorthwyydd Ymchwil yn y Ganolfan Uwchefrydiau yn Aberystwyth, gyda'r cyfrifoldeb penodol o gwblhau gorchestwaith Dr Daniel Huws, A Repertory of Welsh Manuscripts and Scribes c.800–c.1800. Fe'i dyrchafwyd yn Gymrawd Ymchwil yn y Ganolfan yn gynharach eleni, ond ar hyn o bryd mae ar gyfnod sabothol ac yn gweithio ar y prosiect 'The Autograph Prose and Verse Manuscripts of 14th- and 15th-century Welsh Poets' ym Mhrifysgol Aberystwyth dan gyfarwyddyd yr Athro Patrick Sims-Williams. Yn ei amser sbâr mae'n mwynhau canu gyda chôr gwerin Eryrod Meirion, darllen a barddoni, er nad yw'n sgwennu hanner digon.