Darlith Gyhoeddus: 'How the UK can reverse its biodiversity freefall'
Darlith gyhoeddus sy’n rhad ac am ddim gan Craig Bennett, Prif Weithredwr The Wildlife Trusts
I ddathlu Diwrnod Gwlyptiroedd y Byd (dydd Iau, 2 Chwefror) bydd Craig Bennett, Prif Swyddog Gweithredol The Wildlife Trusts yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Bangor ar ddyfodol cadwraeth natur yn y Deyrnas Unedig a’r hyn y mae angen ei wneud i gyrraedd y targedau bioamrywiaeth.
Cafodd Craig ei ddisgrifio fel “one of the country’s top environmental campaigners” a chan The Guardian fel “the very model of a modern eco-general” ac mae wedi cael ei gynnwys yn yr 20 uchaf yn The Sunday Times Green Power List o amgylcheddwyr pennaf y Deyrnas Unedig.
Cyn cael ei benodi’n bennaeth The Wildlife Trusts, Craig oedd Prif Swyddog Gweithredol Cyfeillion y Ddaear lle arweiniodd y sefydliad mewn sawl ymgyrch lwyddiannus gan gynnwys ymgyrchoedd gwenyn, llygredd plastig a ffracio ac ymgyrch yn erbyn ehangu Maes Awyr Heathrow.